Canllawiau

Sut mae swyddfeydd yn cael eu prisio ar gyfer ardrethi busnes

Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer swyddfeydd.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sut mae swyddfeydd yn cael eu prisio

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) fel arfer yn defnyddio’r dull rhent cymharol i brisio swyddfeydd. Rydym yn grwpio swyddfeydd gydag eiddo tebyg i gynlluniau prisio. Fel arfer, rydym yn eu mesur gan ddefnyddio’r dull arwynebedd mewnol net (NIA). Dysgwch fwy am y dull rhent cymharol, cynlluniau prisio a NIA

I brisio swyddfeydd, mae’r VOA yn: 

  • casglu gwybodaeth am y rhent a dalwyd am eiddo ac eiddo tebyg cyfagos 

  • dadansoddi’r wybodaeth ac yn cyfrifo pris fesul metr sgwâr ar gyfer yr eiddo 

Rydym hefyd yn ystyried: 

  • cyfnodau di-rent 

  • gwelliannau a wnaed gan y tenant 

  • telerau prydles anarferol

  • costau gosod ffitiadau

Rydym yn lluosi’r pris fesul metr sgwâr ag arwynebedd llawr yr eiddo i gyfrifo’r gwerth ardrethol. 

Gall parcio: 

  • cael ei ddangos ar wahân yn y prisiad 

  • cael ei gynnwys yng nghyfanswm y pris fesul metr sgwâr 

  • cael gwerth ardrethol ar wahân

Dysgwch sut i gael help i ddiweddaru manylion eiddo eich swyddfa (yn agor tudalen Saesneg)

Peiriannau a pheirianwaith 

Efallai y bydd peiriannau a pheirianwaith yn ymddangos ar wahân yng nghyfrifiad y gwerth ardrethol. Gall peiriannau a pheirianwaith gynnwys: 

  • aerdymheru
  • gwresogi
  • teledu cylch cyfyng
  • systemau chwistrellu dŵr

Swyddfeydd â gwasanaeth 

Mae’r VOA yn prisio adeiladau swyddfeydd â gwasanaeth naill ai fel un asesiad sengl neu fel sawl eiddo ar wahân. Mae hyn yn dibynnu: 

  • a yw deiliad yr uned yn meddiannu

  • a yw’r gweithredwr yn parhau i fod mewn rheolaeth

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2025

Argraffu'r dudalen hon