Sut mae gorsafoedd petrol yn cael eu prisio
Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer gorsafoedd petrol.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sut mae gorsafoedd petrol yn cael eu prisio
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) fel arfer yn defnyddio’r dull rhent cymharol i brisio gorsafoedd petrol, sef ‘petrol filling stations’ (PFS). Mae’r dull hwn a’r ffordd o brisio PFS wedi’i gytuno gyda chynrychiolwyr y diwydiant gan gynnwys Cymdeithas Manwerthwyr Petrol a Diwydiant Tanwyddau y DU. Dysgwch fwy am y dull rhentu cymharol.
Mae’r VOA hefyd yn ystyried masnach gynaliadwy teg, sef ‘fair maintainable trade’ (FMT), i brisio PFS. Dyma’r lefel flynyddol o fasnach y mae disgwyl i PFS eu cyflawni os maen nhw’n cael eu rhedeg mewn ffordd resymol o effeithlon. Gall masnach berthnasol gynnwys:
- llif trwodd y blaengwrt a’r litrau a ddosbarthwyd
- gwerthiant y siop heb gynnwys TAW
- gwerthiant golchi ceir heb gynnwys TAW
- tanwydd wedi’i storio
- gwerthiant y loteri
Gwerthoedd ardrethol 2026
Mae gwerth ardrethol yn asesiad o’r hyn y byddai’n ei gostio i rentu eiddo am flwyddyn, ar ddyddiad penodol a elwir yn Ddyddiad Prisio Rhagflaenol, sef ‘Antecedent Valuation Date’ (AVD).
Daeth yr ailbrisiad diweddaraf i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Ebrill 2023. Roedd yn seiliedig ar yr AVD 1 Ebrill 2021.
Bydd yr ailbrisiad nesaf yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Ebrill 2026. Mi fydd yn seiliedig ar yr AVD 1 Ebrill 2024.
Ar yr AVD 1 Ebrill 2021, cafodd gorsafoedd petrol eu heffeithio gan bandemig COVID-19. Roedd hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o orsafoedd petrol wedi cael gwerthoedd ardrethol is yn ailbrisiad 2023 nag y byddent wedi’u derbyn fel arall. Mae unrhyw gynnydd mewn gwerthoedd ardrethol yn ailbrisiad 2026 yn adlewyrchu newidiadau ym masnach gorsafoedd petrol ers 2021, ynghŷd â dychwelyd cyffredinol i normalrwydd yn y farchnad. Mae’r VOA wedi cytuno ar gynllun prisio ar gyfer ailbrisiad 2026 gyda’r diwydiant PFS i adlewyrchu materion o’r fath.
Nid eich gwerth ardrethol yw’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu. Mae cynghorau lleol yn defnyddio gwerthoedd ardrethol i gyfrifo biliau ardrethi busnes.