Canllawiau

Sut mae ffatrïoedd, gweithdai a warysau yn cael eu prisio ar gyfer ardrethi busnes

Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer ffatrïoedd, gweithdai a warysau.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sut mae ffatrïoedd, gweithdai a warysau yn cael eu prisio 

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn defnyddio’r dull rhent cymharol i brisio ffatrïoedd, warysau a gweithdai. Rydym yn grwpio’r eiddo hyn gydag eiddo tebyg i gynlluniau prisio. Rydym yn eu mesur gan ddefnyddio’r dull arwynebedd mewnol gros (GIA). Dysgwch fwy am y dull rhent cymharol, cynlluniau prisio a GIA

I brisio ffatrïoedd, warysau a gweithdai, mae’r VOA yn: 

  • casglu gwybodaeth am y rhent a dalwyd am eiddo ac eiddo tebyg cyfagos 
  • dadansoddi’r wybodaeth ac yn cyfrifo pris fesul metr sgwâr ar gyfer yr eiddo 

Rydym hefyd yn ystyried yr eiddo o ran: 

  • maint 
  • oedran 
  • lleoliad 
  • tir  
  • nodweddion, megis uchder y bondo a gwresogi 

Rydym yn lluosi’r pris fesul metr sgwâr ag arwynebedd llawr yr eiddo i gyfrifo’r gwerth ardrethol. 

Dysgwch sut i gael help i ddiweddaru manylion eiddo eich ffatri, gweithdy neu warws (yn agor tudalen Saesneg)

Peiriannau a pheirianwaith 

Efallai y bydd peiriannau a pheirianwaith, meysydd parcio a thir yn ymddangos ar wahân yng nghyfrifiad y gwerth ardrethol. Gall peiriannau a pheirianwaith gynnwys:

  • system chwistrellu dŵr

  • aerdymheru

  • teledu cylch cyfyng

  • gwresogi

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2025

Argraffu'r dudalen hon