Anghytuno â hysbysiad cywiro refeniw
Dysgwch ragor am beth i’w wneud os ydych chi’n anghytuno â chywiriad y mae CThEF wedi’i wneud i’ch Ffurflen Dreth.
Pam rydych wedi cael hysbysiad cywiro refeniw
Os yw’ch Ffurflen Dreth yn cynnwys gwall amlwg neu os yw gwybodaeth ar goll, bydd CThEF yn gwneud y canlynol:
-
cywiro’ch Ffurflen Dreth
-
anfon hysbysiad atoch yn rhoi gwybod i chi pam ein bod wedi cywiro’ch Ffurflen Dreth
Gallwch roi gwybod wrthym eich bod am wrthod y cywiriad refeniw os ydych o’r farn ei fod yn anghywir.
Pwy all wrthod cywiriad refeniw
Gallwch wrthod y cywiriad refeniw os mai chi yw’r trethdalwr a enwir yn yr hysbysiad, neu gallwch awdurdodi asiant i’w wrthod i chi.
Os ydych yn asiant treth, bydd angen i chi gael eich awdurdodi i weithredu ar ran eich cleient i wrthod y cywiriad.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen y canlynol arnoch:
-
eich rhif Yswiriant Gwladol
-
y cyfeirnod o’ch hysbysiad — gall hyn ddechrau gyda CFSS, VCSO, LIVAAS, neu gall fod yn eich Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR)
-
eich enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
Gallwch ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich gwrthodiad o’r cywiriad refeniw, megis:
-
slipiau cyflog
-
P60s
-
anfonebau
-
datganiadau didyniad Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
Nid oes angen i chi ddarparu tystiolaeth, ond gall helpu i ddangos pam mae’r cywiriad yn anghywir.
Gwrthodwch eich cywiriad refeniw
Bydd y ffurflen yn gofyn i chi wneud y canlynol:
-
darparu rheswm dros eich gwrthodiad os yn bosibl
-
pa dreth y mae’r gwrthodiad yn ymwneud â hi
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Os rydym yn:
-
cytuno â’ch gwrthodiad, byddwn yn dileu’r cywiriad
-
anghytuno â’ch gwrthodiad efallai y byddwn yn cynnal gwiriadau pellach
Fel arfer, byddwn yn anfon ymateb atoch o fewn 30 diwrnod calendr i’ch ffurflen dod i law.