Sut mae llety gwyliau hunanddarpar yn cael eu prisio
Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer llety gwyliau hunanddarpar.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sut mae llety gwyliau hunanddarpar yn cael eu prisio
Mae’n rhaid i’ch llety gwyliau hunanddarpar fodloni y meini prawf cymhwystra er mwyn bod yn atebol i dalu ardrethi busnes. Os nad yw’ch eiddo yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, byddwch yn atebol i dalu’r Dreth Gyngor yn lle hynny.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) fel arfer yn cyfrifo gwerth ardrethol llety gwyliau hunanddarpar gan ddefnyddio masnach gynaliadwy deg, sef ‘fair maintainable trade’ (FMT). Dyma’r lefel flynyddol o fasnach y mae disgwyl i’ch eiddo ei gyflawni os yw’n cael ei redeg mewn ffordd resymol o effeithlon. Mae’n seiliedig ar ffactorau megis:
-
incwm a gwariant
-
math yr eiddo
-
lleoliad yr eiddo
-
cyfleusterau, megis twba twym
Rydym yn cymharu eiddo tebyg mewn lleoliadau tebyg i gyfrifo’r FMT ar gyfer gwahanol fathau o lety gwyliau hunanddarpar.
Ar ôl i ni gyfrifo’r FMT, mae’r VOA yn cymhwyso canran benodol i bennu’r gwerth ardrethol. Rydym yn defnyddio canrannau gwahanol yn dibynnu a yw’ch eiddo yn:
-
eiddo sengl neu gyfadeilad o hyd at 4 eiddo
-
cyfadeilad gyda 5 eiddo neu fwy
Unedau sengl a chyfadeiladau hyd at 4 eiddo
Mae’r VOA yn prisio unedau sengl a chyfadeiladau hyd at 4 eiddo yn ôl lleoedd gwely ar gyfer pob eiddo.
I gyfrifo gwerth pob lle gwely sengl, rydym yn dadansoddi masnach yn gyntaf i ddeall yr elw net blynyddol y mae eiddo wedi’i gyflawni.
Rydym yn rhannu’r elw hwn i ddyrannu incwm teg i weithredwr y busnes ac i ‘weddilliad’. Y gweddilliad hwn sy’n cynrychioli gwerth ardrethol yr eiddo.
Rydym yn rhannu swm y gweddilliad gyda nifer y lleoedd gwely sengl yn yr eiddo i gyfrifo ffigwr sy’n cynrychioli gwerth ardrethol pob lle gwely.
Os ydy’r tystiolaeth sydd gennym o incwm a gwariant eiddo yn gyfyngedig, rydym yn ei gymharu ag eiddo tebyg gyda’r un nifer o leoedd gwely i weithio allan y gwerth ardrethol.
Cyfadeiladau o 5 eiddo neu fwy
Ar gyfer cyfadeiladau hunanddarpar gyda 5 eiddo neu fwy, mae’r VOA yn seilio’r gwerth ardrethol ar ganran o FMT. Rydym yn rhannu cyfadeiladau i un o 3 categori, A, B a C. Mae’r ganran a ddefnyddiwn yn dibynnu ar ba gategori y mae’r cyfadeilad ynddo.
Mae Categori A ar gyfer cyfadeiladau gyda chyfleusterau rhagorol, er enghraifft pyllau nofio, cyrtiau tenis ac ystafelloedd gemau. Mae’r cyfadeiladau hyn yn cael eu prisio ar 11% o FMT.
Mae Categori B ar gyfer cyfadeiladau o ansawdd cyffredin gydag ond ychydig o gyfleusterau. Mae’r rhan fwyaf o gyfadeiladau yn y categori hwn, a maent yn cael eu prisio ar 13.5% o FMT.
Mae Categori C ar gyfer cyfadeiladau o ansawdd sylfaenol heb gyfleusterau. Mae’r cyfadeiladau hyn yn cael eu prisio ar 16% o FMT.
Mae eiddo Categori A yn cael canran is gan fod costau rhedeg yr eiddo yn debygol o fod yn uwch. Mae eiddo Categori C yn cael canran uwch gan nad ydynt yn costio cymaint i’w rhedeg.