Gwnewch gais am wiriad band gwerth cyn cyflwyno datganiad Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgâu
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i ofyn i CThEF i wirio prisiad eich eiddo ar gyfer Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgâu (ATED).
Os ydych chi’n meddwl bod gwerth eich annedd o fewn 10% i drothwy Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgâu (ATED) (yn agor tudalen Saesneg), dylech lenwi ffurflen i wirio band gwerth cyn cyflwyno datganiad.
Mae CThEF yn cynnal gwiriadau ar fanylion a phrisiad eich eiddo i weld a oes angen i chi dalu ATED.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi wybod y canlynol:
- manylion y person sy’n drethadwy, gan gynnwys ei gyfeiriad
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (yn agor tudalen Saesneg) ATED, os oes gennych un
- dynodydd unigryw eich busnes, os yw’n berthnasol
- rhif, cyfeiriad a theitl yr eiddo
- a yw’n eiddo prydlesol
- y dyddiad y cafodd yr eiddo ei gaffael
- gwerth yr eiddo pan gafodd ei gaffael
- y dyddiad y cafodd y prisiad ei wneud a’r hyn a gafodd ei gynnwys
- dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben ar gyfer y cyfnod trethadwy
Gwnewch gais am wiriad band gwerth cyn cyflwyno datganiad
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
Ar ôl ei chwblhau, bydd angen i chi e-bostio’r ffurflen atom ni.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Byddwch yn cael cadarnhad a chyfeirnod. Dylech gynnwys y cyfeirnod ar eich datganiad neu unrhyw lythyrau rydych chi’n eu hanfon am wiriad band gwerth cyn cyflwyno.
Fel arfer, o fewn 30 diwrnod gwaith i gael eich ffurflen gwirio band gwerth cyn cyflwyno byddwn naill ai’n:
- cytuno eich bod wedi dewis y band gwerth cywir
- gofyn i chi am ragor o wybodaeth i helpu i wneud penderfyniad
- rhoi gwybod i chi nad ydyn nhw’n cytuno â’ch band gwerth a gadel i chi wybod beth ddylai’r band gwerth cywir fod
- rhoi gwybod i chi fod angen iddynt edrych y tu mewn i’r adeilad i gwblhau eu gwiriad
Yn ystod adegau prysur, efallai y byddwn yn cymryd mwy o amser i ateb.
Fel arfer, byddwn yn derbyn prisiadau a baratowyd gan brisiwr eiddo proffesiynol, ond efallai y byddwn yn ymholi am unrhyw ddatganiadau hwyrach ac yn herio prisiadau ynddynt.
Os nad ydych yn cael eich gwiriad band gwerth cyn cyflwyno datganiad mewn pryd i gyflwyno’ch datganiad
Os ydych chi’n meddwl y gallai fod angen i chi dalu ATED, anfonwch eich datganiad ATED (yn agor tudalen Saesneg) a’ch taliad treth gan ddefnyddio’r band gwerth rydych chi’n meddwl sy’n gywir. Efallai y byddwn yn penderfynu dechrau ymchwiliad ar eich datganiad i ystyried y band gwerth priodol ar gyfer eich eiddo.
Os ydych chi’n cael eich gwiriad band gwerth cyn cyflwyno datganiad ar ôl i chi anfon eich datganiad i mewn ac nad ydym yn cytuno â’ch prisiad, bydd angen i chi gwblhau datganiad diwygiedig (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn cytuno â’n gwiriad band gwerth cyn cyflwyno
Os yw eich amcangyfrif o werth yr eiddo yn golygu bod angen i chi dalu treth, dylech gyflwyno’ch datganiad gan ddefnyddio’ch prisiad. Efallai y byddwn yn penderfynu agor ymholiad i’ch datganiad ac edrych ar y band gwerth priodol ar gyfer eich eiddo eto.
Os ydych chi’n meddwl nad oes angen i chi dalu ATED oherwydd bod eich eiddo yn is na’r trothwy prisio, efallai y byddwn yn cyhoeddi ‘dyfarniad’. Dyma amcangyfrif o’r hyn rydyn ni’n meddwl sydd arnoch yn seiliedig ar ein prisiad o’ch eiddo a gofynnir i chi am daliad.
Gallwch apelio yn erbyn y dyfarniad (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn cytuno ag ef ond ni allwch apelio yn erbyn y gwiriad band gwerth cyn cyflwyno.
Os oes angen unrhyw help arnoch, gallwch ffonio’r llinell gymorth ATED (yn agor tudalen Saesneg).