Canllawiau

Grwpiau sy’n ymgysylltu ȃ Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF

Grwpiau defnyddwyr proffesiynol a chyhoeddus sy’n gweithio ȃ GLlTEF ar agweddau o’r rhaglen ddiwygio, yn cynnwys cydweithio ar gynigion datblygu newydd.

Rydym yn moderneiddio ein system llysoedd a thribiwnlysoedd i’w wneud yn haws, yn fwy hygyrch ac yn fwy effeithlon i bawb. Mae’n rhaglen uchelgeisiol gwerth £1biliwn sydd wedi’i dylunio i wella’r system ar gyfer y rhai sy’n ei defnyddio ac ar gyfer y rhai sy’n gweithio o fewn y system. Rydym yn cynnal nifer o fforymau ymgysylltu i sicrhau ein bod yn cydweithio ȃ grwpiau defnyddwyr proffesiynol a chyhoeddus ar gynigion a datblygiadau o fewn y rhaglen ddiwygio i ddeall eu hanghenion yn well. Bydd y gwaith hwn yn helpu i siapio dyfodol gwasanaethau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd i sicrhau’r canlyniadau gorau i bawb.

Ymgysylltu yn ystod COVID-19

Yn ystod pandemig y coronafeirws, rydym wedi cynyddu ein gweithgareddau ymgysylltu arferol gyda’n rhanddeiliaid. Rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd â nhw ac yn gynnar yn y broses o gyflwyno trefniadau newydd yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd mewn ymateb i’r argyfwng.

Sefydlwyd nifer o weithgorau dros dro i ddod â chynrychiolwyr grwpiau rhanddeiliaid gwahanol at ei gilydd, i drafod materion awdurdodaethol neu thematig. Rhestr ddangosol yw hon sy’n cynnwys crynodeb o’r fforymau sy’n weithredol ar hyn o bryd; nid yw’n rhestr gyflawn.

Fforwm Cylch Gorchwyl Aelodaeth
Gweithgor gwrandawiadau’r Llys Ynadon
Cadeirydd: Prif Ynad
Cefnogi’r gwaith o gynyddu yn ddiogel y nifer o wrandawiadau a gynhelir yn y llysoedd ynadon sydd ar agor ar draws ystâd GLlTEF. Mae’r grŵp yn adnabod ac yn datrys materion trawsasiantaethol a fyddai’n atal y cynnydd mewn gwrandawiadau yn y llysoedd ynadon. Y Farnwriaeth, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Heddlu, y Swyddfa Gartref, y Gwasanaeth Hebrwng Carcharorion i’r Ddalfa, GIG.
Grŵp Gweithdrefn Un Ynad COVID-19 I gyfarfod yn ôl yr angen yn dilyn y gwaith cychwynnol i gytuno ar fecanwaith i ddelio â thoriadau i Reoliadau COVID-19. GLlTEF, NPCC, ACRO, Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.
Grŵp Rheolaeth Strategol y System Gyfiawnder Troseddol
Cadeirydd: HMPPS
I sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â rheolaeth y gyfraith a threfn gyhoeddus, a gweithrediad ar y cyd y system gyfiawnder troseddol drwy gydol y pandemig. Mae’r grŵp yn trafod newidiadau neu risgiau sylweddol o fewn pob sefydliad, ceisiadau am gymorth ac unrhyw benderfyniadau sydd ar y gweill sy’n debygol o effeithio ar asiantaethau eraill. Mae yna nifer o weithgorau sy’n eistedd o dan y CJSSC i gefnogi amrywiaeth o feysydd penodol sy’n berthnasol i’r system gyfiawnder troseddol. *Nid yw’r grŵp hwn bellach yn weithredol. GLlTEF, Gwasanaeth Erlyn y Goron, HMPPS, yr Heddlu, y Farnwriaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England, NHS England, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Swyddfa Gartref.
Diweddariad ar gynlluniau adfer pob pythefnos i Gyrff Cyfreithiol Proffesiynol
Cadeirydd: GLlTEF
Diweddaru a thrafod cynlluniau adfer a chamau gweithredu. Dod â phawb ar draws yr holl awdurdodaethau ynghyd, gyda mewnbwn gan y proffesiwn cyfreithiol i hysbysu a herio penderfyniadau. GLlTEF, Cyngor y Bar, Cymdeithas y Gyfraith, Support Through Court, 7br Barristers Chambers.

