Cyfrifo â llaw Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Dysgwch sut mae cyfrifo tâl eich cyflogai eich hun os nad yw eich meddalwedd gyflogres, neu’r rhaglen gyfrifo ar gyfer cyflogwyr yn cyfrifo beth mae ganddo’r hawl iddo.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Cyn i chi ddechrau
Mae angen yr wybodaeth ganlynol arnoch i gyfrifo Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol eich cyflogai:
- y datganiad wedi’i lenwi gan eich cyflogai, neu eich fersiwn eich hun os oes gennych un
- dyddiad geni’r baban (dyddiad geni pob baban, ar gyfer genedigaethau lluosog)
- y dyddiad y dechreuodd y baban gael gofal newyddenedigol (y dyddiad y dechreuodd pob baban gael gofal newyddenedigol, yn achos genedigaethau lluosog)
- y dyddiad y daeth gofal newyddenedigol y baban i ben (y dyddiad y daeth gofal newyddenedigol pob baban i ben, yn achos genedigaethau lluosog)
- y dyddiad y mae am i’w Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol ddechrau, a sawl wythnos o dâl yr hoffai eu hawlio
- ei enillion gros a’r dyddiadau y gwnaethoch ei dalu
- y dyddiad y dechreuodd weithio i chi
Mae angen i chi hefyd wirio a yw enillion gros eich cyflogai:
- yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogwr
- yn agored i gyfraniadau petai’n ennill digon, neu’n ddigon hen i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Sut i gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog
Mae’n rhaid i enillion wythnosol cyfartalog gynnwys yr holl enillion gros:
- y mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn ddyledus arnynt
- y byddai cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn ddyledus arnynt (petai enillion y cyflogai yn ddigon uchel, neu petai’n ddigon hen i’w talu)
Mae hawl eich cyflogai i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol yn dibynnu ar ei enillion wythnosol cyfartalog yn y cyfnod perthnasol. Fel arfer, dyma’r cyfnod 8 wythnos cyn yr wythnos berthnasol.
Mae’r cyfnod perthnasol:
- yn cychwyn diwrnod ar ôl y diwrnod cyflog arferol olaf, sydd o leiaf 8 wythnos cyn diwedd y cyfnod perthnasol.
- yn dod i ben ar y diwrnod cyflog arferol olaf, sydd ar neu cyn diwrnod cyntaf yr wythnos berthnasol (y diwrnod hwn yw’r Dydd Sadwrn yn yr wythnos berthnasol)
Os oes gan eich cyflogai hawl i Dâl Mamolaeth neu Dâl Tadolaeth yn barod, yr wythnos berthnasol yw’r 15fed wythnos cyn dyddiad disgwyl y baban. Os oes ganddo hawl i Dâl Mabwysiadu Statudol yn barod, dyma’r wythnos y dywedwyd wrth y cyflogai ei fod wedi cael ei baru â’r baban i’w fabwysiadu.
Ni all ei enillion wythnosol cyfartalog yn y cyfnod perthnasol fod yn llai na’r terfyn enillion isaf.
Dewch o hyd i’r terfyn enillion isaf (LEL) ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol (yn agor tudalen Saesneg).
Cyflogeion sy’n cael eu talu bob mis
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer y misoedd calendr yn y cyfnod perthnasol
- lluoswch y ffigur â 12 (nifer y misoedd yn y flwyddyn)
- yna rhannwch y ffigur â 52 (nifer yr wythnosau yn y flwyddyn)
Cyflogeion heb eu talu’n fisol
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer y diwrnodau yn y cyfnod perthnasol
- yna lluoswch y ffigur â 7 (nifer y diwrnodau mewn wythnos)
Yn cael ei dalu bob wythnos, heb wythnosau llawn
Efallai y byddwch yn dod â diwrnod cyflog arferol eich cyflogai ymlaen oherwydd gwyliau banc (fel y Pasg neu’r Nadolig).
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer yr wythnosau y cafodd ei dalu amdanynt mewn gwirionedd, nid nifer yr wythnosau yn y cyfnod perthnasol
Yn cael ei dalu am gyfnod o wythnosau
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer yr wythnosau llawn yn y cyfnod perthnasol
Talu bob mis heb fisoedd llawn
Yn gyntaf, cyfrifwch nifer y misoedd wedi’u talgrynnu fel a ganlyn:
- cyfrwch nifer y misoedd cyfan
- cyfrwch nifer y diwrnodau od
Yna, talgrynnwch i fyny neu i lawr fel a ganlyn:
- ar gyfer unrhyw fis ac eithrio mis Chwefror — 15 diwrnod neu lai, talgrynnu i lawr, 16 diwrnod neu fwy, talgrynnu i fyny
- ar gyfer mis Chwefror — 14 diwrnod neu lai, talgrynnu i lawr, 15 diwrnod neu fwy, talgrynnu i fyny
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer y misoedd calendr wedi’u talgrynnu yn y cyfnod perthnasol
Dim patrwm tâl rheolaidd
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai:
- adiwch ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannwch ei holl enillion gros â nifer y diwrnodau yn y cyfnod perthnasol
- yna lluoswch y ffigur â 7 (nifer y diwrnodau mewn wythnos)
Tâl wedi’i gamamseru
Mae hyn yn berthnasol os yw’ch cyflogai’n cael ei dalu ar yr un dyddiad o dan gontract, ond eich bod yn ei dalu’n gynt neu’n hwyrach na’i ddiwrnod cyflog contractiol oherwydd y gallai’r dyddiad hwnnw fod ar benwythnos neu ŵyl banc.
I gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- adio ei holl enillion gros yn y cyfnod perthnasol
- rhannu ei holl enillion gros â nifer yr wythnosau o gyflog a dalwyd iddo mewn gwirionedd
Peidiwch â defnyddio’r cyfrifiad hwn os nad yw eich cyflogai wedi cael digon o dâl o ganlyniad i wall yn y gyflogres.
Tandaliadau neu ordaliadau enillion
Dim ond i gyfrifo ei enillion wythnosol cyfartalog y dylech ddefnyddio’r holl enillion gros a dalwyd i’ch cyflogai o fewn y cyfnod perthnasol.
Os oes gordaliad neu dandaliad o fewn y cyfnod perthnasol, dylech gynnwys y swm wrth gyfrifo ei enillion wythnosol cyfartalog i weld ei hawl i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol.
Aberthu cyflog
Os oes gan eich cyflogai drefniant aberthu cyflog â chi, defnyddiwch swm yr enillion a dalwyd iddo yn ystod y cyfnod perthnasol i gyfrifo ei enillion wythnosol cyfartalog.
Peidiwch â chynnwys gwerth y cyflog a aberthwyd.
Buddiannau sy’n rhan o’r contract
Dylai eich cyfrifiad ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol fod yn seiliedig ar enillion sy’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn unig.
Peidiwch â chynnwys unrhyw fuddiannau sydd wedi’u hesemptio rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.
Enillion y mae codiad cyflog wedi’i ôl-ddyddio yn effeithio arnynt
Os yw’ch cyflogai’n cael codiad cyflog wedi’i ôl-ddyddio sy’n cynyddu swm yr enillion sydd eisoes wedi’u talu yn y cyfnod perthnasol, mae angen i chi ail-gyfrifo ei enillion wythnosol cyfartalog i gynnwys y swm hwn.
Dylech wneud hyn os yw un o’r canlynol yn berthnasol i’r cyflogai:
- nid yw’n gymwys ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
- mae ganddo hawl i Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol ar gyfradd sy’n is na’r gyfradd safonol
Dewch o hyd i gyfradd safonol cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi ail-gyfrifo ei enillion wythnosol cyfartalog i weld a yw’r canlynol yn berthnasol iddo:
- mae’n gymwys nawr (a dylech dalu unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol sy’n ddyledus iddo)
- mae ganddo hawl i gynnydd (a dylech dalu unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol ychwanegol sy’n ddyledus iddo)
Sut i gyfrifo Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Pan fyddwch wedi cyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai, gallwch wedyn gyfrifo faint o Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol sy’n ddyledus, a phryd.
Os yw eich cyflogai’n gymwys, gall benderfynu pryd a sut i gymryd ei hawl i gael Absenoldeb Gofal Newyddenedigol.
Os yw wedi rhoi rhybudd ei fod eisiau cymryd Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol, ac wedi llenwi’r datganiad, byddwch yn talu’ch cyflogai yn ystod cyfnod y Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol:
- sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r cyflogai wedi rhoi rhybudd ar ei gyfer ac wedi llenwi datganiad ar ei gyfer
- sy’n para am bob wythnos y mae’n cael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Cysoni Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol eich cyflogai â’i gyfnod cyflog arferol
Gallwch dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol fesul wythnosau rhannol i’ch helpu i gysoni’r taliadau â chyfnod cyflog arferol eich cyflogai.
I gysoni’r taliadau, mae angen i chi wneud y canlynol:
- rhannu ei gyfradd Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol wythnosol â 7 (nifer y diwrnodau mewn wythnos)
- yna lluosi’r ffigur â nifer y diwrnodau y mae’r Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol yn ddyledus iddo yn yr wythnos neu’r mis
Er enghraifft, os yw cyfnod cyflog arferol eich cyflogai yn cwmpasu 2 ddiwrnod mewn un mis, a 5 diwrnod ar ddechrau’r mis nesaf (2 ddiwrnod ym mis Ebrill a 5 diwrnod ym mis Mai), i gysoni’r Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol â’i gyfnod cyflog arferol, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- talu gwerth dwy ran o saith iddo ar gyfer mis Ebrill
- talu gwerth pum rhan o saith iddo ar gyfer mis Mai
Ni allwch dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol eich cyflogai am ran o’r wythnos.
Unrhyw absenoldeb arall sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw a thalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Os yw’ch cyflogai yn cymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol pan fydd ei faban yn dal i gael gofal newyddenedigol, neu yn ystod yr wythnos gyntaf wedyn (cyfeirir ato fel Haen 1), ond bod absenoldeb arall sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw (fel Absenoldeb Tadolaeth neu Absenoldeb Rhiant a Rennir) yn tarfu ar hynny yng nghanol yr wythnos, gall eich cyflogai stopio cymryd ei Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol, ond mae’n rhaid i chi dalu’r Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol iddo am yr wythnos lawn.
Help a chyngor
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen rhagor o help neu gyngor arnoch chi.
Updates to this page
-
'How to calculate average weekly earnings' updated to clarify the definition of the relevant period and the relevant week. How to work out the relevant week if the employee is entitled to Statutory Maternity, Paternity or Adoption Pay has been added. 'Other pre-booked leave and paying Statutory Neonatal Care Pay' has been added. References to 'child' removed and replaced with 'baby' throughout.
-
Added translation.
-
First published.