Canllawiau

Cyflwyno tystiolaeth i ategu’ch cais Gwasanaeth Gofal Plant

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i anfon y dystiolaeth y mae CThEF wedi gofyn amdani, i ategu eich cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth neu Ofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim i Rieni sy’n Gweithio.

Pryd i gyflwyno tystiolaeth

Mae angen i chi gyflwyno’ch tystiolaeth i CThEF o fewn 14 diwrnod calendr i gael cais sy’n gofyn amdani drwy lythyr neu drwy’r gwasanaeth negeseuon diogel.

Er enghraifft, os ydym yn anfon neges ddiogel atoch ar 12 Chwefror yn gofyn am dystiolaeth i ategu’ch cais, mae angen i chi gyflwyno’ch tystiolaeth ar neu cyn 25 Chwefror.

Os na fyddwch yn anfon y dystiolaeth atom o fewn 14 diwrnod, byddwn yn gwneud penderfyniad ar sail yr wybodaeth sydd gennym yn barod.

Pwy sy’n gallu cyflwyno tystiolaeth

Mae’n rhaid i’r dystiolaeth gael ei chyflwyno gan y person a wnaeth gais i fod yn ddeiliad y cyfrif Gwasanaeth Gofal Plant.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • y neges ddiogel neu’r llythyr a anfonwyd atoch

  • y dystiolaeth rydym wedi gofyn amdani yn y neges ddiogel neu’r llythyr

Gallwch uwchlwytho copi digidol o’r dogfennau rydym wedi gofyn amdanynt. Efallai y byddwn yn gofyn i chi anfon y dogfennau gwreiddiol yn nes ymlaen.

Cyflwyno’ch tystiolaeth

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i gyflwyno’ch tystiolaeth. Bydd angen arnoch y manylion mewngofnodi a ddefnyddiwyd gennych wrth gofrestru ar gyfer eich cyfrif Gwasanaeth Gofal Plant.

Cyflwyno nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych yn gymwys ai peidio, fel arfer o fewn 15 diwrnod gwaith, naill ai:

  • drwy’r gwasanaeth negeseuon diogel

  • drwy lythyr

Os nad ydych yn gymwys, byddwn yn egluro sut y gallwch herio’r penderfyniad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2026

Argraffu'r dudalen hon