Canllawiau

Rhyddhad Ffiniol ar gyfer Treth Gorfforaeth

Gallwch ostwng eich bil Treth Gorfforaeth drwy Ryddhad Ffiniol o 1 Ebrill 2023 ymlaen os yw elw’ch cwmni yn is na £250,000.

Beth yw Rhyddhad Ffiniol

O 1 Ebrill 2023 ymlaen, mae cyfradd y Dreth Gorfforaeth yn newid i:

  • 19% ar gyfer elw trethadwy o dan £50,000 (cyfradd elw bychan)
  • 25% ar gyfer elw trethadwy dros £250,000 (prif gyfradd)

Mae Rhyddhad Ffiniol yn sicrhau cynnydd graddol yn y gyfradd Treth Gorfforaeth rhwng y gyfradd elw bychan a’r brif gyfradd (yn Saesneg) — mae hyn yn caniatáu i chi ostwng eich cyfradd o’r brif gyfradd, sef 25%.

Pwy all hawlio’r Rhyddhad Ffiniol

Efallai y bydd eich cwmni neu sefydliad yn gallu hawlio Rhyddhad Ffiniol os yw’r elw trethadwy o 1 Ebrill 2023 ymlaen rhwng:

  • £50,000 (y terfyn isaf)
  • £250,000 (y terfyn uchaf)

Os yw eich cyfnod cyfrifyddu yn fyrrach na 12 mis, caiff y terfynau hyn eu gostwng yn gymesur. Mae’r terfynau hyn hefyd yn cael eu gostwng yn gymesur gan nifer y cwmnïau cysylltiedig (yn Saesneg) sydd gan eich cwmni.

Er enghraifft, os oes gan eich cwmni 3 chwmni cysylltiedig arall, bydd y terfynau’n cael eu rhannu â 4. Felly, £12,500 fydd y terfyn isaf, a £62,500 fydd y terfyn uchaf.

Pwy na all hawlio Rhyddhad Ffiniol

Ni allwch hawlio Rhyddhad Ffiniol os yw’r canlynol yn wir:

Gwiriwch faint o ryddhad y gallwch ei hawlio

Gallwch gyfrifo Rhyddhad Ymylol ar gyfer Treth Gorfforaeth i wirio faint o Ryddhad Ymylol y gallech ei hawlio.

Dim ond i gyfrifo Rhyddhad Ffiniol ar elw Treth Gorfforaeth o 1 Ebrill 2023 ymlaen y dylech ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Cyhoeddwyd ar 1 January 2007
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 January 2023 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. Use the calculator to check if you can reduce your Corporation Tax bill through Marginal Relief from 1 April 2023.

  3. The Marginal Relief tool should only be used to calculate marginal relief on corporation tax profits up to 1 April 2015.

  4. Page updated to provide more guidance on who can claim Marginal Relief and how to claim Marginal Relief for Corporation Tax

  5. The overview section has been updated to show the new rules 'before 1 April 2015'.

  6. First published.