Talu’r Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
Sut i dalu’r Ardoll Newid yn yr Hinsawdd, a faint o amser y mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Pryd i dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad (yn agor tudalen Saesneg) yn yr un ffordd ar gyfer y ddwy brif gyfradd Ardoll Newid yn yr Hinsawdd a Chefnogaeth Pris Carbon (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw ardoll sy’n ddyledus cyn pen 30 diwrnod o ddiwedd pob cyfnod adrodd.
Mae CThEF yn cynnig consesiwn taliad wedi’i oedi am 7 diwrnod os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen eich cyfeirnod talu 13 digid arnoch.
Gallwch ddod o hyd i hyn ar eich datganiad.
Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.
Talu ar-lein
Gallwch gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein.
Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’ch cyfrif bancio symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
I drefnu Debyd Uniongyrchol, gallwch argraffu ffurflen cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon drwy’r post.
Dylech ganiatáu 10 diwrnod gwaith i CThEF drefnu’ch Debyd Uniongyrchol. Bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o dalu os na fydd eich Debyd Uniongyrchol wedi’i drefnu mewn pryd.
Unwaith i CThEF drefnu’ch Debyd Uniongyrchol, bydd y swm a ddangosir ar eich datganiad yn cael ei gasglu’n awtomatig.
Mae’n rhaid i chi dalu gan ddefnyddio dull arall os ydych yn gwneud taliad o £20 miliwn neu fwy.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn dod i law ar yr un diwrnod gwaith, neu’r diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
-
cod didoli — 08 32 00
-
rhif y cyfrif — 11963295
-
enw’r cyfrif — HMRC Climate Change Levy
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
-
rhif y cyfrif (IBAN) — GB70 BARC 2005 1770 6293 91
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
-
enw’r cyfrif — HMRC Climate Change Levy
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank Plc
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Talu â siec
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘HM Revenue and Customs only’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.
Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.
Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.
Anfonwch eich siec i:
HMRC payments Climate Change and Alcohol Duties
HM Revenue and Customs
BX9 1XL
Os oes gennych ddim byd i’w dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad i CThEF hyd yn oed os ydych wedi cyfrifo bod gennych ddim byd i’w dalu, neu fod ad-daliad yn ddyledus i chi.
Arweiniad sydd â grym cyfraith
Dysgwch am rym cyfraith ynghylch yr arweiniad hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
A Welsh translation has been added
-
Information about the maximum amount you can pay by Direct Debit has been updated.
-
A link to Climate Change Levy force of law guidance has been added.
-
Amended ‘Nothing to pay’ section to make it clear that you must still download, complete and send your Climate Change Levy return back to HMRC, even if you have nothing to pay or are due a refund.
-
The address to post cheques to has changed.
-
Information about approving a payment through your online bank account has been added.
-
Address updated for sending payment by cheque.
-
Temporary measures have been put in place to stop the spread of coronavirus (COVID-19) - you must now pay Climate Change Levy electronically by Faster Payment, Bacs or CHAPS and not by post.
-
First published.