Grwpiau Ymgysylltu - Cyfiawnder Troseddol

Mae’r rhaglen ddiwygio yn newid y ffordd mae’r llysoedd yn delio ag achosion troseddol. Yn yr un ffordd, mae asiantaethau eraill o fewn y system gyfiawnder troseddol fel yr heddlu, y gwasanaeth carchardai a’r gwasanaeth prawf hefyd yn newid eu ffyrdd o weithio. Mae Grwpiau Ymgysylltu Cyfiawnder Troseddol yn dod â’r asiantaethau hyn ynghyd fel y gallwn gydlynu ein cynlluniau i wella.

Amlinellir ein grwpiau cyfiawnder troseddol isod.

Fforwm Cylch Gorchwyl Aelodaeth
Bwrdd Integreiddio’r System Gyfiawnder Troseddol
Cadeirydd: Prif Swyddog Gweithredol, GLlTEF
Amlder y cyfarfodydd: chwarterol
Mae’n anelu at drawsnewid y System Cyfiawnder Troseddol drwy ddylunio a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio ar y cyd rhwng asiantaethau, gyda chefnogaeth technoleg sy’n caniatáu rhannu gwybodaeth ac yn sicrhau nad ydym yn dyblygu ein hymdrechion. Mae’r bwrdd yn cynnwys arweinwyr ar draws y system gyfiawnder troseddol sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod newidiadau yn cael eu dylunio gan ystyried yr holl ddefnyddwyr ac yn cael eu cyflwyno mewn modd addas. GLlTEF, Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu, Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, Y Swyddfa Gartref, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, Swyddfa Farnwrol Cymru a Lloegr, y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Gweithgor Cyfiawnder Troseddol
Cadeirydd: Dirprwy Gyfarwyddwr – Unigolyn sy’n Gyfrifol am y Gwasanaeth Troseddol, Datblygu’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd, GLlTEF
Amlder y cyfarfodydd: misol
Yn gyfrifol am weithredu cyfeiriad strategol Bwrdd Integreiddio’r System Gyfiawnder Troseddol. Mae’n ceisio safbwyntiau arbenigol ac ymgysylltu bywiog gan bartneriaid Cyfiawnder Troseddol, er lles defnyddwyr ledled y System Gyfiawnder Troseddol. GLlTEF, Policing and Fire Group - Home Office, Essex Police Force Collaboration Programme, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu, Yr Heddlu Metropolitan, Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol, Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, Swyddfa Farnwrol Cymru a Lloegr, Video Enabled Justice Programme - Sussex Police & Crime Commissioner, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, Cymdeithas Prif Weithredwyr Plismona a Throsedd, Grŵp Polisi Cyfiawnder a’r Llysoedd – y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Gweithgor Ymarferwyr Digidol Cenedlaethol
Cadeirydd: Unigolyn sy’n Gyfrifol am Gynnyrch Busnes yr Amddiffyniad – Y Platfform Cyffredin, Rhaglen Ddiwygio Llysoedd Troseddol GLlTEF
Amlder y Cyfarfodydd: misol, yn Llundain ac ar-lein.
Mae’n hybu darpariaeth strategol deunyddiau digidol amddiffyn ar gyfer y System Gyfiawnder Troseddol i hybu dull cyson i sicrhau effeithlonrwydd digidol ar draws y gymuned amddiffynnol. Mae’n sicrhau’r ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o weithio’n ddigidol. Mae’n darparu ffordd i ymarferwyr yr amddiffyniad roi adborth ar gynnyrch a gwasanaethau, fel y maent yn cael eu dylunio, eu datblygu a’u profi cyn iddynt fod yn weithredol ar-lein. Mae’r grŵp yn trafod materion digidol ac yn arddangos y dulliau diweddaraf sydd wedi cael eu datblygu ar gyfer y Platfform Cyffredin. Gwahoddir cynrychiolaeth gan: GLlTEF, Cyngor y Bar, Cymdeithas y Gyfraith, London Criminal Courts Solicitors’ Association, Cymdeithas Y Bar Troseddol, Sefydliad Clercod Bargyfreithwyr, Cymdeithas Cyfreithwyr Cyfraith Droseddol, Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol, Grŵp Ymarferwyr Cymorth Cyfreithiol, Cyfreithwyr Cymorth Cyfreithiol Ifanc, Police Digital First Programme, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Cymdeithas yr Ynadon. Mae llefydd ychwanegol ar gyfer 10 o ymarferwyr yr amddiffyniad i fynychu yn bersonol ac i 10 ymuno trwy’r ystafell gyfarfod ar-lein. Mae tocynnau ar gael ar Eventbrite ac maent yn cael eu hysbysebu ar flog GLlTEF a chyfrifon X (gynt Twitter) GLlTEF.

