Sut mae bwytai yn cael eu prisio ar gyfer ardrethi busnes
Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer bwytai.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sut mae bwytai yn cael eu prisio
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) fel arfer yn defnyddio’r dull rhent cymharol i brisio bwytai. Mae hyn yn cynnwys caffis a bariau byrbryd, ond nid yw’n cynnwys bwytai ar ochr y ffordd, bwytai y gellir gyrru atynt na bwytai gyrru drwodd. Rydym yn grwpio eiddo tebyg i gynlluniau prisio. Rydym yn eu mesur gan ddefnyddio’r dull arwynebedd mewnol net (NIA). Dysgwch fwy am y dull rhent cymharol, cynlluniau prisio ac NIA.
I brisio bwytai, mae’r VOA yn:
-
casglu gwybodaeth am y rhent a dalwyd am eiddo ac eiddo tebyg cyfagos
-
dadansoddi’r wybodaeth ac yn cyfrifo pris fesul metr sgwâr ar gyfer yr eiddo
Rydym hefyd yn ystyried manylion penodol yr eiddo megis:
-
seddi y tu allan
-
cynlluniau anarferol
-
aerdymheru
Rydym yn cymhwyso’r pris fesul metr sgwâr i arwynebedd llawr pob rhan o’r adeilad. Rydym yn prisio’r gofod pwysicaf, megis y prif ardal fwyta ar y llawr gwaelod, ar y pris llawn fesul metr sgwâr.
Rydym yn prisio ardaloedd fel storfeydd a thoiledau cwsmeriaid ar ganran is o’r pris fesul metr sgwâr.
Rydym yn prisio ceginau y gall cwsmeriaid eu gweld ac sy’n rhan o’r profiad bwyta ar y pris llawn fesul metr sgwâr. Rydym yn prisio ceginau nad ydynt yn rhan o’r profiad bwyta ar ganran is.
Parthu bwytai
Mae parthu yn ffordd safonol o fesur bwytai at ddibenion prisio. Rydym yn ei ddefnyddio i gymhwyso’r pris fesul metr sgwâr i eiddo a chyfrifo’r gwerth ardrethol. Mae parthu yn cydnabod mai blaen yr eiddo sydd agosaf at y ffenestr arddangos yw’r rhan fwyaf gwerthfawr.
Rydym yn rhannu eiddo yn barthau sy’n cwmpasu lled eiddo, gan ddechrau o linell yr adeilad (sef blaen yr eiddo) ac yn parhau nes bod holl ddyfnder yr ardal fanwerthu wedi’i pharthu.
Enw’r parth cyntaf yw Parth A. Mae Parth A yn dechrau ar linell yr adeilad ac fel arfer yn ymestyn yn ôl 6.1 metr (20 troedfedd). Gall dyfnder y parthau fod yn wahanol yn dibynnu ar leoliad yr eiddo. Parth A yw rhan fwyaf gwerthfawr yr eiddo.
Y parth nesaf yw Parth B, a mae hwn yn hanner gwerth Parth A. Y parth nesaf yw Parth C, sy’n hanner gwerth Parth B. Gelwir unrhyw ofod ar ôl Parth C yn ‘weddilliad’, sy’n hanner gwerth Parth C. Bydd yr ardal sydd wedi’i pharthu yn cynnwys unrhyw ofod a grëwyd trwy ddefnyddio waliau neu raniadau nad ydynt yn strwythurol. Gall patrymau parthu amrywio yn dibynnu ar fath yr eiddo, ei leoliad, ac arfer hanesyddol. Ni fydd Parth A, B, C a gweddilliad gan bob eiddo.
Mae ardaloedd megis storfeydd neu swyddfeydd i fyny’r grisiau wedi’u cynnwys yn y prisiad, a rhoddir pris fesul metr sgwâr iddynt, ond nid ydynt yn cael eu parthu. Nid ydym yn cynnwys ardaloedd megis toiledau, grisiau ac ystafelloedd glanhawyr yn y prisiad.
Peiriannau a pheirianwaith
Efallai y bydd peiriannau a pheirianwaith yn ymddangos ar wahân yng nghyfrifiad y gwerth ardrethol. Gall peiriannau a pheirianwaith gynnwys:
-
gwresogi
-
systemau chwistrellu dŵr
-
aerdymheru
-
lifftiau