Sut i ddilysu pwy ydych chi ar gyfer Credyd Cynhwysol
Os ydych am wneud cais am Gredyd Cynhwysol mae'n rhaid i chi ddilysu pwy ydych chi. Mae'r canllaw hwn i hawlwyr a phobl sy'n eu cefnogi yn esbonio sut i wneud hynny.
Applies to England, Scotland and Wales
Os ydych am wneud cais am Gredyd Cynhwysol mae’n rhaid i chi ddilysu pwy ydych chi. Mae hyn yn helpu i gysylltu’r person cywir â’r cais cywir a lleihau twyll hunaniaeth.
Gallwch ddilysu pwy ydych chi drwy un neu fwy o’r canlynol:
- dilysu pwy ydych chi ar-lein
- apwyntiadau wyneb yn wyneb
- tystiolaeth ddogfennol
- cyfweliadau bywgraffyddol
Dilysu pwy ydych chi ar-lein
Mae dilysu pwy ydych chi ar-lein yn ffordd syml a diogel o gadarnhau pwy ydych chi ar-lein.
Nid yw Credyd Cynhwysol bellach yn defnyddio Porth y Llywodraeth neu GOV.UK Verify ar gyfer dilysu ar-lein.
Tystiolaeth ar gyfer dilysu ar-lein
Gallwch ddilysu pwy ydych chi ar-lein drwy ddarparu rhywfaint o wybodaeth y byddai ond chi’n ei wybod, er enghraifft gwybodaeth am eich pasbort neu slipiau cyflog.
Gallwch ddefnyddio unrhyw 2 o’r eitemau canlynol i ddilysu pwy ydych chi ar-lein gyda:
- slipiau cyflog wedi’u dyddio o fewn y 3 mis diwethaf
- P60 diweddaraf
- pasbort dilys y DU
- ffurflenni Hunanasesu diweddar
- credydau treth (gan gynnwys Voice ID)
- tystlythyrau neu gofnodion credyd – er enghraifft, gwybodaeth am gardiau credyd neu gontractau ffôn
Os ydych chi’n dilysu pwy ydych chi’n llwyddiannus ar-lein, efallai na fydd angen y ‘cyfweliad tystiolaeth gychwynnol’ llawn arnoch.
Ffyrdd eraill o ddilysu pwy ydych chi
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio cyfuniad o dystiolaeth ddogfennol, cyfweliadau a gwybodaeth am gofnodion DWP i gadarnhau pwy yw rhywun. Gall hyn gynnwys mynychu:
-
apwyntiadau wyneb yn wyneb
-
cyfweliadau bywgraffyddol dros y ffôn
Tystiolaeth ar gyfer dilysu
Gellid gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o bwy ydych chi, er enghraifft:
- dogfennau adnabod gyda llun fel pasbort neu drwydded yrru
- cytundebau tenantiaeth neu rentu
- slipiau cyflog
- manylion banc
Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, bydd manylion pa dystiolaeth y mae angen i chi ei darparu yn cael eu trafod gyda chi pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 February 2024 + show all updates
-
Added translation
-
Universal Credit no longer uses Government Gateway for online verification.
-
First published.