Canllawiau

Talu Toll Teithwyr Awyr

Dysgwch sut i dalu Toll Teithwyr Awyr.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut a phryd i dalu Toll Teithwyr Awyr.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod talu Toll Teithwyr Awyr arnoch. Mae’n 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.  Mae hwn i’w weld ar eich hysbysiad i gyflwyno.

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Gweithredwr Achlysurol (yn Saesneg), bydd angen i chi gysylltu â CThEF i gael cyfeirnod. Defnyddiwch y cyfeirnod hwn bob tro y byddwch yn rhoi gwybod am y Doll Teithwyr Awyr a’i thalu. Gwnewch nodyn o’r cyfeirnod hwn oherwydd na fyddwch yn cael hysbysiad i gyflwyno.

Talu nawr

Pryd i dalu

Bydd y dyddiad cau ar gyfer talu i’w weld ar eich hysbysiad i gyflwyno. Os byddwch yn defnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu, bydd y dyddiad cau yn cael ei ymestyn hyd at 7 diwrnod:

  • Debyd Uniongyrchol

  • Taliadau Cyflymach

  • CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio)

  • Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr)

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Gweithredwr Achlysurol, mae’n rhaid i chi dalu cyn pen 7 diwrnod i’ch hediad. Ni fyddwch yn cael unrhyw amser ychwanegol ar gyfer taliadau electronig.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEF erbyn y dyddiad cau. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb (yn Saesneg) os bydd eich taliad yn hwyr.

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu er mwyn i’ch taliad gyrraedd CThEF yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Dull talu Amser i’w ganiatáu
Debyd Uniongyrchol (nid yw’r dull hwn ar gael os ydych yn defnyddio’r Cynllun Gweithredwr Achlysurol) 10 diwrnod gwaith
Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach) Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
CHAPS Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Bacs 3 diwrnod gwaith
Siec drwy’r post 3 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl y banc, mae’n rhaid i’ch datganiad a’ch taliad ddod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.

Sut i dalu

Debyd Uniongyrchol

I drefnu Debyd Uniongyrchol, gallwch argraffu ffurflen cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol (yn Saesneg) a’i hanfon drwy’r post.

Dylech ganiatáu 10 diwrnod gwaith i CThEF drefnu’ch Debyd Uniongyrchol. Bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o dalu os na fydd eich Debyd Uniongyrchol wedi’i drefnu mewn pryd.

Unwaith i CThEF drefnu’ch Debyd Uniongyrchol, bydd y swm a ddangosir ar eich datganiad yn cael ei gasglu’n awtomatig.

Ni allwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol os ydych yn defnyddio’r Cynllun Gweithredwr Achlysurol (yn Saesneg).

Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Toll Teithwyr Awyr. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Manylion banc ar gyfer bancio ar-lein neu dros y ffôn, CHAPS a Bacs

Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif CThEF:

  • cod didoli — 08 32 00

  • rhif y cyfrif — 12000938

  • enw’r cyfrif — HMRC Air Passenger Duty

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu er mwyn i’ch taliad gyrraedd CThEF yn dibynnu ar eich dull o dalu:

  • Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc

  • Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc

  • Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Taliadau tramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i dalu o gyfrif tramor (mae’n rhaid i bob taliad fod mewn sterling):

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB70 BARC 2005 1733 0642 98

  • cod adnabod y banc (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC Air Passenger Duty

Defnyddiwch y cyfeiriad canlynol os oes angen i chi roi cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:


Barclays Bank plc
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Mae’n rhaid i’r taliad hepgor ffioedd am gyfnewid arian cyfred ac unrhyw ffioedd eraill a godir gan y banc.

Talu â siec drwy’r post

Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Toll Teithwyr Awyr ar gefn eich siec. Mae’n 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Yna, anfonwch y siec i:


Cyllid a Thollau EF/ HM Revenue and Customs
Direct
BX5 5BD
Y Deyrnas Unedig

Peidiwch â phlygu’r siec na glynu dogfennau wrth ei gilydd.

Os ydych yn anfon eich taliad drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb oddi wrth CThEF.

Dim byd i’w dalu

Os byddwch yn llenwi datganiad ac yn cyfrifo nad oes gennych ddim byd i’w dalu, neu fod ad-daliad yn ddyledus i chi, mae’n dal i fod yn rhaid i chi ei gyflwyno i CThEF.

Cyhoeddwyd ar 3 November 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 February 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Information about approving a payment through your online bank account has been added.

  3. Cheque payment details updated.

  4. Updated link to form APD6 and new Direct Debit instruction form (EEIITT15).

  5. Overseas payment details updated.

  6. First published.