Canllawiau

Sut mae siopau a busnesau’r stryd fawr yn cael eu prisio ar gyfer ardrethi busnes

Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer siopau a busnesau’r stryd fawr.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sut mae siopau a busnesau’r stryd fawr yn cael eu prisio 

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) fel arfer yn defnyddio’r dull rhent cymharol i brisio siopau a busnesau eraill y stryd fawr, megis siopau trin gwallt a banciau. Rydym yn grwpio eiddo tebyg i gynlluniau prisio. Rydym yn eu mesur gan ddefnyddio’r dull arwynebedd mewnol net (NIA). Dysgwch fwy am y dull rhent cymharol, cynlluniau prisio ac NIA

I brisio siopau a busnesau eraill y stryd fawr, mae’r VOA yn: 

  • casglu gwybodaeth am y rhent a dalwyd am eiddo ac eiddo tebyg cyfagos

  • dadansoddi’r wybodaeth ac yn cyfrifo pris fesul metr sgwâr ar gyfer yr eiddo

Rydym hefyd yn ystyried: 

  • os oes siâp anarferol i’r siop

  • ffryntiau ffenestr arddangos ychwanegol

  • ffryntiau caled ar fanciau

  • problemau mynediad

  • lefelau gwahân

  • ardaloedd gwerthu wedi’u cuddio gan bileri

  • toiledau

Dysgwch sut i gael help i ddiweddaru manylion eiddo eich siop neu fusnes y stryd fawr (yn agor tudalen Saesneg)

Parthu eiddo manwerthu 

Mae parthu yn ffordd safonol o fesur eiddo manwerthu at ddibenion prisio. Mae’r VOA yn ei ddefnyddio i gymhwyso’r pris fesul metr sgwâr i eiddo a chyfrifo’r gwerth ardrethol. Mae parthu yn cydnabod mai blaen yr eiddo sydd agosaf at y ffenestr arddangos yw’r rhan fwyaf gwerthfawr. Nid ydym yn defnyddio parthu ar gyfer pob siop, er enghraifft siopau adrannol mawr ac archfarchnadoedd. 

Rydym yn rhannu eiddo yn barthau sy’n cwmpasu lled eiddo, gan ddechrau o linell yr adeilad (sef blaen yr eiddo) ac yn parhau nes bod holl ddyfnder yr ardal fanwerthu wedi’i pharthu. 

Enw’r parth cyntaf yw Parth A. Mae Parth A yn dechrau ar linell yr adeilad ac fel arfer yn ymestyn yn ôl 6.1 metr (20 troedfedd). Gall dyfnder y parthau fod yn wahanol yn dibynnu ar leoliad yr eiddo. Parth A yw rhan fwyaf gwerthfawr yr eiddo. 

Y parth nesaf yw Parth B, a mae hwn yn hanner gwerth Parth A. Y parth nesaf yw Parth C, sy’n hanner gwerth Parth B. Gelwir unrhyw ofod ar ôl Parth C yn ‘weddilliad’, sy’n hanner gwerth Parth C. Bydd yr ardal sydd wedi’i pharthu yn cynnwys unrhyw ofod a grëwyd trwy ddefnyddio waliau neu raniadau nad ydynt yn strwythurol. Gall patrymau parthu amrywio yn dibynnu ar fath yr eiddo, ei leoliad, ac arfer hanesyddol. Ni fydd Parth A, B, C a gweddilliad gan bob eiddo. 

Mae ardaloedd megis storfeydd neu swyddfeydd i fyny’r grisiau wedi’u cynnwys yn y prisiad, a rhoddir pris fesul metr sgwâr iddynt, ond nid ydynt yn cael eu parthu. Nid ydym yn cynnwys ardaloedd megis toiledau, grisiau ac ystafelloedd glanhawyr yn y prisiad. 

Peiriannau a Pheirianwaith 

Efallai y bydd peiriannau a pheirianwaith yn ymddangos ar wahân yng nghyfrifiad y gwerth ardrethol. Gall peiriannau a pheirianwaith gynnwys: 

  • gwresogi

  • systemau chwistrellu dŵr

  • aerdymheru

  • storfeydd oer

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2025

Argraffu'r dudalen hon