Canllawiau

Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd: adolygiad o hawliadau gyda phensiwn etifeddol

Sut i ddarganfod a oes arian yn ddyledus i chi os gwnaethoch hawlio JSA Dull Newydd rhwng 19 Mawrth 2020 a 19 Tachwedd 2022 a dywedoch fod gennych bensiwn.

Applies to England, Scotland and Wales

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn adolygu hawliadau Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA) a wnaed rhwng 19 Mawrth 2020 a 19 Tachwedd 2022.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, efallai ein bod wedi trin incwm o bensiwn a etifeddwyd gan rywun sydd wedi marw yr un fath ag incwm o bensiynau eraill.

Gall incwm o bensiynau eraill effeithio ar faint o JSA Dull Newydd a gewch. Nid yw incwm pensiynau a etifeddwyd gan rywun sydd wedi marw yn effeithio ar hawliadau JSA dull newydd.

Mae’r DWP yn anfon negeseuon testun neu lythyrau at unrhyw un a allai gael eu heffeithio.

Pwy sy’n cael ei effeithio

Efallai y bydd rhywfaint o arian yn ddyledus i chi os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • gwnaethoch gais am JSA Dull Newydd rhwng 19 Mawrth 2020 a 19 Tachwedd 2022
  • dywedoch wrthym fod gennych incwm gan bensiwn
  • roedd gennych incwm gan bensiwn a etifeddwyd gan rywun sydd wedi marw

Beth i’w wneud

Os ydych chi’n meddwl y gallech gael eich effeithio, ysgrifennwch at:

Canolfan Budd-daliadau
Freepost DWP BC 38

Nid oes angen i chi ddefnyddio stamp.

Bydd angen i chi gynnwys:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • copïau o’ch datganiadau pensiwn sy’n dangos bod y pensiwn wedi cael ei etifeddu a symiau y pensiwn a dalwyd ar gyfer dyddiadau eich hawliad JSA dull newydd
  • y cyfeirnod ‘PAN PEN’
  • manylion cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd (os ydynt wedi newid ers i chi hawlio JSA Dull Newydd)

Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwn yn edrych ar eich hawliad eto i weld a ddylem fod wedi talu mwy o JSA Dull Newydd i chi. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a oes arian yn ddyledus i chi.

Os oes gennym arian yn ddyledus i chi, byddwn yn ei dalu i mewn i’r cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd y talwyd eich JSA Dull Newydd iddo, neu’r cyfrif rydych chi’n dweud wrthym amdano yn eich llythyr.

Cyhoeddwyd ar 22 January 2024