Canllawiau

Rhagor o fanylion am brosiectau rhaglen ddiwygio GLlTEM

Rydym wedi cychwyn ar raglen ddiwygio gwerth £1bn o bunnoedd sy’n cynnwys dros 50 o brosiectau i newid a gwella ein gwasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd a chyflwyno technoleg newydd a ffyrdd modern o weithio.

This guidance was withdrawn on

This page has been withdrawn because it’s out of date. You can read about the HMCTS reform programme at https://www.gov.uk/guidance/the-hmcts-reform-programme

Prosiectau sifil, teulu a thribiwnlysoedd

Sifil

Gorfodaeth Sifil

Adolygu strwythur gorfodaeth sifil i ddarparu gwell gwybodaeth a chynyddu’r tebygolrwydd o orfodaeth lwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys rhagor o arweiniad, proses symlach a system ddigidol i gynyddu effeithlonrwydd.

Y Llys Gwarchod

Bydd y rhai hynny sy’n defnyddio’r Llys Gwarchod yn gallu cychwyn a rheoli eu hachosion ar-lein.

Meddiant

Bydd y broses meddiannu gyflymedig yn cael ei gwneud yn ddigidol. Fel cam interim, bydd atomeiddiad o’r broses weinyddol yn cael ei gweithredu i wneud y broses yn fwy effeithlon ac i arbed arian. Rhoddir ystyriaethau i ffyrdd o safoni gweinyddiaeth mewn achosion meddiant.

Y Llysoedd Barn Brenhinol a’r Uwch Dribiwnlys

Mae’r awdurdodaethau sy’n ffurfio’r Llysoedd Barn Brenhinol (RCJ) a Siambrau’r Uwch Dribiwnlys (UT) a’r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth yn ymdrin â channoedd o achosion proffil uchel sy’n sefydlu cynseiliau mewn cyfraith. Rydym yn newid y ffordd y mae defnyddwyr yn ffeilio dogfennau ac yn talu ffioedd llys drwy gyflwyno system ar-lein newydd o’r enw ‘ce-file’, system fodern ar gyfer rheoli achosion i ddefnyddwyr, barnwyr a staff. Bydd y system yn galluogi staff y llys a defnyddwyr proffesiynol y llys i rannu gwaith rhwng timau neu gydweithwyr yn ddigidol, a lleihau’r oedi a achosir drwy gludo ffeiliau papur o gwmpas yr adeilad neu’r swyddfa.

Teulu

Mabwysiadu

Proses o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer achosion mabwysiadu.

Ysgariad

Darparu gwasanaeth ysgaru sydd wedi ei drawsnewid i unigolion sydd eisiau diweddu eu priodas neu bartneriaeth sifil. Bydd y prosiect hwn hefyd yn lleihau’r adnoddau y mae gofyn i GLlTEM eu darparu ar gyfer achosion o’r fath. Bydd gwasanaeth digidol ar gyfer ceisiadau am: ysgariad, dirymiad neu ymwahaniad cyfreithiol o briodas neu bartneriaethau sifil, a’r gallu i dalu ffioedd ar-lein.

Gwaith Teulu Cyfraith Gyhoeddus

Bydd y prosiect hwn yn trawsnewid gwaith teulu cyfraith gyhoeddus i alluogi defnyddwyr, yn cynnwys awdurdodau lleol, i gychwyn a rheoli achosion ar-lein ar gyfer gwaith teulu cyfraith gyhoeddus ac ar gyfer achosion mabwysiadu.

Gwaith Teulu Cyfraith Breifat

Gweithredu systemau a phrosesau i alluogi ymgyfreithwyr gwaith teulu cyfraith breifat i gychwyn a rheoli eu hachosion ar-lein.

Profiant

Gweithredu system ddigidol lyfn i gyflymu a symleiddio’r broses i unigolion sy’n gwneud cais am brofiant mewn achosion digynnen.

Tribiwnlysoedd

Tribiwnlysoedd Cyflogaeth

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio cyfuniad o awdurdodiad y tribiwnlysoedd a modelau hawliadau arian yn y llys sifil i ddatblygu gwasanaeth sy’n gallu addasu’r ffordd y mae’n gweithredu yn ôl yr hyn y mae’r defnyddiwr ei angen. Bydd hyn yn cynnwys y gallu i ddatrys achosion ar-lein a drwy fideo.

Siambr Mewnfudo a Lloches

Datblygu gweinyddiaeth gwasanaeth y Siambr Mewnfudo a Lloches fel y gall addasu yn ôl anghenion gwahanol ddefnyddwyr. Bydd yn golygu gallu datrys achosion ar-lein a drwy fideo.

Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant

Sefydlu proses ddigidol newydd i wella profiad apelyddion, a’u caniatáu i gyflwyno, olrhain a rheoli eu hapêl ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys prosesau gwirio ac adnodd rhestru ar-lein.

Tribiwnlysoedd Arbenigol

Bydd y prosiect yma yn sefydlu ffyrdd newydd o weithio ar draws y tribiwnlysoedd, un tribiwnlys ar y tro.

Prosiectau troseddol

Bydd maes troseddol y rhaglen ddiwygio yn cefnogi gweithio’n ddigidol drwy’r llysoedd troseddol; galluogi pawb sy’n cymryd rhan yn y system cyfiawnder troseddol i weithio gyda’r un wybodaeth i leihau dyblygu; a chyflwyno arferion gwaith mwy cyson. Bydd hefyd yn caniatáu inni ddelio’n wahanol â phethau nad oes angen iddynt fod yn y llys.

Caiff y chwe phrosiect isod eu hategu gan y seilwaith digidol a adnabuwyd fel y Platfform Cyffredin, system a rennir rhwng yr heddlu, GLlTEM a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a gall cyfranogwyr gael gafael arni ar draws y system cyfiawnder troseddol.

Cyflymu Achosion

Nod y prosiect hwn yw sicrhau bod yr holl weithgareddau sydd eu hangen er mwyn cyflawni treial effeithiol neu wrandawiad dedfrydu yn llysoedd yr ynadon a Llysoedd Goron yn cael eu cynnal gan gyfranogwyr yr achos ymlaen llaw fel y gall treialon a gwrandawiadau dedfrydu fynd rhagddynt fel y cynlluniwyd.

Pledio Ar-lein a Dyrannu

Bydd y prosiect hwn yn ei gwneud yn bosibl i ddiffynyddion (drwy eu cynrychiolydd cyfreithiol i ddechrau) nodi eu bod yn bwriadu pledio ar-lein, cyn dod i’r llys; ac ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch dyrannu y tu allan i’r ystafell llys lle bo hynny’n briodol.

Gwrandawiadau Llys

Bydd y prosiect hwn yn sicrhau bod treialon troseddol a gwrandawiadau dedfrydu yn cael eu cynnal gan ddefnyddio’r dechnoleg a’r amgylchedd ffisegol cywir yn yr ystafell llys i sicrhau bod y gwrandawiadau yn rhedeg yn esmwyth ar y diwrnod, gan adeiladu ar y defnydd cynyddol o dechnoleg a welwn eisoes yn y llysoedd troseddol.

Gwrandawiadau Remand Drwy Gyswllt Fideo (Gwrandawiadau Remand Rhith yn flaenorol)

Bydd y prosiect hwn yn trawsnewid y ffordd y mae penderfyniadau remand yn cael eu gweinyddu ar gyfer diffynyddion a gedwir yn nalfa’r heddlu. Nod y prosiect yw gwella’r systemau a’r prosesau sy’n sail i wrandawiadau fideo, a galluogi gwrandawiadau remand i gael eu cynnal yn gyfan gwbl drwy gyswllt fideo.

Ieuenctid

Bydd y prosiect hwn yn edrych yn benodol ar anghenion plant a diffynyddion ifanc er mwyn sicrhau nad ydym yn defnyddio prosesau oedolion gyda phlant, ond yn hytrach yn edrych ar bob cam o’r broses ac yn llunio fersiwn ohono sy’n briodol i bobl ifanc, gyda’r mesurau diogelu a’r gwelliannau cywir.

Gwasanaeth Un Ynad (SJS)

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys yr holl wasanaethau a ddarperir gan y llys ynadon y gellir eu trin gan un ynad. Mae’n adeiladu ar y broses o weithredu’r Weithdrefn Un Ynad (SJP), a gyflwynwyd i brosesu tua 850,000 o achosion y flwyddyn lle na roddir dedfryd o garchar.

Platfform Cyffredin

Bydd y prosiect hwn yn darparu un system a rennir rhwng yr heddlu, GLlTEM a CPS y gall cyfranogwyr ar draws y system cyfiawnder troseddol ei defnyddio. Mae’r chwe phrosiect isod i gyd yn rhan o seilwaith digidol y Platfform Cyffredin a fydd yn sail i ddiwygio gwaith troseddol.

