Gwirio a ddylech hawlio am ryddhad gordaliad ar gyfer Treth Gorfforaeth
Os ydych yn credu eich bod wedi gordalu treth, defnyddiwch yr offeryn hwn sy’n rhoi gwybod i chi ai gwneud hawliad am ryddhad gordaliad yw’r ffordd gywir i chi ei hawlio’n ôl.
Os ydych yn credu bod eich cwmni wedi gordalu Treth Gorfforaeth, mae’n bosibl y cewch hawlio am ryddhad gordalu.
Mae’r offeryn ‘gwirio a ddylech hawlio’ sydd yn y canllaw hwn i asiantau a chwmnïau.
Bydd yr offeryn hwn yn gwneud y canlynol:
-
rhoi gwybod i chi sut i hawlio
-
egluro pam mae’n bosibl na fydd eich hawliad am ryddhad gordaliad yn llwyddiannus
Pwy all hawlio
Dim ond os gwnaethoch y canlynol (yn ystod y cyfnod cyfrifyddu perthnasol) y gallwch hawlio:
-
talu Treth Gorfforaeth
-
cael eich asesu i dalu Treth Gorfforaeth
Ni all asiantau wneud hawliad am ryddhad gordaliad ar ran cwmni.
Byddwn yn gwrthod eich hawliad os bydd un o’r eithriadau a restrir (Llawlyfr SACM12070 CThEF (yn agor tudalen Saesneg)) yn berthnasol i chi.
Pryd y gallwch hawlio
Y terfyn amser ar gyfer hawlio yw 4 blynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu perthnasol. Dysgwch sut i benderfynu ar y cyfnod cyfrifyddu perthnasol (Llawlyfr SACM12155 CThEF) (yn agor tudalen Saesneg).
Eich cyfnod cyfrifyddu yw’r amser sy’n cael ei gwmpasu yn Ffurflen Dreth y Cwmni.
Darllenwch ynghylch sut bydd CThEF yn ystyried hawliadau hwyr (Llawlyfr SACM10040 CThEF) (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Er mwyn defnyddio’r offeryn, bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
-
dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu y gwnaethoch y camgymeriad ynddo
-
a wnaethoch dalu Treth Gorfforaeth yn ystod y cyfnod hwn
-
a wnaethoch gael eich asesu i dalu Treth Gorfforaeth yn ystod y cyfnod hwn
-
a wnaethoch danddatgan colled
-
a wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth
-
a ydych yn meddwl bod unrhyw eithriad yn berthnasol
-
a effeithwyd ar unrhyw gyfnod cyfrifyddu arall — er enghraifft, cafodd colled a danddatganwyd ei gario ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf
Gwirio a ddylech hawlio
Defnyddiwch yr offeryn hwn er mwyn dysgu a ddylech wneud hawliad am ryddhad gordaliad ar gyfer Treth Gorfforaeth.
Os ydych yn hawlio
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r hawliad ar y fformat hwn (Llawlyfr SACM 12150 CThEF)(yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn gwneud hawliad sy’n gywir, rydych mewn perygl o wynebu gwrthodiad, oediadau a methu dyddiadau cau ar gyfer hawlio. Er mwyn osgoi gwallau, gwiriwch allwedd gynnwys y llawlyfr (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn agor ymholiad i’ch hawliad, ac yn gofyn am dystiolaeth i’w gefnogi, fel:
-
tystiolaeth ddogfennol sy’n dangos y dreth a ddidynnwyd
-
tystiolaeth o’r dreth a ysgwyddwyd mewn rhyw ffordd arall