Canllawiau

Profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login drwy ateb cwestiynau diogelwch

Beth i'w wneud os ydych yn cael problemau yn profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login gan ddefnyddio cwestiynau diogelwch.

Ar hyn o bryd gallwch ond profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login os oes gennych ID gyda llun. Gallwch ddarganfod mwy am y gwahanol ffyrdd i brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login a pha ID gyda llun y gallwch eu defnyddio.

Os nad oes gennych ID gyda llun, gallai’r gwasanaeth rydych yn ceisio’i ddefnyddio gynnig ffordd i brofi eich hunaniaeth heb ddefnyddio GOV.UK One Login. Ewch yn ôl i’r gwasanaeth rydych chi am ei ddefnyddio i ddarganfod mwy.

Os gwnaethoch gamgymeriad wrth ateb cwestiwn diogelwch

Rydym yn defnyddio Experian, asiantaeth gwirio credyd, i ofyn cwestiynau diogelwch i chi mai dim ond chi dylai wybod yr atebion iddynt. Mae hyn yn helpu i’ch amddiffyn rhag lladrad hunaniaeth.

Os ydych wedi gwneud camgymeriad yn eich atebion ni allwch ddefnyddio’r dull hwn eto i brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn helpu i’ch diogelu a sicrhau y gallwn gadw eich manylion yn ddiogel.

Ewch yn ôl i’r gwasanaeth rydych chi am ei ddefnyddio i ddarganfod a allwch roi cynnig ar ffordd arall o brofi eich hunaniaeth.

Os credwch fod unrhyw wybodaeth yn eich ffeil credyd yn anghywir, gallech ofyn am gopi o’ch ffeil credyd i wirio am unrhyw wallau. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu ag unrhyw asiantaeth gwirio credyd.

Os oes gennych enwau gwahanol ar wahanol ddogfennau hunaniaeth

Rhaid i’r manylion ar yr ID gyda llun rydych yn ei ddefnyddio i brofi’ch hunaniaeth gyd-fynd â’r manylion y mae Experian yn eu cadw amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys unrhyw enwau canol neu lythrennau. Ar hyn o bryd ni allwch brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login os nad yw’r enwau’n cyfateb yn union.

Cyhoeddwyd ar 26 October 2023