Skip to main content
Canllawiau

Hysbysiad Preifatrwydd Byr CThEF

Darllenwch am bolisi a gweithdrefnau diogelu data CThEF.

Dyma fersiwn cryno o Hysbysiad Preifatrwydd llawn CThEF.

Diben casglu’ch data

Mae CThEF yn diogelu’ch data personol, yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Mae’n gweithredu fel rheolydd data ar gyfer treth, budd-daliadau, prisiadau, cydymffurfiad, a gwasanaethau cysylltiedig.

Pam yr ydym yn defnyddio’ch data

Rydym yn casglu’ch data i wneud y canlynol:

  • casglu trethi
  • gweinyddu budd-daliadau
  • atal twyll
  • darparu gwasanaethau

Mae’r sail gyfreithiol yn cynnwys y canlynol:

  • cydymffurfiad â’r gyfraith
  • tasgau er budd y cyhoedd
  • atal trosedd
  • buddiannau dilys

Pa ddata yr ydym yn eu casglu

Rydym yn casglu’r canlynol:

  • data personol sy’n cynnwys eich enw, manylion cyswllt, rhif Yswiriant Gwladol, incwm, cyflogaeth, eiddo
  • data sensitif (yn agor tudalen Saesneg) gan gynnwys data biometrig, data iechyd a chofnodion troseddol lle bo hynny’n berthnasol

Sut yr ydym yn casglu’ch data

Rydym yn casglu data drwy’r dulliau canlynol:

  • yn uniongyrchol gennych, gan gynnwys eich Ffurflenni Treth, cofrestriadau a’ch galwadau
  • gan drydydd parti, gan gynnwys cyflogwyr, banciau ac awdurdodau eraill

Sut yr ydym yn rhannu’ch data

Mae CThEF yn rhannu’ch data:

  • dim ond pan fo’n ganiataol neu’n ofynnol yn ôl y gyfraith, yn unol â’n dyletswydd statudol o ran cyfrinachedd ac yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data
  • gydag adrannau eraill o’r llywodraeth, awdurdodau cyhoeddus, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, cyrff treth tramor ac ymchwilwyr achrededig

Weithiau, caiff y data hwn eu trosglwyddo y tu allan i’r DU gyda mesurau diogelu ar waith.

Sut yr ydym yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)

Mae CThEF yn defnyddio AI ar gyfer casglu trethi ac atal twyll, gan sicrhau tryloywder, goruchwyliaeth ddynol a chydymffurfid.

Diogelwch a chadw data — sut rydym yn diogelu’ch data

Er mwyn diogelu’ch data:

  • rydym yn dilyn safonau diogelwch llym y llywodraeth
  • mae staff a phartneriaid dibynadwy yn cael eu hyfforddi i drin data’n ddiogel
  • rydym yn cyfyngu mynediad i’r sawl sydd angen ei gael yn unig
  • rydym yn defnyddio mesurau technegol a sefydliadol i gadw’ch data’n ddiogel
  • mae gennym weithdrefnau ar waith i ymdrin â thoriadau data

Darllenwch am atal sgamiau (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwn ond yn cadw’ch data cyn hired ag sy’n angenrheidiol (yn agor tudalen Saesneg), ac yna byddwn yn gwneud y data’n ddienw neu’n eu dileu.

Eich hawliau

O dan GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at eich data personol
  • cywiro data anghywir neu anghyflawn
  • gwneud cais i ddileu’r data pan nad oes unrhyw reswm cyfreithiol i’w gadw
  • gwrthwynebu’r prosesu neu ofyn i ni ei gyfyngu mewn rhai achosion
  • herio penderfyniadau awtomataidd a gwneud cais am adolygiad dynol

Gellir cyfyngu’r hawliau hyn pan fo angen ar gyfer casglu trethi neu atal troseddau.

Cyswllt a chwynion o ran diogelu data

Darllenwch am sut i gysylltu â CThEF, neu sut i wneud cwyn os ydych am wneud cwyn:

  • am y ffordd y mae CThEF wedi trin eich gwybodaeth bersonol
  • i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Mai 2026

Argraffu'r dudalen hon