Hawlio ad-daliad treth ar eich pensiwn drwy’r post
Dysgwch sut i hawlio ad-daliad treth ar gyfandaliad ychwanegol neu daliad arian parod ar eich pensiwn preifat.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad os ydych wedi talu gormod o dreth ar eich pensiwn.
Gwirio sut i gael ad-daliad treth ar eich pensiwn
Mae ffyrdd gwahanol o hawlio yn dibynnu ar y math o daliad a gawsoch.
Defnyddiwch yr offeryn hwn i ddysgu sut i hawlio’ch ad-daliad.
Os na allwch hawlio ar-lein
-
Gwiriwch pa ffurflen i’w defnyddio.
-
Argraffwch y ffurflen berthnasol.
-
Llenwch y ffurflen â llaw.
-
Anfonwch y ffurflen drwy’r post at CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).
Ffurflenni argraffadwy
Os byddwch yn defnyddio’r ffurflen anghywir, mae’n bosibl y bydd eich ad-daliad yn cael ei oedi.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Byddwn yn cyfrifo unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi. Byddwn yn gwneud yr ad-daliad drwy Daliadau Cyflymach i gyfrif banc yn eich enw chi neu enw’ch enwebai.
Byddwn yn edrych ar y sefyllfa eto ar ddiwedd y flwyddyn dreth i sicrhau ein bod wedi ad-dalu’r swm cywir, a byddwn yn cysylltu â chi os yw hyn yn wahanol.
Dysgwch pryd i ddisgwyl ymateb gan CThEF ynghylch ymholiad neu gais rydych wedi’i wneud.