Canllawiau

Trethi atodol Colofn 2 (Treth Atodol i Gwmnïau Domestig a Threth Atodol i Gwmnïau Rhyngwladol)

Sut i dalu Trethi atodol Colofn 2, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut a phryd i dalu trethi atodol Colofn 2 (Treth Atodol i Gwmnïau Domestig a Threth Atodol i Gwmnïau Rhyngwladol).

Pryd i dalu

Mae’n rhaid gwneud taliadau dim hwyrach na:

  • 30 Mehefin 2026, os daw’r cyfnod cyfrifyddu cyntaf y mae’n ofynnol i’r grŵp rhoi gwybod bod Trethi Atodol Colofn 2 yn dod i ben ar neu cyn 31 Rhagfyr 2024

  • 18 mis ar ôl diwrnod olaf cyfnod cyfrifyddu’r grŵp, os daw’r cyfnod cyfrifyddu cyntaf y mae’n ofynnol i’r grŵp rhoi gwybod bod trethi atodol Colofn 2 yn dod i ben ar ôl 31 Rhagfyr 2024

  • yr olaf o 30 Mehefin 2026 a 15 mis ar ôl diwrnod olaf cyfnod cyfrifyddu’r grŵp ar gyfer pob cyfnod arall

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mae angen eich cyfeirnod Dynodydd Defnyddiwr Colofn 2 arnoch. Cyfeirnod 15 cymeriad yw hwn sy’n dechrau gydag X. Bydd hwn wedi’i ddarparu pan wnaethoch gofrestru.

Os nad oes gennych hwn, fe welwch ef drwy fewngofnodi i gwasanaethau ar-lein CThEF gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.

Talu ar-lein

Gallwch gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein.

Dechrau nawr

Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10

  • rhif y cyfrif — 12001020

  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Dylech wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Talu â siec

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.

Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.

Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.

Anfonwch eich siec i:

CThEF
Direct
BX5 5BD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Ebrill 2026 show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. Information about paying online through your bank account has been added.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon