Skip to main content
Canllawiau

Canllawiau ar nodau iechyd ac adnabod

Canllawiau ar y nodau iechyd ac adnabod y mae’n rhaid eu rhoi ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) fel cig, cynhyrchion wyau, pysgod, caws a llaeth.

Mae’r canllawiau canlynol ar gyfer awdurdodau gorfodi ac maent yn gymwys i holl fusnesau bwyd y DU sy’n cynhyrchu POAO yn y DU (Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon). Mae’r canllawiau’n amlinellu’r gofynion o ran nodau adnabod a fydd yn caniatáu i POAO a gynhyrchir gan fusnesau yn y DU gael eu rhoi ar farchnadoedd Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, yr UE a thu allan i’r UE.

Beth yw nodau iechyd ac adnabod?

Gosodir nodau iechyd yn uniongyrchol ar garcasau camolion (ungulates) domestig a mamaliaid hela sy’n cael eu ffermio (ac eithrio lagomorffiaid) gan yr Awdurdod Cymwys, a hynny mewn lladd-dai a sefydliadau trin helgig. Yn yr achos hwn, yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys, gan fod angen goruchwyliaeth filfeddygol ar y sefydliadau hyn i allu cynnal rheolaethau swyddogol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’n dangos bod y cynnyrch wedi’i gynhyrchu yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd. Mae gan Safonau Bwyd yr Alban (FSS) gyfrifoldeb tebyg yn yr Alban.

Mae busnesau bwyd yn rhoi nodau adnabod ar POAO, sy’n dangos ei fod wedi’i gynhyrchu mewn sefydliad cymeradwy ac yn unol â rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd. Rhoddir nodau adnabod fel arfer ar ddeunydd lapio, deunydd pecynnu neu labeli sy’n cynnwys, neu sydd ynghlwm wrth y POAO.

Ymhellach i lawr y dudalen hon gallwch ddod o hyd i’r canlynol:

  • disgrifiad o’r nodau adnabod, gan ddibynnu ar p’un a yw’r busnes bwyd wedi’i leoli yng Ngogledd Iwerddon neu ym Mhrydain Fawr. Mae llywodraeth y DU yn argymell defnyddio’r cod gwlad llawn ‘United Kingdom’ lle mae’n ymarferol gwneud hynny.
  • gwybodaeth sy’n nodi’r gofynion ar gyfer gwahanol farchnadoedd. Mae angen i fusnesau sicrhau eu bod yn defnyddio’r nod adnabod cywir yn dibynnu ar y farchnad darged ar gyfer eu POAO.

Nodau adnabod dilys cyfredol

Nid oes maint lleiaf na mwyaf wedi’i bennu ar gyfer y nod adnabod. Fodd bynnag, rhaid i’r nod hirgrwn fod yn ddarllenadwy ac yn annileadwy, a’r llythrennau’n hawdd eu dehongli.

Ar farchnad Prydain Fawr

Rhaid i’r nod adnabod gynnwys naill ai enw’r wlad yn llawn ‘UNITED KINGDOM’ neu’r talfyriad ‘GB’ neu ‘UK’ ar gyfer POAO a gynhyrchir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae llywodraeth y DU yn argymell defnyddio’r cod gwlad llawn ‘United Kingdom’ lle mae’n ymarferol gwneud hynny. Dylai busnesau sydd am symud eu POAO y tu allan i farchnad Prydain Fawr hefyd wirio’r gofyniad o ran y nod adnabod ar gyfer eu marchnad darged.

Ar farchnad Gogledd Iwerddon

Rhaid i’r nod adnabod gynnwys naill ai enw’r wlad yn llawn ‘UNITED KINGDOM’ neu’r talfyriad ‘GB’ neu ‘UK’ ar gyfer POAO a gynhyrchir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae llywodraeth y DU yn argymell defnyddio’r cod gwlad llawn ‘United Kingdom’ lle mae’n ymarferol gwneud hynny. Dylai busnesau sydd am symud eu POAO y tu allan i farchnad Prydain Fawr hefyd wirio’r gofyniad o ran y nod adnabod ar gyfer eu marchnad darged.

Symud cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon

Mae nodau adnabod sy’n cydymffurfio â’r gyfraith, a’r marchnadoedd y maen nhw’n berthnasol iddynt, i’w gweld yn y tabl isod.

O 1 Hydref 2023, o dan Fframwaith Windsor, cafodd y Cynllun ar gyfer Symud Cynhyrchion Bwyd-Amaeth Dros Dro i Ogledd Iwerddon (STAMNI) ei ddisodli gan Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS). Mae’r cynllun newydd yn caniatáu i ystod ehangach o fasnachwyr – fel manwerthwyr, cyfanwerthwyr, arlwywyr, a’r rhai sy’n darparu bwyd i sefydliadau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai – symud nwyddau bwyd-amaeth wedi’u pecynnu ymlaen llaw sydd ar gyfer defnyddwyr terfynol yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r trefniadau’n galluogi llwythi i symud yn seiliedig ar un dystysgrif, heb wiriadau ffisegol arferol. Erbyn hyn, gall llwythi o nwyddau bwyd-amaeth wedi’u pecynnu ymlaen llaw, sy’n symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon trwy NIRMS, fodloni safonau Prydain Fawr mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus, marchnata (gan gynnwys labelu) a chynhyrchion organig.

Mae canllawiau manylach ar gael ar y tudalennau gwe canlynol:

Defnyddio nodau adnabod ar farchnadoedd Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, yr UE a’r tu allan i’r UE

Nodau adnabod y mae’n rhaid eu defnyddio a’r farchnad gyrchfan

Sylwch, ers 9 Mai 2024, y gall busnesau yng Ngogledd Iwerddon, yn unol â Rheoliad (CE) Rhif 853/2004, hefyd ddefnyddio’r ôl-ddodiad ‘EU’ yn lle ‘EC’. Bydd yr ôl-ddodiad ‘EC’ yn parhau i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2028.

Nodau iechyd ac adnabod – Fersiwn y gellir ei lawrlwytho

Defnyddio nodau adnabod ar farchnadoedd Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, yr UE a’r tu allan i’r UE

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch fsa.communications@food.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Fersiwn hygyrch o’r tabl ‘Nodau iechyd ac adnabod’

Wrth edrych ar y dolenni i’r Nodau Adnabod, defnyddiwch y botwm ‘Yn ôl’ i ddychwelyd i’r dudalen wreiddiol.

Rhif. Nod adnabod (Saesneg yn unig) Disgrifiad o’r nod adnabod Rhanbarth y DU lle rhoddir y nod Marchad Prydain Fawr Gogledd Iwerddon Marchnad EU27 Marchad y tu allan i’r UE
1. Example of ID Mark 1. United Kingdom Northern Ireland 1234 EC (PNG, 77.7 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r geiriau’r UNITED KINGDOM mewn priflythrennau. Llinell newydd (NORTHERN IRELAND) mewn cromfachau a phriflythrennau. Llinell newydd enghraifft o rif adnabod busnes 1234 (rhifau). Llinell newydd yr ôl-ddodiad EC mewn priflythrennau. Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
2. Example of ID Mark 2. United Kingdom Northern Ireland 1234 EU (PNG, 76 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r geiriau UNITED KINGDOM mewn priflythrennau. Llinell newydd (NORTHERN IRELAND) mewn cromfachau a phriflythrennau. Llinell newydd enghraifft o rif adnabod busnes 1234 (rhifau). Llinell newydd yr ôl-ddodiad EU mewn priflythrennau. Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
3. Example of ID Mark 3. UK NI 1234 EC (PNG, 70.5 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r geiriau UK mewn priflythrennau ac yna (NI) mewn cromfachau a phriflythrennau. Llinell newydd yn enghraifft o rif adnabod busnes 1234 (rhifau). Llinell newydd yr ôl-ddodiad EC mewn priflythrennau. Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
4. Example of ID Mark 4. UK NI 1234 EU (PNG, 68.7 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r geiriau UK mewn priflythrennau ac yna (NI) mewn cromfachau a phriflythrennau. Llinell newydd yn enghraifft o rif adnabod busnes 1234 (rhifau). Llinell newydd yr ôl-ddodiad EU mewn priflythrennau. Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
5. Example of ID Mark 5. United Kingdom Northern Ireland AA123 EC (PNG, 83 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r geiriau’r United Kingdom (llythrennau mawr a bach). Llinell newydd (Northern Ireland) mewn cromfachau gyda llythrennau mawr a bach. Llinell newydd enghraifft o rif adnabod busnes AA123 (cymysgedd o lythrennau mawr a rhifau). Llinell newydd yr ôl-ddodiad EC mewn priflythrennau. Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) Ie Ie Ie Ie
6. Example of ID Mark 6. United Kingdom Northern Ireland AA123 EU (PNG, 81.1 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r geiriau’r United Kingdom (llythrennau mawr a bach). Llinell newydd (Northern Ireland) mewn cromfachau a llythrennau mawr a bach. Llinell newydd enghraifft o rif adnabod busnes AA123 (cymysgedd o lythrennau mawr a rhifau). Llinell newydd yr ôl-ddodiad EU mewn priflythrennau. Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) Ie Ie Ie Ie
7. Example of ID Mark 7. UK NI AA123 EC (PNG, 76.3 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r geiriau UK mewn priflythrennau ac yna (NI) mewn cromfachau a phriflythrennau. Llinell newydd yn enghraifft o rif adnabod busnes AA123 (cymysgedd o briflythrennau a rhifau). Llinell newydd yn defnyddio’r ôl-ddodiad EC mewn priflythrennau. Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) Ie Ie Ie Ie
8. Example of ID Mark 8. UK NI AA123 EU (PNG, 74.1 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r geiriau UK mewn priflythrennau ac yna (NI) mewn priflythrennau ac mewn cromfachau. Llinell newydd yn enghraifft o rif adnabod busnes AA123 (cymysgedd o briflythrennau a rhifau). Llinell newydd yn defnyddio’r ôl-ddodiad EU mewn priflythrennau. Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) Ie Ie Ie Ie
9. Example of ID Mark 9. GB 1234 (PNG, 67 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r llythrennau GB mewn priflythrennau. Llinell newydd yn enghraifft o rif adnabod busnes 1234 (rhifau). Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
10. Example of ID Mark 10. UNITED KINGDOM 1234 (PNG, 76.9 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r geiriau UNITED KINGDOM dros ddwy linell mewn priflythrennau. Llinell newydd yn enghraifft o rif adnabod busnes 1234 (rhifau). Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
11. Example of ID Mark 11. UK 1234 (PNG, 65.4 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r llythrennau UK mewn priflythrennau. Llinell newydd yn enghraifft o rif adnabod busnes 1234 (rhifau). Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Na Na Ie
12. Example of ID Mark 12. GB AA123 (PNG, 71 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r llythrennau GB mewn priflythrennau. Llinell newydd yn enghraifft o rif adnabod busnes AA123 (cymysgedd o briflythrennau a rhifau). Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) Ie Ie Ie Ie
13. Example of ID Mark 13. United Kingdom AA123 (PNG, 82.8 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r geiriau’r United Kingdom (llythrennau mawr a bach) dros ddwy linell. Llinell newydd yn enghraifft o rif adnabod busnes AA123 (cymysgedd o lythrennau mawr a rhifau). Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) Ie Ie Ie Ie
14. Example of ID Mark 14. UK AA123 (PNG, 69.3 KB) Nod Adnabod, Siâp Hirgrwn, gyda’r llythrennau UK mewn priflythrennau. Llinell newydd yn enghraifft o rif adnabod busnes AA123 (cymysgedd o briflythrennau a rhifau). Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) Ie Na Na Ie

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Medi 2025

Argraffu'r dudalen hon