Canllawiau

Gofyn am ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl i derfynu trwydded troseddwr dedfryd amhenodol er mwyn diogelu’r cyhoedd (IPP)

Canllawiau ar ofyn am ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl i derfynu trwydded troseddwr dedfryd amhenodol er mwyn diogelu’r cyhoedd (IPP).

Applies to Northern Ireland and Scotland

Trosolwg

Mae’r Bwrdd Parôl yn gyfrifol am ystyried a yw troseddwr IPP yn addas i derfynu ei drwydded IPP. Mae hyn hefyd yn cynnwys troseddwyr sy’n treulio dedfrydau amhenodol o Garchar er mwyn Diogelu’r Cyhoedd (DPP). Dim ond pan y bydd deng mlynedd wedi mynd heibio ers dyddiad eu rhyddhau gyntaf ar drwydded IPP y gellir ystyried hyn. Mae’r penderfyniad hwn yn seiliedig ar y risg o niwed i’r cyhoedd.

O 1 Medi 2022 ymlaen, bydd holl benderfyniadau’r Bwrdd Parôl i derfynu trwydded troseddwr IPP neu beidio â therfynu trwydded troseddwr IPP yn ddarostyngedig i’r mecanwaith ailystyried.

Os bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu ei bod yn ddiogel dod â thrwydded troseddwr IPP i ben mae’r penderfyniad dros dro ar gyfer 21 diwrnod calendr o’r dyddiad y cyhoeddwyd y penderfyniad (cyfeirir at y cyfnod hwn fel y ‘ffenestr ailystyried’). Yn ystod y cyfnod yma gellir gwneud cais gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ailystyried y penderfyniad os ystyrir:

  • Ei fod yn cynnwys gwall cyfreithiol;
  • na ddilynwyd y broses gywir yn yr adolygiad o’r achos i derfynu’r drwydded – er enghraifft, ni ystyriwyd tystiolaeth bwysig
  • roedd y penderfyniad yn afresymol neu’n afresymegol - ni ellir cyfiawnhau’r penderfyniad ar sail y dystiolaeth o risg a ystyriwyd

Fodd bynnag, mae’r Bwrdd Parôl yn ystyried achosion yn ofalus, felly bydd yn anarferol i benderfyniad newid.

Os nad yw penderfyniad parôl yn cael ei herio o fewn 21 diwrnod calendr daw’n derfynol a rhaid terfynu’r drwydded IPP. Mae hyn yn golygu na fydd y troseddwr yn destun amodau’r drwydded mwyach a bydd y ddedfryd wedi dod i ben.

Yn unol â nod y Bwrdd Parôl ar gyfer tryloywder, bydd pob penderfyniad ailystyried yn cael ei gyhoeddi ar BAILII ar derfyn yr achos perthnasol. Sylwch y bydd unrhyw wybodaeth sensitif yn cael ei golygu cyn ei chyhoeddi, ac ni fydd penderfyniadau’n cael eu cyhoeddi tan ar ôl i achos y Bwrdd Parôl ddod i ben.

Eich hawl i godi materion

Gall dioddefwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb ofyn i Dîm Ailystyried yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ystyried gwneud cais i ailystyried, os ydych chi’n credu bod problem gyda phenderfyniad parôl.

Ni fydd y Bwrdd Parôl yn gallu ailystyried achos yn unig ar y sail nad yw dioddefwr eisiau i drwydded y troseddwr gael ei therfynu.

Siarad â swyddog cyswllt dioddefwyr

Os ydych wedi cofrestru ar y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr (VCS), gall eich Swyddog Cyswllt Dioddefwyr (VLO) eich cefnogi drwy’r broses hon.

Os byddwch yn penderfynu codi materion ynghylch penderfyniad y Bwrdd Parôl gall y swyddog eich helpu i gysylltu â’r Tîm Ailystyried a bydd yn eich diweddaru. Gall eich VLO hefyd ddweud wrthych am wasanaethau cefnogol sydd ar gael.

Gofyn am grynodeb o’r penderfyniad parôl

Wrth benderfynu a ddylid cyflwyno cais i’r Tîm Ailystyried, efallai y byddai’n ddefnyddiol darllen crynodeb penderfyniad y Bwrdd Parôl mewn perthynas â’r achos perthnasol. Bydd y crynodeb yn esbonio sut y daeth y Bwrdd Parôl i’w benderfyniad, gan gynnwys ffactorau risg ac ymddygiad y troseddwr. Gallwch ofyn am grynodeb o’r penderfyniad drwy e-bostio summaries@paroleboard.gov.uk.

Dylai dioddefwyr sy’n rhan o’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr ofyn am y crynodeb o’r penderfyniad drwy eu VLO.

Os nad ydych wedi cofrestru i’r VCS gallwch ofyn am y crynodeb o’r penderfyniad drwy e-bost: summaries@paroleboard.gov.uk.

Gall partïon sydd â diddordeb hefyd ofyn am grynodebau o benderfyniad y Bwrdd Parôl yn yr un ffordd, drwy’r cyfeiriad e-bost uchod.

Sut i ofyn am ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl

Mae gennych 21 diwrnod calendr o’r dyddiad y cyhoeddir penderfyniad y Bwrdd Parôl i gyflwyno eich cais i’r Tîm Ailystyried.

  1. Siaradwch â’ch VLO - bydd yn gallu egluro’r broses.
  2. Llenwi Ffurflen CPD1: Cais i ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl.
  3. E-bostiwch eich ffurflen i’r Tîm Ailystyried.

Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno unrhyw gais i’w ailystyried erbyn 5pm ar Ddiwrnod 21 y ffenestr ailystyried. Os ydych am gyflwyno sylwadau, dylech wneud hynny mewn da bryd cyn y dyddiad cau hwn (dim hwyrach na 24 awr o’r blaen os yn bosib) i sicrhau y gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi ystyriaeth lawn i’r pwyntiau y byddwch chi’n eu gwneud. Ni ellir ystyried y ffurflenni a gyflwynwyd yn agos at y dyddiad cau am 5pm ar Ddiwrnod 21 yn llawn ac felly ni all ffurfio rhan o gais, os oes sail i wneud un.

Ble i anfon y ffurflen

Dylech anfon eich ffurflen drwy e-bost at y Tîm Ailystyried cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd eich VLO yn gallu e-bostio’r ffurflen drosoch.

E-bost: reconsiderationrequests@justice.gov.uk

Cyfrinachedd

Os byddwch yn penderfynu anfon cais i’r Tîm Ailystyried bydd eich manylion yn cael eu trin yn gyfrinachol. Os bydd y tîm yn penderfynu bod sail i wneud cais i ailystyried y penderfyniad, bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn enw’r Ysgrifennydd Gwladol - ni fydd y carcharor yn cael gwybod eich bod yn bersonol wedi codi materion ynglŷn â’i benderfyniad parôl.

Beth sy’n digwydd nesaf

Os yw’r Tîm Ailystyried yn credu y dylid ailystyried y byddant yn gwneud cais i’r Bwrdd Parôl o fewn y ffenestr ailystyried.

Os ydych wedi gwneud cais i’r Tîm Ailystyried, cewch wybod a ydynt wedi gwneud cais i’r Bwrdd Parôl i ailystyried yr achos ai peidio.

Os gwneir cais i ail-ystyried i’r Bwrdd Parôl

Os bydd y Tîm Ailystyried yn cyflwyno cais am ailystyried i’r Bwrdd Parôl, gohirir terfynu trwydded IPP y troseddwyr.

Bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu:

  • A oedd y penderfyniad gwreiddiol yn gywir ac y dylid bwrw ymlaen i derfynu’r drwydded IPP
  • A ddylid edrych ar yr achos eto, fydd yn golygu y bydd gwrandawiad papur newydd, a bydd penderfyniad newydd yn cael ei wneud

Os bydd y Bwrdd Parôl yn canfod bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir ond ei fod yn cynnwys gwall, bydd yn nodi’r camgymeriad ac yn cadarnhau y dylid terfynu’r drwydded IPP beth bynnag.

Os edrychir ar yr achos eto:

Os bydd cais i ail-ystyried yn llwyddiannus, bydd y Bwrdd Parôl yn edrych ar yr achos eto ar bapur (yn eithriadol gall y Bwrdd Parôl benderfynu mynd ymlaen i wrandawiad llafar).

Fodd bynnag, os caiff yr achos ei ailystyried fel hyn, bydd cyfle i ddioddefwyr wneud datganiad dioddefwr arall neu i ailgyflwyno’r un gwreiddiol. Bydd eich VLO yn esbonio’r amserlen ac yn eich helpu drwy’r broses.

Gallai’r Bwrdd Parôl benderfynu:

  • Terfynu’r drwydded IPP
  • Peidio terfynu’r drwydded IPP
  • Y dylid atal goruchwyliaeth y troseddwr IPP - mae hyn yn golygu bod y drwydded yn dal mewn grym, ond ni fydd gan y troseddwr unrhyw oruchwyliaeth weithredol
  • Y dylid amrywio’r drwydded - dyma pryd y caiff amodau’r drwydded ar drwydded IPP eu newid.

Achosion lle penderfynodd y Bwrdd Parôl beidio terfynu trwydded troseddwr IPP

Pan fydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu nad yw’n ddiogel terfynu trwydded troseddwr IPP, bydd y penderfyniad hefyd dros dro am 21 diwrnod calendr (cyfeirir at y cyfnod hwn fel y ‘ffenestr ailystyried’). Yn ystod y cyfnod yma mae modd i’r carcharor wneud cais i ailystyried y penderfyniad os ystyrir:

  • Ei fod yn cynnwys gwall cyfreithiol;
  • na chafodd y broses gywir ei dilyn yn yr adolygiad o’r achos i derfynu’r drwydded - er enghraifft, ni ystyriwyd tystiolaeth bwysig
  • roedd y penderfyniad yn afresymol neu’n afresymegol - ni ellir cyfiawnhau’r penderfyniad ar sail y dystiolaeth o risg a ystyriwyd

Pan fydd y troseddwr yn penderfynu gwneud cais, bydd y broses a ddilynir yn debyg iawn i’r uchod. Os bydd cais i ail-ystyried yn llwyddiannus, bydd y Bwrdd Parôl yn edrych ar yr achos eto ar bapur (yn eithriadol gall y Bwrdd Parôl benderfynu mynd ymlaen i wrandawiad llafar).

Os gwneir y penderfyniad eto, bydd cyfle i ddioddefwyr wneud datganiad dioddefwr arall neu ailgyflwyno’r un gwreiddiol. Bydd eich VLO yn esbonio’r amserlen ac yn eich helpu drwy’r broses. Fel y nodir uchod, gallai’r Bwrdd Parôl benderfynu: * Terfynu’r drwydded IPP * Peidio terfynu’r drwydded IPP * Y dylid atal goruchwyliaeth y troseddwr IPP - mae hyn yn golygu bod y drwydded yn dal mewn grym, ond ni fydd gan y troseddwr unrhyw oruchwyliaeth weithredol * Y dylid amrywio’r drwydded - dyma pryd y caiff amodau’r drwydded ar drwydded IPP eu newid. Cyhoeddwyd ar 22 Medi 2022

Cyhoeddwyd ar 22 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 November 2022 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.