Grwpiau Ymgysylltu – Gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith

Rydym yn ymwneud yn gyson ȃ chyrff proffesiynol cyfreithiol fel Cyngor y Bar, Cymdeithas y Gyfraith, a Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol ar lefel Prif Weithredwyr ac ar lefel bolisi. Rydym hefyd yn gweithio ar y cyd â’r cyrff hyn i sicrhau bod safbwyntiau ymarferwyr yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r cynigion a dylunio’r gwasanaethau sydd wedi’u diwygio.

Amlinellir ein grwpiau ymgysylltu – gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith isod:

Fforwm Cylch Gorchwyl Aelodaeth
Fforymau Ymgysylltu Proffesiynol Awdurdodaethol
Cadeiryddion: Dirprwy Gyfarwyddwyr, Rhaglen Ddiwygio Tribiwnlysoedd GLlTEF.
Amlder y cyfarfodydd: ad-hoc, yn dibynnu ar amserlenni prosiectau awdurdodaethol a phrif feysydd o ddiddordeb i’r proffesiwn.
Cynhelir y fforymau er mwyn i brosiectau gyflwyno gweithgareddau ymgysylltu ar faterion penodol a chynnwys y rhai hynny sy’n weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, i’w darparu gyda chyfleoedd i gyd-ddylunio. Mae’r fforymau sydd wedi eu rhannu rhwng awdurdodaethau’r llysoedd Sifil, Teulu, Troseddol a’r Tribiwnlysoedd yn cael eu llywio gan y Grŵp Ymgysylltu Strategol Proffesiynol. GLlTEF, Cyngor y Bar, Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, Cymdeithas y Gyfraith, Cyngor ar Bopeth, Cymdeithas Cyfreithwyr Cyflogaeth, Cymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Mewnfudo, Y Swyddfa Farnwrol, Cymdeithas Cyfreithwyr Iechyd Meddwl, Pwyllgor Bargyfreithwyr Ifanc, Law Centres Network, UK Administrative Justice, JUSTICE, Coram Children’s Legal Centre, Cymdeithas y Bar Cyfraith Teulu, Family Business Insight Group, Pwyllgor Cyfraith Teulu, Sefydliad Cyflafareddwyr Cyfraith Teulu, Y Swyddfa Farnwrol, Resolution, STEP, City of London Law Society, Y Swyddfa Farnwrol. Cymdeithas y Bar Troseddol, Cymdeithas Cyfreithwyr Cyfraith Droseddol, Freelance Advocacy Services, Y Swyddfa Farnwrol, London Criminal Court Solicitors Association, One Legal.
Grŵp Ymgysylltu Strategol Proffesiynol
Cadeirydd: Pennaeth Perthnasau Rhanddeiliaid Strategol
Amlder y cyfarfodydd: bob 6 wythnos.
Yn anelu i roi trosolwg strategol o weithgareddau ymgysylltu yn ogystal ȃ chynllunio gweithgareddau i ymgysylltu yn effeithiol ar draws y rhaglen. Grŵp llywio yw hwn sy’n cynnwys arweinyddion awdurdodaethau GLlTEF ac arweinyddion polisi o brif sefydliadau sy’n darparu cynrychiolaeth gyfreithiol. GLlTEF, Cyngor y Bar, Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, Cymdeithas y Gyfraith.

Grwpiau Ymgysylltu - Defnyddwyr Cyhoeddus

Rydym mewn cyswllt cyson ȃ chynrychiolwyr defnyddwyr cyhoeddus gan ddod â staff GLlTEF a phobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau at ei gilydd drwy amrywiaeth o fforymau a grwpiau. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar ddioddefwyr, tystion, pobl ifanc, materion cydraddoldeb a chynhwysiad, ymgyfreithwyr drostynt eu hunain a diffynyddion, ymysg eraill.

Amlinellir ein grwpiau ymgysylltu – defnyddwyr cyhoeddus isod:

Fforwm Cylch Gorchwyl Aelodaeth
Grŵp Ymgysylltu am Newid Dioddefwyr a Thystion
Cadeirydd: Dirprwy Gyfarwyddwr Newid ac Arloesi ar gyfer Cwsmeriaid, GLlTEF.
Amlder y cyfarfodydd: chwarterol.
Yn rhoi adborth ar ddylunio a datblygu gweithdrefnau sy’n cael eu diwygio ac ymarferion sy’n cael effaith ar ddioddefwyr a thystion. Mae’r grŵp yn helpu sicrhau bod cynigion yn bodloni anghenion Dioddefwyr a Thystion ac yn welliant o’i gymharu â’r gwasanaeth a gynigir ar hyn o bryd. Mae hefyd yn cynrychioli amrywiaeth o ddioddefwyr a thystion ac yn sicrhau bod anghenion y gymuned hon yn cael eu cynrychioli wrth ddatblygu GLlTEF. GLlTEF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Erlyn y Goron, NSPCC, Survivors Trust, Gwasanaeth Tystion, Brake, Rape Crisis, Cymorth i Ferched, Cymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, Mayor’s Office for Policing and Crime, Swyddfa’r Comisiynydd Dioddefwyr, Cymorth i Ddioddefwyr, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, goroeswr a chynrychiolydd academaidd.
Gweithgor Plant a Phobl Ifanc
Cadeirydd: Cyfarwyddwr Cwsmeriaid, GLlTEF.
Amlder y cyfarfodydd: chwarterol.
Yn darparu adborth ar ddylunio a datblygu gweithdrefnau ac ymarferion sydd wedi cael eu diwygio sy’n cael effaith ar blant a phobl ifanc. Mae’r grŵp yn ceisio deall yn well y daith mae plant a phobl ifanc yn ei dilyn wrth ddefnyddio ein gwasanaethau. Mae’n helpu i sicrhau bod cynigion yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc ac yn gwella eu profiad o’n gwasanaethau. GLlTEF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, NSPCC, Cymdeithas Rheolwyr Timau Troseddwyr Ifanc, Gwasanaeth Cefnogaeth Ymgynghorol y Llys Teulu a Phlant, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Barnardo’s, Waltham Forest, Coram Children’s Legal Centre a chynrychiolydd academaidd.
Ymgysylltu – Llais Ddiffynyddion
Cadeirydd: Cyfarwyddwr Cwsmeriaid GLlTEF.
Amlder y Cyfarfodydd: chwarterol.
Edrych ar yr effaith posibl gall cynigion Diwygio’r Llys Troseddol ei gael ar ddiffynyddion. Mae’n helpu i ddeall mewnwelediadau a syniadau diffynyddion a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed o fewn y gwasanaethau sy’n cael eu diwygio. GLlTEF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Hibiscus Initiatives, Cyfryngwyr Cyfiawnder, Revolving Doors, KeyRing, JUSTICE, Unlock, Barrow Cadbury Trust, Together UK, Prison Reform Trust, Centre for Justice Innovation, User Voice, Rethink, Seicolegydd Fforensig, Cyfryngwr Cofrestredig a chynrychiolydd academaidd.
Grŵp Ymgysylltu – Cydraddoldeb a Chynhwysiad
Cadeirydd: Cyfarwyddwr Cwsmeriaid GLlTEF.
Amlder y cyfarfodydd: chwarterol.
Mae’n casglu mewnwelediadau a syniadau cyfranogwyr i sicrhau bod GLlTEF yn integreiddio egwyddorion cydraddoldeb yn yr holl wasanaethau sy’n cael eu diwygio i hybu gwasanaeth sy’n gynhwysol, sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr ac nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn unigolion bregus neu ddifreintiedig. GLlTEF, Good Things Foundation, RNIB, Revolving Doors, Cyngor ar Bopeth, Barnardo’s, AGE UK, Faiths Forum for London, Cynrychiolydd Barnwrol, Unedau Cefnogaeth Bersonol, Maternity Action, Disability Rights UK, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Public Law Project, Mind, Action on Hearing Loss, Fawcett Society, Race Equality Foundation, Rethink a Chyfryngwr Cofrestredig.
Grŵp Ymgysylltu - Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain
Cadeirydd: Yn cael ei gyd-gadeirio gan Gyfarwyddwr Cwsmeriaid GLlTEF ac aelod o’r Farnwriaeth.
Amlder y cyfarfodydd: pob deufis.
Yn darparu adborth ar ddylunio a datblygu gweithdrefnau sy’n cael eu diwygio ac ymarferion sy’n cael effaith ar ymgyfreithwyr drostynt eu hunain. Mae’r grŵp yn dod â phersbectif unigryw i’r broses, gan gynnwys y rhai hynny sy’n helpu ymgyfreithwyr drostynt eu hunain i lywio’r system gyfiawnder. Cynrychiolydd Barnwrol, GLlTEF, AdviceUK, Uned Cefnogaeth Bersonol, Law for Life (gan gynnwys Advice Now), Legal Education Foundation, Money Advice Trust, Sefydliad Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain, Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol, Pro Bono Trust, Coram Children’s Legal Centre, Y Swyddfa Farnwrol, Strategaeth Gefnogi Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain ac Access to Justice Foundation.

Grwpiau Ymgysylltu - Y Cyfryngau

Ffurfiwyd y grŵp yn wreiddiol yn 2018 i gefnogi GLlTEF i ddatblygu canllawiau i staff presennol i sicrhau bod gan y llysoedd a’r tribiwnlysoedd fynediad i’r cyfryngau.

Y bwriad yw hwyluso ymgysylltiad parhaus rhwng cynrychiolwyr y cyfryngau a’r rhai sydd â chyfrifoldebau polisi a gweithredol o ran mynediad y cyfryngau at wasanaethau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn ogystal â gwrandawiadau a gwybodaeth.

Fforwm Cylch Gorchwyl Aelodaeth
Gweithgor y Cyfryngau
Cadeirydd: Cyfarwyddwr Cyfathrebiadau,
GLlTEF Amserlen cyfarfodydd: I’w benderfynu gan y grŵp ar sail barhaus
Y bwriad yw hwyluso ymgysylltiad parhaus rhwng cynrychiolwyr y cyfryngau a’r rhai sydd â chyfrifoldebau polisi a gweithredol o ran mynediad y cyfryngau at wasanaethau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn ogystal â gwrandawiadau a gwybodaeth GLlTEF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Farnnio i’r cyfryngau, gyda’r bwriad owrol, Evening Standard, BBC, ITN, News Media Association, Society of Editors, National Union of Journalists, National Council for Training Journalists, JPI Media, The Guardian, Crime Reports Association, Newsquest Media Group, Press Association, RADAR

Am wybodaeth bellach am unrhyw un o’r grwpiau hyn cysylltwch ȃ: contact: HMCTS.Communications@justice.gov.uk

Cyhoeddwyd ar 4 October 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 February 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Updated link

  3. Updated page

  4. Updated Public Engagement Groups section

  5. Updated information about public user engagement groups.

  6. Updated information about our engagement groups.

  7. Updated contact email address

  8. Added translation

  9. Added translation

  10. Crown Court working group removed as it has now been dissolved.

  11. Information on Media Working Group updated.

  12. COVID-19 engagement groups updated.

  13. New stakeholder group: Engagement during COVID-19.

  14. Added translation

  15. Media working group added.

  16. First published.