Canllawiau

Taenlen atodlen i hawlio treth 'nôl ar log ac incwm arall

Cyflwyno cais ar gyfer 'incwm arall' gan ddefnyddio Elusennau Ar-lein.

Mae’n rhaid i chi gofnodi ‘incwm arall’ a dderbyniwyd gan eich elusen y mae treth wedi’i didynnu ohono, e.e. llog banc, incwm o ystadau, cymynroddion, neu freindaliadau, os ydych yn defnyddio Elusennau Ar-lein. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio taenlen atodlen a’i hatodi i’ch cais ar-lein.

Beth i’w gynnwys

Ar y daenlen atodlen incwm arall, rhaid i chi nodi:

  • enw’r talwr (hyd at 40 o gymeriadau)
  • dyddiad y taliad gan ddefnyddio’r fformat DD/MM/BB
  • swm y taliad gros
  • swm y dreth a ddidynnwyd

Mae’n rhaid i chi gael cadarnhad ysgrifenedig gan y talwr yn dangos y dreth sydd wedi’i didynnu o’r incwm a dderbyniwyd.

Os ydych eisoes wedi cadw’r wybodaeth berthnasol ar eich taenlen eich hun, gallwch gopïo a gludo’r cynnwys i’r daenlen atodlen.

Blwch addasu

Mae hwn yn eich galluogi i addasu gwall a wnaed fel rhan o gais blaenorol, a achosodd i chi dderbyn gordaliad nad oes gennych hawl iddo. Mae hyn yn cynnwys cais o dan y Cynllun Cyfraniadau Bach Rhodd Cymorth.

Bydd y swm a or-hawliwyd yn cael ei ddidynnu o’r cais yr ydych yn ei wneud. Pan nad yw hyn yn bosib, e.e. os yw’r swm a ordalwyd yn fwy na’r cais yr ydych yn ei wneud, bydd yn rhaid i chi wneud taliad ychwanegol i Gyllid a Thollau EM (CThEM).

Nodwch swm y dreth a or-hawliwyd, nid gwerth y cyfraniad. Yna, caiff y swm hwn ei ddidynnu o’r cais yr ydych wrthi yn ei gyflwyno.

Terfyn i bob taenlen

Mae gan y daenlen atodlen incwm arall uchafswm o 200 o linellau , felly gallwch ond wneud cais am 200 o gyfraniadau ar un daenlen ar y tro. Peidiwch â defnyddio mwy na’r uchafswm o linellau ar y daenlen atodlen. Ni chaiff unrhyw linellau dros ben hyn eu hatodi fel rhan o’ch cais.

Serch hynny, gallwch gyflwyno cymaint o geisiadau ar-lein ag y dymunwch, felly os oes gennych 300 o gyfraniadau incwm arall, gallwch gyflwyno dau gais gyda 150 o gyfraniadau ar y naill gais a’r llall. Rhaid eich bod wedi cwblhau a chyflwyno un cais ar-lein cyn i chi ddechrau ar yr ail.

Cael y meddalwedd cywir

Mae’r daenlen atodlen ar ffurf OpenDocument (ODF) - fformat rhydd ar gyfer taenlenni a ddefnyddir yn fyd-eang. Mae defnyddio ODF yn golygu bod y daenlen atodlen yn gallu cael ei hagor gydag amrywiaeth o raglenni meddalwedd.

Cyn i chi agor y daenlen atodlen, gwnewch yn siŵr fod gennych un o’r rhaglenni meddalwedd hyn wedi ei gosod ar eich cyfrifiadur:

  • Microsoft Excel - Microsoft Office 2010 ar gyfer Microsoft Windows
  • LibreOffice 3.5 ar gyfer Microsoft Windows, Apple Mac OS a Linux

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel.

Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen LibreOffice. Mae lawrlwytho LibreOffice yn rhad ac am ddim, ac mae’n cymryd ond ychydig o funudau. Lawrlwythwch y fersiwn diweddaraf o LibreOffice (yn agor ffenestr newydd). Peidiwch â lawrlwytho’r fersiwn LibreOffice o’r daenlen atodlen ac yna ceisio ei drosi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall). Os gwnewch hyn, efallai y cewch broblemau.

Efallai y bydd rhaglenni ODF eraill yn eich caniatáu i agor y ffeiliau taenlenni atodlen, ond efallai na fyddant yn eich caniatáu i atodi’ch taenlen i’ch cais ar-lein neu fwrw golwg ar y cynnwys yn Elusennau Ar-lein.

Cadw ac atodi

Pan fydd y meddalwedd priodol gennych i agor y taenlenni atodlen, cadwch y taenlenni ar eich cyfrifiadur. Gallwch eu defnyddio ar unwaith.

Mae tab ag enw i’w weld ar ochr chwith gwaelod pob taflen waith yn y daenlen atodlen. Enw’r tab yw: R68OI_V1_00_0_CY (neu EN ar gyfer y fersiwn Saesneg) - taenlen atodlen incwm arall. Peidiwch â newid yr enw, neu ni fyddwch yn gallu atodi’r daenlen atodlen i’r ffurflen ar-lein yn Elusennau Ar-lein.

Mae gan daenlenni sydd wedi’u cadw ar ffurf OpenDocument yr ôl-ddodiad ‘.ods’ ar ôl enw’r ffeil er mwyn dangos ym mha fformat y mae’r ddogfen wedi’i chadw. Er enghraifft, byddai ffeil o’r enw ‘Cais am Rodd Cymorth 2013’ wedi’i chadw fel ‘Cais am Rodd Cymorth 2013.ods’. Os ydych yn newid yr ôl-ddodiad, efallai y byddwch yn cael problemau wrth geisio uwchlwytho eich taenlen i Elusennau Ar-lein.

Lawrlwytho’r daenlen atodlen

Cyn i chi lawrlwytho’r taenlenni atodlen, mae’n bwysig eich bod yn lawrlwytho a defnyddio’r fersiwn priodol o’r daenlen atodlen ar gyfer eich meddalwedd.

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel. Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen LibreOffice.

Peidiwch â lawrlwytho’r fersiwn LibreOffice o’r daenlen atodlen ac yna ceisio ei drosi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall).

Lawrlwythwch y daenlen atodlen Incwm Arall ar

Cyhoeddwyd ar 11 December 2014