Awdurdodiadau tollau yn ystod y coronafeirws (COVID-19)
Cael gwybod am newidiadau dros dro i bolisi ac awdurdodiadau tollau i gynorthwyo busnesau yn ystod y coronafeirws (COVID-19).
Gall y newidiadau hyn effeithio arnoch os ydych wedi’ch awdurdodi, neu’n gwneud cais i gael eich awdurdodi, gan y tollau i wneud y canlynol:
- defnyddio storio dros dro neu weithdrefnau arbennig y tollau fel prosesu mewnol neu warysu tollau
- defnyddio datganiadau symlach fel cofnod yn eich cofnodion
- cael gwarant
- gweithredu fel Gweithredwr Economaidd Awdurdodedig
I’ch helpu yn ystod y coronafeirws (COVID-19) rydym wedi newid polisi ac awdurdodiadau tollau dros dro - mae’r newidiadau hyn yn cael eu gwneud ar sail eithriadol.
Caiff yr arweiniad hwn ei ddiweddaru pan ddaw’r newid hwn i ben.
Newidiadau i awdurdodiadau tollau
Os nad ydych bellach yn gallu cydymffurfio ag amod o’ch awdurdodiad oherwydd y coronafeirws (COVID-19), mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan eich swyddfa goruchwylio yn CThEM neu Lu’r Ffiniau i amrywio amodau eich awdurdodiad, dros dro.
Gallwch wneud cais i amrywio, dros dro, amodau canlynol eich awdurdodiadau tollau:
- newidiadau i oriau agor y safle
- yr angen i staff fod ar y safle er mwyn cyflawni swyddogaeth benodol os gellir cwblhau’r swyddogaeth honno o bell
- yr ardaloedd penodol o fewn lleoliad cymeradwy lle mae’n rhaid cynnal rheolaethau tollau
- lleihau amserau trigo er mwyn galluogi caniatâd cyflymach i symud ymlaen
- terfynau amser ar gyfer mesurau rhyddhau a chyfnodau trwygyrch ar gyfer gweithdrefnau arbennig
- sut i brosesu nwyddau a gedwir mewn storfeydd dros dro, am fwy na 90 diwrnod
Gallwch wneud cais i newid eich awdurdodiad dros dro drwy anfon e-bost at eich swyddfa goruchwylio o dan y pennawd ‘cais hawddfraint y tollau COVID-19’.
Edrychir ar geisiadau fesul achos unigol, a gellir eu gwrthod os oes pryderon ynghylch yr effaith ar reolaethau’r tollau.
Gwneud cais am awdurdodiadau a gwarantau tollau
Dros dro, gallwch e-bostio’ch cais drwy’r post am awdurdodiad tollau i: leeds.citexarteam@hmrc.gov.uk. Bydd angen i chi anfon eich ffurflen gais drwy’r post, â llofnod gwreiddiol, unwaith i’r rheolaethau coronafeirws (COVID-19) gael eu codi.
Os ydych yn gwneud cais am awdurdodiad tollau i ganiatáu i chi ddod â chyflenwadau bwyd, meddygol a fferyllol, byddwch yn cael blaenoriaeth yn ystod y cyfnod hwn a llwybr carlam lle bynnag y bo modd.
Ar gyfer busnesau sydd wedi’u hawdurdodi i roi Gwarantau Cynhwysfawr y Tollau, byddwn hefyd yn derbyn copi electronig o’ch ffurflen gwarant ariannol (CCG2), ffurflen gwarant cludo (C1146) a Ffurflen Atebolrwydd Contractiol ar y Cyd. Gallwch anfon ffurflenni drwy e-bost i: customs-comprehensive-guarantee-team.ccto@hmrc.gov.uk.
Ar gyfer busnesau sy’n dilyn y broses ymgeisio, gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar ohebiaeth gan y tîm cymeradwyo.
Ymweld â chi ynghylch eich cais am awdurdodiad tollau
Does dim angen i ni ymweld â chi i gadarnhau’ch awdurdodiad yn ystod y coronafeiwrs (COVID-19).
Os bydd angen i ni ymweld â chi, er enghraifft i barhau i gydymffurfio â safonau rhyngwladol ar gyfer AEO, ac nid yw’n bosibl cynnal yr ymweliad hwnnw, byddwn yn cysylltu â chi i drafod atal y broses dros dro.
Byddwn yn adolygu’r polisi hwn wrth i’r sefyllfa ddatblygu i geisio sicrhau nad yw unrhyw oedi yn y broses yn cael unrhyw effaith sylweddol ar eich busnes.
Adnewyddu’ch awdurdodiad presennol
Os na allwn adnewyddu’ch awdurdodiad tollau sydd i fod i ddod i ben, byddwn yn ymestyn eich awdurdodiad yn awtomatig i sicrhau bod gennych barhad.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym wedi rhoi estyniad awtomatig.
Updates to this page
-
Welsh translation has been added.
-
This page has been updated with contact information to send customs authorisations and guarantees forms during the coronavirus (COVID-19) outbreak.
-
First published.