Rhoi gwybod i CThEM am staff sy’n dychwelyd i weithio i ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau lleol yn ystod coronafeirws (COVID-19)
Sut mae taliadau yn cael eu trethu ar gyfer staff sy’n dychwelyd i weithio i’r GIG ac awdurdodau lleol i helpu yn ystod pandemig coronafeirws.
Staff sy’n dychwelyd i’r gwaith i helpu yn ystod y pandemig
Bydd staff sy’n ail-ymuno â’r GIG neu awdurdodau lleol i helpu yn ystod pandemig coronafeirws yn cael eu trin fel cyflogeion arferol.
Didynnir Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol fel yr arfer ar bob taliad o gyflog a goramser o dan y drefn Talu Wrth Ennill (TWE).
Dylech hefyd ofyn i’ch cyflogeion sy’n ail-ymuno lenwi rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn.
Os ydynt wedi eu rhoi ar seibiant o gyflogaeth arall, dylent lenwi Datganiad C.
Staff sydd wedi cael taliadau terfyn cyflogaeth neu daliadau dileu swyddi
Mae’n bosibl bod staff sy’n ail-ymuno wedi cael taliad terfyn cyflogaeth neu daliad dileu swyddi ar ddiwedd eu cyflogaeth flaenorol, ac mae’n bosibl bod y taliad hwnnw, hyd at £30,000, wedi’i eithrio rhag treth.
Nid yw’r ffordd o drin treth y taliad hwnnw’n newid. Ni fydd yn rhaid iddynt dalu treth ychwanegol ar eu taliadau terfyn cyflogaeth neu daliadau dileu swyddi blaenorol os ydynt yn dychwelyd i’r gwaith i helpu yn ystod pandemig coronafeirws.
Hyrwyddwyr cynlluniau arbed treth yn targedu gweithwyr y GIG sy’n dychwelyd i’r gwaith
Mae CThEM yn ymwybodol bod hyrwyddwyr diegwyddor cynlluniau arbed treth yn targedu’r gweithwyr hynny sy’n dychwelyd i’r GIG er mwyn helpu i ymateb i goronafeirws (COVID-19). Mae CThEM am i weithwyr sy’n dychwelyd fod yn ymwybodol o’r cynlluniau hyn ac i fod yn ofalus iawn i beidio ag ymuno â’r cynlluniau hyn sydd, yn ôl CThEM, yn enghreifftiau o arbed treth.
Rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM. Mae ar gael i roi cymorth i unrhyw un y mae coronafeirws yn effeithio arno.