Canllawiau

Allforio cyfarpar diogelu personol yn ystod coronafeirws (COVID-19)

Cael gwybod am y newidiadau os ydych yn allforio cyfarpar diogelu personol (PPE) yn ystod y pandemig coronafeirws.

Ni fydd angen awdurdodiad allforio mwyach ar nwyddau sy’n cael eu hallforio o’r Undeb Ewropeaidd ar ôl hanner nos ddydd Llun 25 Mai 2020.

Daeth gofyniad awdurdodi allforio’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer cynhyrchion cyfarpar diogelu personol (PPE) (Rheoliad 2020/568) i ben ar 25 Mai 2020 ac ni fydd yn cael ei ymestyn.

Gallwch e-bostio:Exports@dhsc.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newid hwn.

Yn ystod y coronafeirws, bydd angen trwydded cyfarpar diogelu personol (PPE) dros dro ar unrhyw un sydd am allforio cyfarpar diogelu personol i ardaloedd y tu allan i’r UE ac aelod-wladwriaethau EFTA a rhai tiriogaethau eraill.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi arweiniad sy’n nodi’r cyfyngiadau allforio ar gynhyrchion cyfarpar diogelu personol.

Mae yna reoliad UE sy’n cynnwys Atodiad sy’n datgan pa godau nwyddau yr effeithir arnynt. Mae’r rheoliad hefyd yn cynnwys:

  • manylebau technegol a’r broses rheoli allforio sydd bellach ar waith
  • sut y gall gweithredwyr economaidd wneud cais am drwydded

Mae’r weithdrefn drwyddedu yn cael ei gweithredu ar y cyd â’r Adran ar gyfer Masnach Ryngwladol. Rhaid e-bostio unrhyw ymholiadau am y weithdrefn drwyddedu i ppeexports@trade.gov.uk.

Datganiadau allforio’r system Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF)

Mae allforion o’r DU yn cael eu datgan gan ddefnyddio system y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF). Nid yw’r mesur hwn yn effeithio ar y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.

Sut i wneud cais am drwydded

Gallwch wneud cais am drwydded ar wefan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Sut i lenwi datganiad allforio pan fo angen trwydded

Ar ôl i chi gofrestru a bod eich trwydded allforio wedi dod i law, bydd angen i chi gynnwys gwybodaeth o’r drwydded yn eich datganiad allforio tollau.

Ym mlwch 44 o’r datganiad, ar lefel eitem, nodwch:

  • C086 fel cod y ddogfen (disgrifiad y cod: awdurdodi allforio cyfarpar diogelu (rheoliad 2020/568))
  • AE fel cod statws y ddogfen (disgrifiad y cod: dogfen wedi’i hatodi - wedi ei disbyddu gan (neu ond yn berthnasol i) y cofnod hwn (y ddogfen wedi ei dychwelyd i’r masnachwr)
  • GBPPE2020 fel cyfeirnod y ddogfen, ynghyd â’ch rhif chwe digid unigryw a roddir ar gyfer y drwydded

Mae angen llenwi maes rhan y ddogfen er mwyn dod o hyd i rif llinell y drwydded. Dylid llenwi hwn bob amser, hyd yn oed pan nad oes ond un llinell ar y drwydded.

Mae angen i’r maes maint ddangos y swm sy’n ymwneud â rhif y llinell ar y drwydded a ddatganwyd gennych yn y maes rhan.

Sut i lenwi datganiad allforio pan nad oes angen trwydded

Bydd angen i chi wneud datganiad cadarnhaol yn eich datganiad allforio tollau nad oes angen trwydded cyfarpar diogelu personol.

Ym mlwch 44 o’r datganiad, ar lefel eitem, nodwch:

  • C086 fel cod y ddogfen (disgrifiad y cod: awdurdodi allforio cyfarpar diogelu (rheoliad 2020/568))
  • XX fel cod statws y ddogfen (disgrifiad y cod: nwyddau cyn-bennawd nad yw’r ddogfen yn berthnasol iddynt)
  • GBPPE fel cyfeirnod y ddogfen (disgrifiad y cod: cod y wlad a math o drwydded bosibl) Fel arall, gellir defnyddio LIC99 fel datganiad cadarnhaol sy’n cael ei nodi fel cod datganiad gwybodaeth ychwanegol (AI) ym mlwch 44 ar lefel eitem.

Codau gweithdrefnau tollau na ellir eu defnyddio i allforio cyfarpar diogelu personol

Mae llwythi anfasnachol a gwerth isel o gyfarpar diogelu personol hefyd yn destun y mesurau trwyddedu hyn. Rhaid peidio â defnyddio’r codau gweithdrefnau tollau canlynol ar gyfer llwythi cyfarpar diogelu personol:

Cod gweithdrefnau tollau Disgrifiad y cod
10 00 096 Nwyddau personol yn cael eu hallforio o’r DU y tu allan i’r UE
10 00 087 Nwyddau dosbarthiad rhydd (ac eithrio’r rhai sydd o ddim diddordeb ystadegol) sy’n cael eu hallforio y tu allan i’r DU a’r UE sy’n llai na £873 ac sy’n pwyso llai na 1000kg ac nad ydynt yn agored i dollau nac yn cael eu cyfyngu
10 00 098 Nwyddau Dosbarthiad Rhydd wedi’u heithrio rhag ystadegau masnach allanol o dan Atodiad 1, Rheoliad Comisiwn 2010/113, nwyddau nad ydynt yn destun ystadegau sy’n cael eu hallforio y tu allan i’r DU neu’r UE

Cael rhagor o wybodaeth

Os cewch broblemau wrth ddatgan eich trwydded yn eich datganiad allforio tollau, gallwch ofyn i ddesg gymorth System Allforio Genedlaethol CThEM am help drwy e-bost: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk. Mae’r ddesg gymorth hon (0300 200 3705) ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 08:00 a 16:00.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am godau gwall CHIEF cyffredinol drwy e-bostio’r Gweithrediadau CHIEF at: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 28 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 May 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. Goods exported from the European Union after midnight on Monday 25 May 2020 will no longer require an export authorisation. The export authorisation requirement for personal protective equipment expired on 25 May 2020 and will not be extended.

  3. A Welsh translation has been added.

  4. First published.