Canllawiau

Rhoi gwybod am allforion sydd wedi cyrraedd neu adael porthladd yn y DU ac na chawsant eu datgan drwy’r system CHIEF

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEM am allforion na wnaethoch roi gwybod amdanynt drwy’r system CHIEF pan wnaethant gyrraedd neu adael y porthladd yn y DU.

Cyn i chi ddechrau

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEM pan fydd y canlynol yn berthnasol i’ch nwyddau:

  • maent yn cyrraedd porthladd yn y DU nad oes ganddo gyfleusterau CHIEF
  • maent yn gadael porthladd yn y DU nad oes ganddo gyfleusterau CHIEF
  • maent yn cael eu hallforio’n uniongyrchol, a ni chawsoch gliriad gan CThEM ymlaen llaw

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.

Bydd angen i chi danysgrifio’r tro cyntaf y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am y tro cyntaf fod eich nwyddau wedi cyrraedd neu adael porthladd yn y DU.

Hefyd, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cymeradwyaeth CThEM ar gyfer nwyddau sy’n cyrraedd a gadael
  • Datganiad o Gyfeirnod Unigryw y Llwyth (DUCR)
  • Cyfeirnod Meistr Unigryw y Llwyth (MUCR) os cafodd eich nwyddau eu cyfuno i lwyth mwy o faint
  • manylion ynghylch i ble ac o ble yr ydych yn anfon yr allforyn

Mae’n rhaid i chi lenwi un o’r ffurflenni canlynol ar-lein, cadw copi ohoni a’i huwchlwytho i’r gwasanaeth ar-lein:

Ni allwch ddefnyddio ffurflen C1603 ar gyfer allforion anuniongyrchol drwy un o wledydd yr UE. Os oes gennych broblemau gydag allforion anuniongyrchol, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth System Rheoli Allforion ar: ecs.helpdesk@hmrc.gov.uk.

Bydd angen i chi uwchlwytho’r holl waith papur sy’n ategu’ch datganiad, er enghraifft:

  • unrhyw drwyddedau neu dystysgrifau
  • tystiolaeth o werth y nwyddau
  • rhestr bacio o’r eitemau sydd wedi’u cynnwys
  • tystysgrifau ar gyfer tystiolaeth o darddiad

Anfonwch e-bost i CThEM er mwyn gofyn am gael y ffurflenni hyn yn Gymraeg..

Anfon eich dogfennau

Dechrau nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn.

Cyhoeddwyd ar 19 August 2021