  • Cyhuddo i Fanylion Cychwynnol Achos yr Erlyniad (IDPC): Gall swyddogion yr Heddlu ofyn am benderfyniadau cyn-cyhuddo gan yr erlynwyr. Mae erlynwyr yn adolygu’r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr Heddlu ac yn creu manylion cychwynnol achos yr erlyniad. Unwaith y bydd yr Heddlu wedi cadarnhau bod y diffynnydd wedi cael ei gyhuddo, bydd yr Amddiffyniad yn gallu defnyddio’r IDPC ar-lein.
  • Llysoedd Troseddol o’r dechrau i’r diwedd: Ymdrin â rheoli achosion a galluoedd eraill i gefnogi achosion yn ystod gwrandawiadau yn y llysoedd troseddol. Rhannwyd hyn yn gyntaf yn brosiectau Llys Ynadon a Llys y Goron ar wahân, ond fe’u cyfunwyd ynghyd i gyflwyno system newydd i’r Llysoedd Ynadon a Llysoedd y Goron gan ddisodli’r systemau rheoli achosion presennol.
  • Trac Awtomataidd ar gyfer Rheoli Achosion: Mae’r prosiect hwn yn system ddigidol sy’n sail i’r SJS ac fe’i cefnogir gan y Ganolfan Gwasanaeth Un Ynad (SJSC). Hyd yn hyn, mae’r gwasanaeth yn weithredol ar gyfer achosion sy’n cael eu herlyn gan TfL. Ers 12 Ebrill 2018, mae diffynyddion wedi gallu pledio ar-lein os ydynt wedi dewis gwneud hynny.
  • Cofnodi Ple: Ers mis Medi 2014 mae’r gwasanaeth cofnodi ple wedi bod yn weithredol. Ar ôl ei gyflwyno’n genedlaethol yn 2017, mae dros 1,600 o bledion am fân droseddau moduro’n cael eu trin ar-lein bob wythnos a gellir eu prosesu’n gyflymach ac yn gywir o ganlyniad. Rhwng Rhagfyr 2016 a Rhagfyr 2017, cafodd 575,866 o droseddau moduro lefel isel eu prosesu drwy’r llysoedd, ac o’r rheini, bu i 82,589 ddefnyddio’r system hon.
  • Cofnodi’n Ddigidol: Adnodd cofnodi canlyniadau achosion llys ar gyfer Cynghorwyr Cyfreithiol a Swyddogion Cysylltiedig â’r Llys yn y llys ynadon.
  • Rota’r Ynadon: Gall tua 14,000 o ynadon bellach gael mynediad at un system genedlaethol, hyblyg sy’n eu galluogi i gael mynediad at a rheoli manylion eisteddiadau ar-lein 24 awr y dydd o unrhyw ffôn clyfar/tabled neu gyfrifiadur. Mae hyn yn disodli proses â llaw.

Prosiectau trawsbynciol a phrosiectau gwasanaethau

Asiantaethau Gorfodi Cymeradwy

Gofalu am ail-gaffael contractau Asiantaethau Gorfodi Cymeradwy, sydd ar fin dod i ben, yn cynnwys adolygiad o sut mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu.

Cymorth Digidol

Darparu cefnogaeth i aelodau o’r cyhoedd (yn cynnwys ymgyfreithwyr drostynt eu hunain) sydd â gallu digidol cyfyngedig neu sydd heb fynediad at adnoddau a gwybodaeth ddigidol - yn cynnwys sgwrio dros y we, cymorth dros y ffôn neu gefnogaeth wyneb yn wyneb.

Prosiect Rhesymoli Ystad Birmingham

Rhesymoli’r ystad Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd yn Birmingham i arbed arian yn yr hir dymor. Darparu cyfleusterau gwrando achosion sy’n addas i bwrpas ac sy’n gallu gwrthsefyll newid yn y dyfodol yn Birmingham.

Sganio ac argraffu swmp

Cefnogi’r broses o ddigideiddio gwasanaethau drwy sefydlu gwasanaeth sganio swmp. Bydd hefyd yn lleihau costau argraffu a phostio drwy sefydlu gwasanaeth argraffu swmp canolog.

Canllaw Dylunio’r Llysoedd a Thribiwnlysoedd

Diffinio’r egwyddorion a’r safonau fydd yn sylfaen i ddyluniad adeiladau yn y dyfodol.

Llysoedd, Tribiwnlysoedd a’r Haen Ranbarthol

Datblygu cynllun sefydliadol newydd i unigolion mewn llysoedd a thribiwnlysoedd.

Canolfannau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd

Darparu nifer o ganolfannau gweinyddol canolog yng Nghymru a Lloegr drwy gyfuno gweithgarwch gweinyddol.

Fframwaith Perfformiad

Datblygu fframwaith perfformiad newydd i fesur perfformiad a chaniatáu data i arwain datblygiadau’r dyfodol.

Prosiect Diwygio’r Ystad 1

Adolygu’r defnydd a wneir o adeiladau a chael gwared ag adeiladau diangen.

Prosiect Diwygio’r Ystad 2

Asesu’r potensial i gyfuno’r ystad ymhellach fel mae’r rhaglen ddiwygio yn cael ei chyflwyno.

Oriau Gweithredu Hyblyg (astudiaeth dichonoldeb)

Cynnal profion ac ymarfer dadansoddi ar draws nifer o safleoedd mewn gwahanol leoliadau ac awdurdodaethau i archwilio dichonoldeb oriau gweithredu hyblyg ac estynedig i wrandawiadau.

Prosiect Hammersmith a Camberwell Green

Rheoli’r gwerthiant a throsglwyddo’r gwaith o Hammersmith i Lys Ynadon Camberwell Green.

Isadeiledd TG – RCJ, Wi-Fi a sgriniau

Gosod W-Fi a darparu sgriniau yn y Llysoedd Barn Brenhinol

Isadeiledd TG- Sgriniau

Darparu sgriniau i’r farnwriaeth, ymgyfreithwyr drostynt eu hunain a sgriniau i dystion mewn llysoedd sifil, llysoedd teulu a thribiwnlysoedd.

Isadeiledd TG- Caledwedd Gwrandawiadau drwy gyswllt Fideo

Darparu offer fideo-gynadledda mewn llysoedd a thribiwnlysoedd i gefnogi gwrandawiadau drwy gyswllt fideo.

Isadeiledd mewnol TG- Wi-Fi

Sicrhau bod Wi-Fi ym mhob llys a thribiwnlys. Diweddaru Wi-Fi mewn safleoedd trosedd.

System Talu Ffioedd a Threuliau Barnwrol

Gwella’r broses o dalu ffioedd a threuliau barnwyr y llysoedd a barnwyr y tribiwnlysoedd ac aelodau paneli. Bydd y prosiect yn creu system ar- lein i reoli prosesu ceisiadau a threuliau, sydd nawr yn cynnwys aelodau sy’n cael ffi.

Gweithwyr GLlTEM a thrawsnewidiad diwylliannol.

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar yr unigolion medrus ac ymrwymedig sy’n gweithio i GLlTEM. Mae’n cynnwys pum maes:

  • Dylunio dyfodol y sefydliad;
  • Datblygu proffiliau swyddi ar gyfer y dyfodol
  • Cynyddu ymgysylltiad staff – ar hyn o bryd ac yn ehangach.
  • Sicrhau bod gennym bolisïau a dulliau sy’n cefnogi recriwtio, cadw staff, colli swyddi ac adleoli; ac
  • Adnabod y sgiliau newydd a’r galluoedd sydd eu hangen yn y gweithle a helpu i’w darparu.

Amserlennu a Rhestru

Datblygu adnodd amserlennu a gwrando a phrosesau newydd i’w defnyddio gan swyddogion rhestru’r llys i gefnogi eu gwaith.

Gwrandawiadau drwy gyswllt Fideo (gwrandawiadau rhith cynt)

Cynnal gwrandawiadau mewn amgylchedd digidol y tu allan i lysoedd neu dribiwnlysoedd traddodiadol. Datblygu’r gallu i ‘Reoli Gwrandawiadau ar y Diwrnod’ lle y gall y rhai sy’n mynychu gael eu croesawu a lle y gellir cael mân sgyrsiau gyda nhw a lle gallent gael sgyrsiau gyda’i gilydd . Bydd system ffôn gynadledda well yn cael ei darparu fel rhan o’r prosiect.

Prosiectau eraill

Trawsnewid Cydymffurfiad a Rhaglen Gorfodi

Gwella lefel yn ogystal ag effeithiolrwydd y casgliad o ddirwyon ariannol troseddol a orfodir drwy brosesau busnes a systemau TG gwell. Bydd hyn yn cyfuno gweithgarwch gweinyddol drwy leihau nifer y safleoedd a phobl ar y safleoedd hynny. Bydd y systemau TG gwell yn gwella’r broses casglu drwy broses wirio well a’r gallu i segmentu data.

Cyhoeddwyd ar 20 June 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 June 2019 + show all updates
  1. Content revised June 2019

  2. Added translation

  3. Royal Courts of Justice and Upper Tribunal civil project added.

  4. TCEP project information updated.

  5. Added translation

  6. First published.