Canllawiau

Unigolion preifat sy'n cyflogi gweithwyr hunangyflogedig neu weithwyr personol

Canllawiau ar yr hyn y dylai unigolion preifat ei wirio wrth edrych ar dystysgrif DBS gan rywun maen nhw'n bwriadu ei gyflogi, fel tiwtor neu ofalwr.

Trosolwg

Mae’r canllaw hwn yn fyw o 21 Ionawr 2026

Mae gweithiwr personol neu rywun sy’n hunangyflogedig yn gallu cael gwiriad DBS Uwch neu Uwch gyda Rhestr(au) Gwaharddedig arnynt eu hunain os ydynt yn gymwys

Fel unigolyn preifat sy’n awyddus i gymryd gwasanaethau person hunangyflogedig neu weithiwr personol, fel rhan o’ch ystyriaethau recriwtio, gallwch ofyn am weld eu tystysgrif DBS, os mai dyma’r math priodol o wiriad ar gyfer y rôl.

Y broses ymgeisio

Fel unigolyn preifat, ni allwch wneud cais am wiriad DBS ar ran y person rydych chi’n bwriadu ei recriwtio. Mae angen iddyn nhw wneud hyn eu hunain drwy Gorff Ymbarél. Gall ymgeiswyr ddysgu mwy am y broses hon ar y dudalen Gwiriadau DBS ar gyfer pobl hunangyflogedig a gweithwyr personol GOV.UK.

Am beth ddylwn i fod yn chwilio ar Dystysgrif DBS?

Fel rhan o’ch proses o wneud penderfyniadau, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi gweld Tystysgrif DBS wreiddiol. Nid yw copïau na ffotograffau digidol yn dderbyniol a rhaid eu gwrthod. Mae tystysgrif DBS yn cynnwys nodweddion diogelwch y gellir eu defnyddio i wirio a yw wedi’i ffugio neu ei newid. Ceir rhagor o wybodaeth am wirio dilysrwydd tystysgrif DBS ar y dudalen [Gwiriadau DBS: canllawiau i gyflogwyr GOV.UK] (https://www.gov.uk/guidance/dbs-check-requests-guidance-for-employers#security-features-of-a-dbs-certificate). 

Os ydych chi’n ansicr a yw Tystysgrif DBS yn ddilys, neu os ydych chi’n credu ei bod wedi’i newid, dylech chi gysylltu â’r DBS yn FDIT@dbs.gov.uk.

Ochr yn ochr â’r nodweddion diogelwch, dylech chi hefyd wirio bod y manylion y mae’r ymgeisydd wedi’u rhoi i chi yn cyfateb i’r hyn sydd ar eu tystysgrif e.e. enw llawn ac ati.

Bydd angen i chi hefyd wirio:

  • bod y manylion a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn cyfateb i’r hyn sydd ar y dystysgrif DBS. Yr arfer gorau fyddai gweld dogfen adnabod â llun a gyhoeddwyd gan y llywodraeth. Gellir dod o hyd i gyfuniadau amgen o ddogfennau adnabod ar y tudalen canllawiau gwirio ID GOV.UK.  

  • bod y dystysgrif ar gyfer y gweithlu cywir. Er enghraifft, os yw’r ymgeisydd yn gweithio gyda’ch plentyn, byddech chi’n disgwyl gweld geiriad sy’n cynnwys ymadrodd tebyg i ‘gweithlu plant’ yn y maes swydd yr ymgeisir amdani.

  • a oes unrhyw wybodaeth am euogfarnau troseddol neu guddwybodaeth yr heddlu wedi’i rhyddhau ar y dystysgrif. Os felly, gweler yr adran nesaf.

  • y dyddiad y cyhoeddwyd y dystysgrif. Mae tystysgrifau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gywir ar y diwrnod y cânt eu cyhoeddi ac i’r rhai nad ydynt ar y Gwasanaeth Diweddaru, dylech fod yn ymwybodol o ba mor bell yn ôl y cyhoeddwyd y dystysgrif.

Os yw’r dystysgrif DBS y mae’r ymgeisydd yn ei chyflwyno yn nodi eu bod wedi’u gwahardd o’r grŵp (plant neu oedolion) y maent yn ceisio gweithio gydag ef, rhaid i chi beidio â’u cyflogi. Maent yn cyflawni trosedd drwy geisio gwaith mewn gweithgaredd wedi’i rheoleiddio tra byddant wedi’u gwahardd a dylech eu hadrodd i’r heddlu.

