Canllawiau

Prosesu neu storio nwyddau tebyg i gymryd lle nwyddau o dan weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn y DU

Dysgwch sut y gallwch brosesu neu storio nwyddau cylchrediad rhydd tebyg yn lle nwyddau rydych wedi’u datgan i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn y DU.

Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd’ (Green Freeports) yn yr Alban, oni nodir yn wahanol.

Gallwch brosesu neu storio nwyddau cylchrediad rhydd tebyg yn lle nwyddau a fewnforir o dan weithdrefn arbennig tollau porthladd rhydd (caniatâd unigol ynghyd â gofynion datgan haws). Yr enw ar hyn yw cyfwerthedd. Mae nwyddau cylchrediad rhydd yn nwyddau y gellir eu symud heb gyfyngiad ac mae unrhyw dollau wedi cael eu talu arnynt.

Mae rheolau gwahanol yn dibynnu ar a ydych yn storio neu’n prosesu eich nwyddau.

Ni allwch ddefnyddio cyfwerthedd os:

  • mai’r bwriad yw gwrthbwyso allforion nwyddau cylchrediad rhydd fel eich bod yn gallu lleihau biliau mewnforio ar fewnforion o’r tu allan i’r DU i’w defnyddio ym marchnad y DU
  • gall eich cwsmeriaid wahaniaethu rhwng nwyddau rydych yn eu prosesu a nwyddau cylchrediad rhydd

Mae angen i chi rhoi gwybod i ni y byddwch yn defnyddio cyfwerthedd pan fyddwch yn gwneud cais i ddefnyddio’r weithdrefn arbennig tollau porthladd rhydd.

Os bydd angen i chi ddefnyddio cyfwerthedd ar ôl i ni roi caniatâd i chi, bydd yn rhaid i chi wneud cais i ddiwygio eich caniatâd.

Cyn i chi brosesu neu storio nwyddau cylchrediad rhydd tebyg

Mae angen i’r nwyddau cylchrediad rhydd cyfatebol rydych chi’n eu prosesu neu’n eu storio gael yr un:

  • cod nwyddau tariff 8-digid
  • ansawdd masnachol
  • nodweddion technegol

Hefyd, rhaid i chi benderfynu:

  • a allech gyfnewid y nwyddau am ei gilydd
  • a yw’r nwyddau ddim yn amlwg yn wahanol
  • a fyddai eich cwsmeriaid yn derbyn y gwahaniaeth yn y nwyddau

Nwyddau gyda gwahanol reolau

Os ydych yn prosesu neu’n storio nwyddau cyfatebol, ni allwch ddisodli:

  • nwyddau organig gyda nwyddau a gynhyrchir yn gonfensiynol
  • nwyddau a gynhyrchir yn gonfensiynol gyda nwyddau organig

Mae rheolau gwahanol hefyd ar gyfer rhai nwyddau eraill.

Reis

Awdurdodir reis o dan bennawd tariff 10.06. Dim ond os yw cymhareb hyd a lled y reis o fewn paramedrau penodol y gellir ei gymeradwyo.

Gwenith

Gellir awdurdodi gwenith rhwng gwenith a gynaeafwyd y tu allan i’r DU a ryddheir i gylchrediad rhydd a gwenith nad yw’n dod o’r DU.

Siwgr

Caniateir cyfwerthedd ar gyfer cynhyrchu siwgr gwyn sy’n dod o fewn cod CN 1701 99 10 rhwng:

  • siwgr cansen amrwd sy’n dod o fewn cod CN 1701 11 90
  • siwgr betys amrwd sy’n dod o dan y cod CN 1701 12 90

Mae’r terfyn amser ar gyfer mewnforio’r nwyddau yn eu lle wedi’i gyfyngu i gyfnod dilysrwydd y drwydded mewnforio.

Anifeiliaid byw a chynnyrch cig

Ni chaniateir defnyddio cyfwerthedd ar gyfer anifeiliaid byw a chig. Gellir codi’r gwaharddiad mewn amgylchiadau eithriadol. Cysylltwch â CThEF os credwch fod amgylchiadau o’r fath yn berthnasol.

Llaeth a chynnyrch llaeth

Caniateir cyfwerthedd dim ond ar yr amod nad yw’r sylwedd llaeth sych, y sylwedd braster llaeth a’r protein llaeth o’r nwyddau cyfatebol yn is na’r rhai yn y nwyddau sy’n cael eu mewnforio.

Bwydydd a addaswyd yn enetig

Ni ddylai’r sawl sy’n rhoi’r caniatâd na’r cwsmeriaid wahaniaethu rhwng bwydydd sydd wedi’u haddasu a bwydydd sydd heb eu haddasu. Dylai’r cynnyrch fod yr un mor dderbyniol i gwsmer sydd y tu allan i’r DU ag i gwsmer yn y DU sy’n gwerthu bwydydd tebyg heb eu haddasu.

Ni allwch ddefnyddio nwyddau cyfatebol os ydych yn prosesu nwyddau sensitif (yn Saesneg).

Sut i storio nwyddau cyfatebol

Storio nwyddau cyfatebol gyda’i gilydd

Gallwch storio’r nwyddau cyfatebol gyda’r rhai rydych wedi’u datgan ar gyfer cylchrediad rhydd. Gelwir hyn naill ai’n storfa gyffredin neu’n stocio cyffredin.

Nid oes angen i chi allu gwahaniaethu rhyngddynt a gallwch ddefnyddio unrhyw rai o’r nwyddau hyn i gyflawni archeb. Dylai eich cofnodion ddangos pa nwyddau:

  • a gafodd eu datgan i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer porthladdoedd rhydd
  • sy’n nwyddau cylchrediad rhydd

Os ydych yn mewnforio nwyddau i’w prosesu neu eu hatgyweirio, gallwch allforio darn newydd rydych wedi’i atgyweirio’n barod os yw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cyfwerthedd.

Storio nwyddau cyfatebol mewn Porthladd Rhydd

Gallwch storio nwyddau cyfatebol gydag unrhyw nwyddau eraill o’r DU neu’r tu allan i’r DU. Efallai y bydd CThEF yn gofyn i chi nodi’r nwyddau cyfatebol hyn ar adegau penodol.

Os na allwch wneud hyn, byddwn yn cyfrifo swm y nwyddau cyfatebol drwy edrych ar nifer, math, statws a tharddiad pob math o nwyddau.

Bydd eich nwyddau cyfatebol yn newid i nwyddau nad ydynt o’r DU pan fyddwch yn eu rhyddhau neu pan fyddant wedi gadael y DU.

Bydd y nwyddau cyfatebol a’r cynnyrch a broseswyd yn dod yn nwyddau nad ydynt o’r DU. Mae’r nwyddau maen nhw’n cymryd eu lle yn dod yn nwyddau’r DU pan fyddan nhw’n cael eu rhyddhau neu pan fyddan nhw wedi gadael y DU.

Os ydych yn rhoi ar werth nwyddau sydd wedi cael eu prosesu o dan weithdrefn arbennig tollau porthladd rhydd cyn i chi eu rhyddhau, bydd eu statws yn newid o nwyddau o’r tu allan i’r DU i nwyddau o’r DU. Os nad yw’r nwyddau cyfatebol ar gael pan fyddwch yn rhoi eich nwyddau ar werth, gallwch ofyn bod y nwyddau cyfatebol ar gael yn ddiweddarach. Rhaid i chi gysylltu â’ch swyddfa oruchwylio i ofyn am yr amser ychwanegol.

Cyhoeddwyd ar 8 October 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 December 2021 + show all updates
  1. Welsh translation has been added.

  2. Updated to clarify this guidance is about processing or storing similar free circulation goods in place of goods that you have declared to the Freeport customs special procedure.

  3. First published.