Sut mae meithrinfeydd dydd yn cael eu prisio ar gyfer ardrethi busnes
Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer meithrinfeydd dydd.
Yn berthnasol i Loegr
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) fel arfer yn defnyddio’r dull rhent cymharol i brisio meithrinfeydd dydd. Rydym yn grwpio meithrinfeydd dydd gydag eiddo tebyg i gynlluniau prisio. Rydym yn eu mesur gan ddefnyddio’r dull arwynebedd mewnol net (NIA). Dysgwch fwy am y dull rhent cymharol, cynlluniau prisio a NIA.
I brisio meithrinfeydd dydd, mae’r VOA yn:
-
casglu gwybodaeth am y rhent a dalwyd am eiddo ac eiddo tebyg cyfagos
-
dadansoddi’r wybodaeth ac yn cyfrifo pris fesul metr sgwâr ar gyfer yr eiddo
Rydym yn lluosi maint yr eiddo gyda’r pris fesul metr sgwâr i gyfrifo’r gwerth ardrethol. Rydym hefyd yn ystyried manylion penodol yr eiddo, megis:
-
dyluniad yr adeilad
-
sut mae’r eiddo’n cael ei ddefnyddio
-
lleoliad yr eiddo