Cofrestrwch i gwblhau datganiadau tarddiad o dan Gytundeb Masnach Rydd y DU ac India
Cofrestru gyda CThEF os ydych yn bwriadu cwblhau datganiadau tarddiad ar gyfer allforion o dan Gytundeb Masnach Rydd y DU ac India.
Pwy sydd angen cofrestru
Bydd angen i chi gofrestru gyda CThEF os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gynhyrchydd neu’n allforiwr yn y DU sy’n allforio nwyddau sydd yn deillio o’r DU i India
- rydych yn bwriadu cwblhau datganiadau tarddiad (yn agor tudalen Saesneg) o dan Gytundeb Masnach Rydd y DU ac India
Mae’r cytundeb yn eich caniatáu i hunanardystio tarddiad, yn hytrach na gorfod meddu ar dystysgrif tarddiad gan awdurdod cymhwysedd pob tro y byddwch yn anfon llwyth o nwyddau i India.
Cewch barhau i allforio i India heb ddatganiadau tarddiad os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
- nid yw eich nwyddau yn gymhwysol ar gyfer tariffau ffafriol
- rydych yn dewis peidio defnyddio Cytundeb Masnach Rydd y DU ac India
Mae’n bosibl bydd eich nwyddau yn agored i gyfraddau tariff nad ydynt yn ffafriol os nad ydych yn defnyddio datganiadau tarddiad.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) sydd gennym ar ein cofnodion ar gyfer eich busnes
- eich enw masnachu neu’ch enw busnes
- prif gyfeiriad e-bost, a hyd at 10 cyfeiriad e-bost ychwanegol — gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r rhain i anfon datganiadau tarddiad at awdurdod tollau India
Gydag un rhif EORI yn unig y cewch gofrestru’r cyfeiriadau e-bost hyn er mwyn cwblhau datganiadau tarddiad o dan Gytundeb Masnach Rydd y DU ac India.
Os ydych yn cofrestru cyfeiriad e-bost gyda mwy nag un rhif EORI, mae’n bosibl bydd awdurdod tollau India yn gwneud y canlynol:
- methu dilysu’r llwyth
- gwrthod unrhyw ddatganiad tarddiad sy’n gysylltiedig â’r rhifau EORI hyn
Os yw hyn yn digwydd, ni fydd y mewnforiwr yn India yn gallu hawlio tariff ffafriol.
Byddwn yn rhannu’ch manylion gydag awdurdod tollau India er mwyn dilysu pob llwyth sy’n cael ei allforio o dan Gytundeb Masnach Rydd. Darllenwch am y ffordd yr ydym yn diogelu data ac yn prosesu gwybodaeth bersonol Hysbysiad Preifatrwydd CThEF.
Cofrestru ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi i gofrestru ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Ar ôl i chi gofrestru
Gyda phob llwyth o nwyddau y byddwch yn eu hanfon, bydd rhaid i chi gwblhau ‘Annex 3B: Origin Declarations Template’ (yn agor tudalen Saesneg), a’i anfon at un o’r canlynol:
- awdurdod tollau India
- mewnforiwr yn India
O fis Gorffennaf 2026 ymlaen, gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:
- newid eich manylion cofrestru
- canslo eich cofrestriad
Updates to this page
-
A link has been added to explain how UK exporting businesses can qualify for preferential tariffs under the UK–India Free Trade Agreement.
-
First published.