Canllawiau

Gwneud cais am ddiwygiad gwirfoddol ar ôl clirio (tandaliad) (C2001)

Rhowch wybod i CThEF am dandaliadau gwirfoddol sy’n codi wrth fewnforio nwyddau.

Pwy ddylai hawlio

Defnyddiwch y ffurflen C2001 i wneud datgeliad gwirfoddol o dandaliadau sy’n codi wrth fewnforio nwyddau. Bydd hyn yn arwain at godi tâl (C18) ar gyfer y doll neu’r TAW ychwanegol sy’n ddyledus.

Os ydych yn rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW (yn agor tudalen Saesneg), ni ddylech ddefnyddio’r ffurflen C2001.

Os dewiswyd cyfrifyddu TAW ohiriedig (a elwir hefyd yn ddull talu ‘G’) fel y dull talu ar y datganiad mewnforio gwreiddiol, dylech roi cyfrif am y tandaliad o ran TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW. Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn, hyd yn oed os dewiswyd y dull talu hwn ar gam.

Gallwch wneud addasiadau ar eich Ffurflen TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Os ydych yn defnyddio system y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF) er mwyn mewnforio

Bydd angen gwybodaeth benodol arnoch. Ar gyfer y cod gweithdrefn tollau, mae hyn yn cynnwys:

  • y cod gweithdrefn tollau gwreiddiol
  • y cod gweithdrefn tollau diwygiedig, os yw wedi newid
  • manylion y diwygiad

Bydd arnoch angen enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a rhif Cofrestru TAW y:

  • mewnforiwr
  • cynrychiolydd

Ar gyfer y cod nwyddau, mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • rhif yr eitem
  • rhif y blwch
  • rhif y cofnod
  • rhif y cofnod diwygiedig

Bydd angen unrhyw fanylion ynghylch y tandaliad(au) hefyd, megis swm unrhyw doll neu TAW a dalwyd yn barod. Yn ogystal, bydd angen manylion unrhyw:

  • swm o doll neu TAW sy’n ddyledus i CThEF
  • symiau eraill a dalwyd
  • symiau eraill sy’n ddyledus i CThEF

Os ydych yn defnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau er mwyn mewnforio

Bydd angen gwybodaeth benodol ar gyfer codau gweithdrefn arnoch, mae hyn yn cynnwys:

  • y cod gweithdrefn gwreiddiol a chodau gweithdrefn ychwanegol
  • y cod gweithdrefn diwygiedig a chodau gweithdrefn ychwanegol, os ydynt wedi newid
  • manylion y diwygiad

Bydd arnoch angen enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif EORI gan y canlynol:

  • mewnforiwr
  • cynrychiolydd

Ar gyfer y cod nwyddau, mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • rhif yr eitem
  • rhif yr elfen ddata
  • y cyfeirnod symud (MRN)

Bydd angen unrhyw fanylion ynghylch y tandaliad(au) hefyd, megis swm unrhyw doll neu TAW a dalwyd yn barod. Yn ogystal, bydd angen manylion unrhyw:

  • swm o doll neu TAW sy’n ddyledus i CThEF
  • symiau eraill a dalwyd
  • symiau sy’n ddyledus i CThEF

Sut i wneud cais

Sicrhewch fod yr holl ddogfennau a ffeiliau angenrheidiol yn barod gennych i’w cyflwyno ynghyd â’ch datgeliad.

Os gwnaethoch ddefnyddio CHIEF er mwyn mewnforio

Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio ein gwasanaeth C2001 ar-lein, Rhowch wybod i CThEF am dandaliad o ran toll dramor neu TAW mewnforio.

Os byddwch yn penderfynu peidio â defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen C2001.

C2001

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Os gwnaethoch ddefnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau er mwyn mewnforio

Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen C2001-CDS.

C2001CDS

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.
Cyhoeddwyd ar 8 July 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 April 2024 + show all updates
  1. A Welsh version of C2001 CDS form has been added.

  2. The C2001CDS form has been updated.

  3. Forms C2001 and C2001CDS have been updated.

  4. We have updated the PDF document titled ‘C2001CDS’

  5. The C2001 has been updated with a field for importers and representatives to input email addresses.

  6. Information about how you can apply for a voluntary clearance amendment (underpayment) if you use CHIEF to import goods has been updated.

  7. The C2001CDS form has been updated and a Welsh translation of the guide has been added.

  8. The C2001 and C2001CDS forms have been updated.

  9. We have updated the page to confirm that if you account for import VAT on your VAT return you should not use form C2001. You can make adjustments on your VAT return.

  10. First published.