Sut ydw i’n ystyried gwybodaeth ar wiriad DBS?

Dim ond un rhan o ystyried a yw unigolyn yn addas ar gyfer rôl yw gwiriadau DBS. Mae elfennau eraill o wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel i’w hystyried ac efallai yr hoffech edrych ar ganllawiau gan sefydliadau perthnasol eraill, er enghraifft Nacro (Gwasanaeth Cynghori i Gyflogwyr) neu Datglowch. Mae sefydliadau eraill fel yr NSPCC a Sgiliau ar gyfer Gofalu (adnoddau Cyflogaeth Mwy Diogel) yn darparu canllawiau penodol i’r sector.

Fel pwynt cyffredinol, dylid trin pob ymgeisydd am swyddi yn deg a pheidio â gwahaniaethu’n annheg yn eu herbyn ar sail euogfarn, rhybudd neu wybodaeth arall a ddatgelir. Fodd bynnag, os yw’r wybodaeth a ddatgelir ar y dystysgrif yn gwneud i chi deimlo’n bryderus ynghylch diogelwch plentyn neu oedolyn agored i niwed y mae’r unigolyn i fod i weithio gydag ef, dylai hyn fod yn brif ystyriaeth i chi.

Byddai’r DBS yn awgrymu cynnal trafodaethau agored a phwyllog ar bwnc unrhyw droseddau neu fater arall a allai gael ei ddatgelu mewn gwiriad DBS gyda’r ymgeisydd.

Sylwch mai dim ond ar gyfer penderfyniad addasrwydd cyflogaeth penodol y dylid defnyddio gwybodaeth tystysgrif DBS a rhaid i’r ymgeisydd roi caniatâd i chi weld y dystysgrif. Ni ddylid rhannu gwybodaeth tystysgrif DBS ag unrhyw drydydd parti.

Ni ddylech gadw unrhyw llungopi na delwedd arall o’r dystysgrif nac unrhyw gopi na chynrychiolaeth o gynnwys tystysgrif.

Gwasanaeth Diweddaru

Mae’r Gwasanaeth Diweddaru yn danysgrifiad ar-lein sy’n eich galluogi i gynnal gwiriad ar-lein am ddim ac ar unwaith i weld statws tystysgrif DBS Uwch neu Uwch gyda Rhestr(au) Gwaharddedig bresennol unigolyn rydych chi’n bwriadu ei gyflogi. Sylwch y bydd angen i’r ymgeisydd unigol danysgrifio i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Nid oes angen i chi greu cyfrif i gynnal gwiriad statws, ond mae angen i chi allu cadarnhau:

  • bod gennych ganiatâd yr unigolion i wneud y gwiriad

  • bod gennych yr hawl i ofyn y cwestiwn eithriedig (mae’r rôl yn gymwys ar gyfer gwiriad DBS Uwch/Uwch gyda Rhestr(au) Gwaharddedig)

  • bod gennych yr hawl i weld lefel y gwiriad DBS sy’n cael ei gyflwyno i chi.

Fel rhan o gynnal gwiriad statws, gofynnir i chi nodi enw sefydliad. Fel unigolyn nad yw’n rhan o sefydliad, byddem yn awgrymu nodi’r ymadrodd ‘cyflogwr preifat’ yn y blwch enw sefydliad.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Diweddaru a chwblhau gwiriadau statws ar-lein ar Gwasanaeth Diweddaru’r DBS: tudalen canllaw cyflogwyr GOV.UK.

Pryderon camymddwyn

Os ydych chi’n amau ​​unrhyw gamymddwyn troseddol, dylech chi roi gwybod i’r heddlu am hyn.

Mae canllawiau pellach hefyd gan sefydliadau eraill ar sut i ymdrin â phryderon camymddwyn.

Cyfeiriwch at y canllawiau hyn gan yr NSPCC mewn perthynas â’r rhai sy’n gweithio gyda phlant - Adrodd am gam-drin ac esgeulustod plant - NSPCC. Os oes gennych bryderon ynghylch ymddygiad gweithwyr personol sy’n gweithio gydag oedolion, cyfeiriwch at y canllawiau hyn - Datrys problemau.

Cysylltu â’r DBS  

Ceir gwybodaeth gyswllt DBS ar yr hafan.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Ionawr 2026 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon