Canllawiau

Help gyda phensiynau ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Dod o hyd i wybodaeth am roi gwybod am incwm o bensiynau, taliadau treth ar gynilion pensiwn a hawlio rhyddhad ar gyfraniadau at bensiwn ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Darllenwch ragor am ryddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn preifat, a gwirio a oes angen i chi ei hawlio yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Taflen gymorth ar lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau penodol o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Defnyddiwch daflen gymorth Cynilion Pensiwn — taliadau treth (HS345) (yn agor tudalen Saesneg) i’ch helpu gyda datgan y canlynol:

  • taliadau treth ar gynilion pensiwn

  • cyfandaliadau trethadwy o gynlluniau pensiwn tramor

Fideo YouTube CThEF

Gwyliwch recordiad o weminar ynglŷn â rhyddhadau treth ac incwm arall ar eich Ffurflen Dreth ar-lein.

Rhyddhadau treth ac incwm arall ar eich Ffurflen Dreth ar-lein (yn agor tudalen Saesneg)

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • datgan incwm o bensiwn preifat a phensiwn y Wladwriaeth

  • rhyddhadau treth, gan gynnwys talu i gynlluniau pensiwn cofrestredig a chynlluniau pensiwn tramor

Ffurflen Dreth bapur

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio’r dudalen atodol SA101 er mwyn rhoi gwybod am daliadau treth ar gynilion pensiwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Medi 2025 show all updates
  1. A new YouTube video about paying tax due on your State Pension has been added and the webinar about other income and tax reliefs has been updated.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon