Talu treth flynyddol ar anheddau sydd wedi’u hamgáu
Sut i dalu treth flynyddol ar anheddau wedi’u hamgáu (ATED), a faint o amser y mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Efallai y bydd angen i chi dalu treth flynyddol ar anheddau sydd wedi’u hamgáu (ATED) (yn agor tudalen Saesneg) os yw’ch cwmni, partneriaeth neu gynllun buddsoddi ar y cyd yn berchen, yn llawn neu’n rhannol, ar eiddo preswyl sy’n werth mwy na £500,000.
Mae’n rhaid i chi ddatgan unrhyw enillion ar Ffurflen Dreth gorfforaethol eich cwmni (yn agor tudalen Saesneg). Os nad ydych eisoes yn cyflwyno Ffurflen Treth Gorfforaeth, mae’n rhaid i chi gofrestru cofrestru cwmni dibreswyl ar gyfer Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Pryd i dalu
Bydd yn rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth (yn agor tudalen Saesneg) a thalu’r dreth sydd arnoch erbyn y dyddiad cau.
Mae dyddiad talu ATED yr un fath â dyddiadau cyflwyno eich Ffurflen Dreth (yn agor tudalen Saesneg), sef, fel arfer, 30 Ebrill o fewn y cyfnod trethadwy.
Lle bo’r dyddiad cyflwyno yn disgyn ar ôl 30 Ebrill yn y cyfnod trethadwy, y dyddiad talu fydd y dyddiad cyflwyno hwnnw sy’n hwyrach.
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Beth sydd ei angen arnoch chi
Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Gallwch weld hwn ar y llythyr neu’r e-bost a anfonwyd atoch gan CThEF ar ôl i’ch Ffurflen Dreth neu grynodeb ddod i law
Os byddych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.
Talu ar-lein
Gallwch gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein.
Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
- cod didoli — 08 32 10
- rhif y cyfrif — 12001020
- enw’r cyfrif — HMRC Shipley
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
- rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
- enw’r cyfrif — HMRC Shipley
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Talu â siec
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.
Os ydych yn anfon siec ar gyfer mwy nag un eiddo, dylech restru pob annedd a nodi’r cyfeirnod talu yn erbyn pob swm.
Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.
Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.
Anfonwch eich siec i:
Cyllid a Thollau EF
Direct
BX5 5BD
Updates to this page
-
A Welsh translation has been added.
-
Information about annual tax on enveloped dwellings (ATED) related Capital Gains Tax has been removed.
-
A new section on 'When to pay' has been added to make clear when payments must be made by.
-
Information has been added about how to approve a payment through your online bank account.
-
The guidance has been updated to reflect that ATED-related Capital Gains Tax will no longer apply from 6 April 2019, and any disposal made from this date will be liable to Corporation Tax.
-
Guidance on paying by cheque through the post has been updated.
-
Updated information in the 'ATED-related Capital Gains Tax' section.
-
Information added to explain the new rate band of £500,000.
-
The Annual Tax on Enveloped Dwellings related Capital Gains Tax section has been amended for extra clarity.
-
Overseas payment details updated.
-
The pay by cheque through the post address has changed to HM Revenue and Customs, Direct, BX5 5BD.
-
Updated to include 1 October 2015 deadline for properties in the new £1 million to £2 million band.
-
First published.