Canllawiau

Cael gwared ar ased os gwnaethoch hawlio lwfans gwariant llawn neu lwfans blwyddyn gyntaf o 50% arno

Sut i gyfrifo’r tâl mantoli pan fyddwch yn gwerthu neu’n cael gwared ar offer neu beiriannau ar ôl hawlio lwfans gwariant llawn neu lwfans blwyddyn gyntaf o 50% arnynt.

Os ydych yn gwerthu neu’n cael gwared ar ased, a’ch bod wedi hawlio’r lwfans gwariant llawn neu lwfans blwyddyn gyntaf o 50% ar gyfer yr ased hwnnw, mae’n rhaid i chi gyfrifo tâl mantoli a defnyddio’r swm hwn wrth gyfrifo’ch elw trethadwy yn eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).

  1. Gwiriwch a ydych wedi cael gwared ar yr ased a chyfrifwch ei werth.

  2. Cyfrifwch y gyfran berthnasol.

  3. Cyfrifwch y tâl mantoli.

  4. Defnyddiwch swm y tâl mantoli wrth gyfrifo’ch elw trethadwy.

Peidiwch â didynnu’r gwerth gwaredu sydd wedi’i gynnwys yn y tâl mantoli o’r gronfa prif gyfradd neu’r gronfa cyfradd arbennig (yn agor tudalen Saesneg), er bod hyn, fel arfer, yn arferol wrth wneud gwarediad.

Cyfrifo’r tâl mantoli a’r gyfradd berthnasol — lwfans gwariant llawn

I gyfrifo’r tâl mantoli, mae’n rhaid i chi gyfrifo gwerth gwaredu yr ased (yn agor tudalen Saesneg) (fel arfer, dyma’r swm rydych yn ei werthu amdano).

Os gwnaethoch hawlio lwfans gwariant llawn ar gyfer cost llawn yr ased, mae’r tâl mantoli yn gyfartal i’r gwerth gwaredu.

Os gwnaethoch hawlio lwfans gwariant llawn ar gyfer ran o gost yr ased, bydd yn rhaid i chi gyfrifo’r tâl mantoli cywir i’w ddefnyddio wrth gyfrifo’ch elw trethadwy.

I gyfrifo hyn, rhannwch y swm y gwnaethoch hawlio lwfans gwariant llawn ar ei gyfer â chost wreiddiol yr ased (bydd gwneud hyn yn cyfrifo’r gyfradd berthnasol), a lluoswch y swm hwnnw â’r gwerth gwaredu.

  1. Cyfrifwch werth gwaredu yr ased.
  2. Rhannwch y swm y gwnaethoch hawlio lwfans gwariant llawn ar ei gyfer â chost wreiddiol yr ased i gyfrifo’r gyfradd berthnasol.
  3. Lluoswch y gwerth gwaredu â’r gyfradd berthnasol.

Enghraifft o gyfrifo tâl mantoli ar ôl i lwfans gwariant llawn gael ei hawlio ar gyfer ran o gost yr ased

Ar 1 Ebrill 2023, gwnaeth Hunter and Ball Ltd wario £100,000 ar beiriant cloddio newydd.

Yn ystod y cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023, gwnaeth Hunter and Ball Ltd hawlio lwfans gwariant llawn ar gyfer £40,000 o’r gost, a rhoi’r £60,000 sy’n weddill mewn cronfa.

Ar 1 Ebrill 2026, gwnaeth Hunter and Ball Ltd werthu’r peiriant cloddio am £50,000.

I gyfrifo’r tâl mantoli:

1. Cyfrifwch y gwerth gwaredu — dyma’r £50,000 o’r gwerthiant.

2.Cyfrifwch y gyfran berthnasol. Mae’r lwfans gwariant llawn wedi cael ei hawlio ar gyfer £40,000 o’r gwariant, sef rhan o gost yr ased. Mae’r £60,000 sy’n weddill wedi cael ei ychwanegu at y gronfa lwfansau cyfalaf. Felly, y gyfran berthnasol yw £40,000 wedi’i rannu â £100,000.

3. Caiff y tâl mantoli ei gyfrifo drwy lluosi’r gwerth gwaredu â’r gyfran berthnasol.

£50,000 × (£40,000 ÷ £100,000) = £20,000

Felly, y tâl mantoli yw £20,000 — a chaiff y swm hwn ei ddefnyddio wrth gyfrifo’r elw trethadwy.

Mae’n rhaid i weddill y gwerth gwaredu, sef £30,000, cael ei ddidynnu oddi wrth y gronfa prif gyfradd yn y ffordd arferol.

Cyfrifo’r tâl mantoli a’r gyfradd berthnasol — lwfans blwyddyn gyntaf o 50%

I gyfrifo’r tâl mantoli y mae’n rhaid i chi ei ddefnyddio wrth gyfrifo’ch elw trethadwy, mae’n rhaid i chi gyfrifo cyfradd berthnasol gwerth gwaredu’r ased (yn agor tudalen Saesneg).

Dylai rhan y gwerth gwaredu sydd heb ei chynnwys yn y tâl mantoli gael ei didynnu oddi wrth eich cronfa cyfradd arbennig yn y ffordd arferol.

Os gwnaethoch hawlio lwfans blwyddyn gyntaf o 50% ar gyfer cost lawn yr ased, cyfradd berthnasol y gwerth gwaredu yw hanner.

Os gwnaethoch hawlio lwfans blwyddyn gyntaf o 50% ar gyfer hanner cost yr ased, mae’n rhaid i chi gyfrifo’r tâl mantoli cywir i’w ddefnyddio wrth gyfrifo’ch elw trethadwy.

I gyfrifo hyn, rhannwch y swm y gwnaethoch hawlio lwfans blwyddyn gyntaf o 50% ar ei gyfer â 2, a rhannwch y swm hwnnw â chost wreiddiol yr ased (bydd gwneud hyn yn cyfrifo’r gyfradd berthnasol). I gyfrifo’r tâl mantoli, lluoswch y swm hwn â’r swm y gwnaethoch werthu’r ased amdano.

  1. Cyfrifwch werth gwaredu yr ased.
  2. Rhannwch y swm gwreiddiol y gwnaethoch hawlio lwfans blwyddyn gyntaf o 50% ar ei gyfer â 2.
  3. Rhannwch y swm o gam 2 â chost wreiddiol yr ased i gyfrifo’r gyfradd berthnasol.
  4. I gyfrifo’r tâl mantoli, lluoswch y gwerth gwaredu â’r gyfradd berthnasol.

Enghraifft o gyfrifo tâl mantoli ar ôl i lwfans blwyddyn gyntaf o 50% gael ei hawlio ar gyfer ran o gost yr ased

Ar 1 Ebrill 2024, gwnaeth Hunter and Ball Ltd wario £1,600,000 ar beiriant aerdymheru.

Yn ystod y cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024, gwnaeth Hunter and Ball Ltd hawlio lwfans blwyddyn gyntaf o 50% ar gyfer £600,000 o’r gwariant, a hawlio lwfans buddsoddi blynyddol ar gyfer y £1,000,000 a oedd yn weddill.

Felly, hawliodd Hunter and Ball Ltd £300,000 o’r lwfans blwyddyn gyntaf o 50%, a chafodd y gwariant o £300,000 a oedd yn weddill ei ychwanegu at y gronfa cyfradd arbennig yn y cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2025.

Ar 1 Ebrill 2029, gwnaeth Hunter and Ball Ltd benderfynu disodli’r peiriant aerdymheru â system a oedd yn fwy effeithlon. Gwerthwyd yr hen system, yn ei gyfanrwydd, fel darnau sgrap am £200,000.

I gyfrifo’r tâl mantoli:

  1. Cyfrifwch werth gwaredu yr ased. Y gwerth gwaredu yw’r £200,000 a gawsoch o werthu’r system fel sgrap.

  2. Rhannwch y swm gwreiddiol y gwnaethoch hawlio lwfans blwyddyn gyntaf o 50% ar ei gyfer â 2. £600,000 ÷ 2 = £300,000.

  3. I gyfrifo’r gyfradd berthnasol, rhannwch y swm o gam 2 â chost lawn yr ased. £300,000 ÷ £1,600,000 = 0.1875

  4. I gyfrifo’r tâl mantoli, lluoswch y gwerth gwaredu â’r gyfradd berthnasol. £200,000 × 0.1875 = £37,500.

Felly, y tâl mantoli yw £37,500 — a chaiff y swm hwn ei ddefnyddio wrth gyfrifo’ch elw trethadwy.

Mae’n rhaid didynnu’r £162,500 sy’n weddill o’r gwerth gwaredu nad yw’n agored i dâl mantoli oddi wrth y gronfa cyfradd arbennig yn y ffordd arferol.

Cyhoeddwyd ar 20 March 2024