Canllawiau

Talu am eich atwrneiaeth arhosol ar-lein gyda cherdyn

Gallwch dalu’r ffi gwneud cais am eich atwrneiaeth arhosol ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.

Applies to England and Wales

Talu’r ffi gwneud cais am atwrneiaeth arhosol ar-lein gan ddefnyddio cerdyn

Y ffordd gyflymaf o dalu ffi gwneud cais am atwrneiaeth arhosol yw defnyddio cerdyn credyd neu ddebyd ar-lein. Gallwch wneud hyn pan fyddwch chi’n cwblhau Atwrneiaeth Arhosol ar-lein neu ar ôl i chi ddefnyddio ffurflen bapur.

Talu pan fyddwch chi’n cwblhau atwrneiaeth arhosol ar-lein

Os ydych chi’n defnyddio’r [gwasanaeth atwrneiaeth arhosol ar-lein] (https://www.lastingpowerofattorney.service.gov.uk/home), gallwch dalu gyda cherdyn fel rhan o’r gwasanaeth hwnnw.

Talu pan fyddwch chi’n cwblhau Atwrneiaeth Arhosol gan ddefnyddio ffurflen bapur (LP1F neu LP1H)

Ar Adran 14: Ffi gwneud cais, ticiwch ‘Cerdyn’ a rhowch eich rhif ffôn, rhif ffôn symudol os oes modd. Peidiwch â rhoi manylion eich cerdyn na manylion eich cyfrif banc ar y ffurflen.

Byddwn yn anfon llythyr atoch gyda’ch cyfeirnod unigryw, a chyfeiriad gwe lle gallwch dalu’r ffi ar-lein: www.gov.uk/payments/opg/fee.

Os ydych chi wedi rhoi rhif ffôn symudol i ni, byddwn hefyd yn anfon neges destun atoch gyda chyfeirnod unigryw eich atwrneiaeth arhosol. Gallwch glicio dolen yn y neges destun i fynd i’r wefan ddiogel er mwyn i chi dalu ar-lein. Bydd angen i chi roi’r cyfeirnod unigryw, yna defnyddio cerdyn credyd neu ddebyd er mwyn i chi dalu’r ffi.

Cyhoeddwyd ar 11 October 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 December 2022 + show all updates
  1. Changed the title and contents within to make it clearer about how to pay for an LPA online using a credit or debit card.

  2. Add the Welsh translation of the text

  3. Added a link to the online payment system 2i comments

  4. Added translation