Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am ansolfedd ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Sut i roi gwybod i CThEF os bydd sefydliad yn mynd yn ansolfent at ddibenion Treth Deunydd Pacio Plastig, a sut i anfon unrhyw Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein os ydych wedi cael eich penodi fel:

  • ymddiriedolwr mewn methdaliad

  • datodwr

  • gweinyddwr

Dylech ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i CThEF pan fydd y busnes cofrestredig wedi mynd yn ansolfent

  • cyflwyno’r datganiadau perthnasol p’un a yw’r busnes cofrestredig yn parhau i fasnachu ai peidio

  • datgofrestru rhag y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Cyn i chi ddechrau

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mae’n rhaid i chi roi’r manylion canlynol i ni:

  • enw’r sefydliad
  • cyfeiriad y busnes
  • cyfeirnod ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
  • y math o ansolfedd — yn nwylo’r gweinyddwyr, datodiad gwirfoddol aelodau, datodiad gwirfoddol credydwyr
  • y dyddiad pan ddaeth y busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd
  • dyddiad datgofrestru

Rhoi gwybod am ansolfedd

Gallwch roi gwybod am ansolfedd yn ogystal â chyflwyno unrhyw Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru o’r gwasanaeth.

Dechrau nawr

Byddwn yn anelu at ddelio â’ch cais cyn pen 28 diwrnod gwaith.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

  1. Byddwch yn cael cyfeirnod ac e-bost cadarnhau.

  2. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen i chi gyflwyno rhagor o dystiolaeth.

Os oes angen i chi gysylltu â ni i gael help pellach, gallwch ddefnyddio’r manylion cyswllt o’r dudalen we ymholiadau ynghylch Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Updated the guidance to replace ‘insolvency practitioner’ with a list of roles who can submit the online form. Updated to include that you can use the online form to report insolvency, submit returns and deregister from Plastic Packaging Tax.

  2. Added Welsh translation.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon