Canllawiau

Rhowch wybod i CThEM am dandaliad o ran toll dramor neu TAW mewnforio

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddatgelu tandaliad o ran toll dramor, toll ecséis neu TAW mewnforio ar ddatganiad mewnforio (cyrraedd) a wnaed gan ddefnyddio CHIEF.

Os ydych wedi rhoi gwybod i ni am dandaliad o ran toll dramor neu TAW mewnforio yn y gorffennol, ac mae angen i chi anfon rhagor o wybodaeth atom am eich datgeliad, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Bydd angen cyfeirnod eich datgeliad arnoch.

Os dewiswyd cyfrifyddu TAW ohiriedig (a elwir hefyd yn ddull talu ‘G’) fel y dull talu ar y datganiad mewnforio gwreiddiol, dylech roi cyfrif am y tandaliad o ran TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW. Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn, hyd yn oed os dewiswyd y dull talu hwn ar gam.

Os oes angen i chi dalu toll neu drethi ar nwyddau na chawsant eu datgan i’r tollau, ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. I gael cyngor, dylech anfon e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk.

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • nodi’r gwallau ar eich datganiad mewnforio gwreiddiol
  • cyfrifo faint o dollau tramor, toll ecséis a TAW mewnforio y dylech fod wedi’i dalu

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Gwybodaeth am y datganiad neu’r datganiadau mewnforio

Bydd angen i chi roi’r canlynol:

  • Rhif yr Uned Prosesu Cofnodion (EPU)
  • rhif y cofnod
  • dyddiad y cofnod
  • y Cod Gweithdrefnau Tollau (CPC) gwreiddiol

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon ar y datganiad mewnforio (C88 neu Ddogfen Weinyddol Sengl), neu nodyn talu E2 gan ddefnyddio system y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF).

Beth a faint oedd wedi’i dandalu

Bydd angen i chi roi gwybod i ni’r swm a dalwyd i CThEM a’r swm y dylid bod wedi’i dalu i CThEM ar gyfer pob un o’r canlynol a oedd yn cael eu tandalu:

  • TAW Mewnforio (B00)
  • Toll Dramor (A00)
  • toll ecséis
  • Toll Ychwanegol (A20)
  • Toll Gwrth-ddympio Terfynol (A30)
  • Toll Gwrth-ddympio Dros Dro (A35)
  • Toll Gwrthbwyso Terfynol (A40)
  • Toll Gwrthbwyso Dros Dro (A45)
  • Toll Dramor ar gynnyrch Amaethyddol (A10)
  • Toll Digolledu (D10)

Mae’n rhaid i chi hefyd ddarparu’r cyfrifiadau sy’n dangos faint o dreth neu doll y dylid bod wedi’i thalu.

Os ydych yn gwrthbwyso gordaliad Toll Dramor (A00) yn erbyn tandaliad Toll Ychwanegol (A20) (neu’r ffordd arall), anfonwch e-bost at dîm C18 yn gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk.

Rheswm dros y tandaliad

Ar gyfer treth neu doll sydd wedi’i thandalu, bydd angen i chi roi gwybod i ni pa wybodaeth oedd yn anghywir ar y datganiad mewnforio.

Datgelu treth a tholl sydd wedi’u tandalu ar gyfer sawl datganiad mewnforio

Gallwch gynnwys tandaliadau o sawl datganiad mewnforio gan yr un mewnforiwr mewn un datgeliad.

Manylion y cyfrif gohirio

Os ydych yn talu drwy gyfrif gohirio, bydd angen i chi roi rhif y cyfrif gohirio. Os nad eich cyfrif gohirio eich hun ydyw, bydd angen i chi gael naill ai:

  • awdurdod sefydlog fel y nodir ar CHIEF
  • dogfen a ddarparwyd gan berchennog y cyfrif gohirio sy’n rhoi caniatâd i chi ei ddefnyddio — mae’n rhaid dyddio hyn ar ôl i’r datganiad mewnforio gael ei wneud

Datgelu treth neu doll mewnforio sydd wedi’u tandalu ar ran mewnforiwr

Os ydych yn gweithredu ar ran mewnforiwr, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni’r canlynol:

  • rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwr Economaidd y mewnforiwr (EORI) (os oes ganddo un)
  • enw masnachu’r mewnforiwr
  • a yw wedi’i gofrestru ar gyfer TAW
  • ei gyfeiriad fel y gallwn anfon copi o’r nodyn gorchymyn ato

Sut i ddatgelu

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Dylai hyn fod y canlynol:

  • yr un ID a ddefnyddir i gael mynediad at wasanaethau tollau eraill fel ‘Cael rhif EORI
  • yr ID rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes
  • cyfrif sefydliad neu fath unigol - ni allwch gael mynediad at y gwasanaeth hwn gyda Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth math o asiant

Os nad oes gennych chi na’ch sefydliad yr ID hwn, gallwch greu ID newydd o’r dudalen fewngofnodi. Pan ofynnir am y math o gyfrif, dewiswch naill ai ‘sefydliad’ neu ‘unigolyn’, peidiwch â dewis ‘asiant’.

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi fewngofnodi, mae’n bosibl y gofynnir i chi danysgrifio i’r Gwasanaethau Masnachwyr Tollau. Dim ond unwaith y gofynnir i chi wneud hyn. Bydd angen defnyddiwr Porth Llywodraeth sy’n weinyddwr arnoch i drefnu’r tanysgrifiad ar gyfer sefydliad.

Mae angen i chi gwblhau’r datgeliad mewn un tro. Ni allwch gadw’ch atebion a dychwelyd yn nes ymlaen.

Dechrau nawr

Ar ôl i chi ddatgelu

Os cytunwn â’r cyfrifiadau a ddarparwyd gennych, bydd CThEM yn anfon Nodyn Gorchymyn Ar ôl Clirio (C18) atoch yn y post cyn pen 14 diwrnod.

Bydd hyn yn cadarnhau’r hyn sydd arnoch ac, os nad ydych wedi talu drwy ohiriad, bydd yn rhoi gwybod i chi sut i dalu.

Mae’n rhaid i chi dalu cyn pen 10 diwrnod ar ôl derbyn y nodyn gorchymyn neu codir llog arnoch.

Os ydych wedi talu gormod o TAW mewnforio neu dollau tramor gwnewch gais am ad-daliad o dollau mewnforio neu TAW mewnforio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os nad ydych wedi cael y nodyn gorchymyn cyn pen 14 diwrnod, anfonwch e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 30 November 2021