Canllawiau

Cynlluniau pensiwn y sector preifat yr effeithir arnynt gan y cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus

Gall gweinyddwyr cynlluniau pensiwn y sector preifat dalu, rhyddhau neu ofyn am ad-daliad o dâl lwfans oes aelod os yw wedi newid yn dilyn y cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir hefyd yn McCloud).

Pan fo aelod o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus wedi crisialu ei fuddiannau, gall effaith y cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus newid:

  • canran y lwfans oes a ddefnyddiwyd yn sgil ail-gyfrifo’i fuddiannau
  • gwerth y diogelwch lwfans oes
  • y mesurau diogelwch lwfans oes y mae’n gymwys i’w cael

Os oedd gan yr aelod ddigwyddiad crisialu buddiannau yn eich cynllun pensiwn ar ôl dyddiad y digwyddiad crisialu buddiannau yn ei gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, dylai roi unrhyw wybodaeth newydd i chi yn dilyn y cynllun unioni.

Mae dwy sefyllfa pan fo angen talu tâl lwfans oes yn dilyn digwyddiad crisialu buddiannau:

  • pan fydd y swm sy’n crisialu yn y digwyddiad crisialu buddiannau hwnnw yn fwy na’r swm sydd ar gael o lwfans oes yr aelod
  • pan fydd digwyddiad crisialu buddiannau yn digwydd ac nad oes gan yr aelod lwfans oes ar gael (oherwydd bod ei lwfans oes wedi cael ei ddefnyddio gan ddigwyddiadau crisialu buddiannau cynharach)

Os oes gan aelod ddiogelwch lwfans oes newydd neu wedi’i ddiweddaru, efallai y bydd angen i chi brosesu’r digwyddiad crisialu buddiannau eto.

Os oes gan yr aelod dâl lwfans oes wedi’i gynyddu

Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais i ryddhau’r tâl lwfans oes (yn agor tudalen Saesneg) os oes tâl lwfans oes newydd neu wedi’i gynyddu yn eich cynllun pensiwn a fyddai wedi digwydd rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2023.

Os ydych am dalu’r tâl lwfans oes newydd neu wedi’i gynyddu (yn agor tudalen Saesneg), dylech roi gwybod am hyn ar y ffurflen Rhoi Cyfrif am Dreth ar gyfer:

  • y chwarter y rhoddwyd gwybod amdano’n wreiddiol o ran cynyddu’r tâl

  • y chwarter y dylid fod wedi rhoi gwybod amdano ar adeg y buddiant y digwyddiad crisialu, os yw’n dâl newydd

Os oes gan yr aelod dâl lwfans oes wedi’i ostwng

Os ydych wedi rhoi gwybod o’r blaen am dâl lwfans oes ar gyfer aelod, ac wedi’i dalu, a bod ei dâl wedi gostwng o ganlyniad i’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus, bydd angen i chi ddiwygio eich ffurflen Rhoi Cyfrif am Dreth wreiddiol. Ar ôl gwneud hyn, gallwch ofyn am ad-daliad ar gyfer y gostyngiad (yn agor tudalen Saesneg) gan CThEF.

Os talwyd cyfandaliad lwfans oes sydd dros ben i’r aelod

Pan fo dewis yr aelod drwy’r cynllun unioni yn gostwng swm y lwfans oes a ddefnyddiwyd, gallai hyn olygu bod gan yr aelod lwfans oes ychwanegol ar gael ac nad yw’r holl gyfandaliad a oedd yn gyfandaliad lwfans oes sydd dros ben, neu ran ohono, bellach yn gyfandaliad lwfans oes sydd dros ben.

Pan fo’r lwfans oes sydd ar gael i’r aelod bellach yn fwy na swm y cyfandaliad lwfans oes sydd dros ben, bydd y cyfandaliad cyfan yn cael ei awdurdodi. Bydd digwyddiad crisialu buddiannau yn y flwyddyn dreth y daeth yr aelod yn gymwys i gael y cyfandaliad. Ni fydd 25% o’r cyfandaliad yn agored i dreth incwm. Bydd y 75% sy’n weddill yn agored i’r tâl lwfans oes ar gyfradd arbennig o 40%.

Pan fo swm y cyfandaliad lwfans oes sydd dros ben yn fwy na’r lwfans oes sydd ar gael i’r aelod, bydd y cyfandaliad yn cael ei rannu’n ddau daliad wedi’u hawdurdodi. Mae’r swm sy’n uwch na’r lwfans oes sydd ar gael i’r aelod yn dal i fod yn gyfandaliad lwfans oes sydd dros ben sy’n agored i dâl lwfans oes o 55%. Mae’r swm sy’n is na’r lwfans oes sydd ar gael i’r aelod wedi’i awdurdodi, a bydd yn ddigwyddiad crisialu buddiannau yn y flwyddyn dreth y daeth yr aelod yn gymwys i gael y cyfandaliad. Ni fydd 25% o’r cyfandaliad yn agored i dreth incwm. Bydd y 75% sy’n weddill yn agored i’r tâl lwfans oes ar gyfradd arbennig o 40%.

Enghraifft o pan oedd aelod wedi talu cyfandaliad lwfans oes sydd dros ben

Yn y flwyddyn dreth 2020 i 2021, mae Aelod A yn crisialu buddiannau drwy gynllun Pennod 1 gan ddefnyddio 80% o’r lwfans oes. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio gan:

  • pensiwn y cynllun (digwyddiad crisialu buddiannau 2) — sy’n defnyddio 69% o’i lwfans oes

  • cyfandaliad cychwyn pensiwn (digwyddiad crisialu buddiannau 6) — sy’n defnyddio 11% o’i lwfans oes

Yn y flwyddyn dreth 2021 i 2022, mae Aelod A yn crisialu’r buddiannau canlynol drwy gynllun nad yw’n un gwasanaeth cyhoeddus:

  • dynodiad pensiwn a godir o’r gronfa (digwyddiad crisialu buddiannau 1) — sy’n defnyddio 15% o’i lwfans oes
  • cyfandaliad cychwyn pensiwn (digwyddiad crisialu buddiannau 6) — sy’n defnyddio 5% o’i lwfans oes
  • cyfandaliad lwfans oes sydd dros ben (digwyddiad crisialu buddiannau 6) — sy’n defnyddio £321,930 (sy’n cyfateb i 30% o’i lwfans oes)
  • talwyd tâl lwfans oes o £177,061.50 (ar 55%) mewn perthynas â’r cyfandaliad lwfans oes sydd dros ben, a thalwyd y swm sy’n weddill sef £144,868.50 i Aelod A

Drwy’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus, mae dewis uniongyrchol Aelod A yn golygu bod angen ail-gyfrifo’r digwyddiad crisialu buddiannau a ddigwyddodd yn ystod blwyddyn dreth 2020 i 2021. Mae swm y lwfans oes a ddefnyddiwyd gan Aelod A wedi gostwng o 80% i 64%. Pan oedd Aelod A wedi crisialu hawliau drwy’r cynllun nad oedd yn un gwasanaeth cyhoeddus, roedd ganddi 36% o lwfans oes ar gael, nid 20%. Mae hyn yn golygu bod ganddi lwfans oes ychwanegol o 16%. O ganlyniad, ni all y cyfandaliad sy’n cyfateb i 30% o’r lwfans oes fod yn gyfandaliad lwfans oes sydd dros ben, gan fod hynny’n ei gwneud yn ofynnol bod dim lwfans oes ar gael.

Erbyn hyn, bydd swm y cyfandaliad lle roedd lwfans oes ar gael yn daliad wedi’i awdurdodi (yn yr enghraifft hon, mae’n 16% o’r lwfans oes — £171,696) ac yn cael ei drin fel digwyddiad crisialu buddiannau sy’n digwydd pan ddaeth Aelod A yn gymwys i gael y cyfandaliad — yn yr enghraifft hon yn y flwyddyn dreth 2021 i 2022. Y swm sydd wedi’i grisialu yw swm y taliad newydd sydd wedi’i awdurdodi.

Mae gweddill yr hyn a oedd yn gyfandaliad lwfans oes sydd dros ben (14% o’r lwfans oes, £150,234) yn dal i fod yn gyfandaliad lwfans oes sydd dros ben.

O ganlyniad, mae’r digwyddiadau crisialu buddiannau drwy’r cynllun nad yw’n un gwasanaeth cyhoeddus yn digwydd fel a ganlyn:

  • cyfandaliad cychwyn pensiwn (digwyddiad crisialu buddiannau 6) — sy’n defnyddio 5% o’i lwfans oes

  • dynodiad pensiwn a godir o’r gronfa (digwyddiad crisialu buddiannau 1) — sy’n defnyddio 15% o’i lwfans oes

  • cyfandaliad wedi’i awdurdodi (a digwyddiad crisialu buddiannau) — sy’n defnyddio 16% o’i lwfans oes (£171,696)

  • cyfandaliad lwfans oes sydd dros ben (digwyddiad crisialu buddiannau 6) — sy’n defnyddio 14% o’i lwfans oes (£150,234)

O ran triniaeth dreth y cyfandaliad sef £171,696:

  • mae 25% o’r cyfandaliad (£42,924) yn daladwy yn rhydd o dreth
  • mae 75% o’r cyfandaliad (£128,772) yn agored i’r tâl lwfans oes ar y gyfradd arbennig is o 40% — swm y tâl lwfans oes sy’n ddyledus yw £51,508.80

Swm y tâl lwfans oes a dalwyd yn wreiddiol oedd £177,061.50.

Swm y tâl lwfans oes sydd bellach yn ddyledus yw £134,137.50, wedi’i gyfrifo fel a ganlyn:

  • tâl lwfans oes ar gyfandaliad wedi’i awdurdodi — £171,696 ar 40% = £51,508.80
  • tâl lwfans oes ar gyfandaliad lwfans oes sydd dros ben wedi’i ddiwygio — £150,234 ar 55% = £82,628.70
  • swm y tâl lwfans oes a ordalwyd yw £42,924

Gall gweinyddwr cynllun y cynllun nad yw’n un gwasanaeth cyhoeddus hawlio’r tâl lwfans oes hwn a ordalwyd gan CThEF a throsglwyddo’r taliad hwn i’r aelod.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Mai 2025 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon