Canllawiau

Newidiadau yn eich lwfans blynyddol yn dilyn y Cynllun Unioni Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus

Gwiriwch sut y galla’ch lwfans blynyddol fod wedi cael ei effeithio gan y cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir hefyd yn McCloud).

Os yw’r Cynllun Unioni Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus wedi effeithio arnoch a bod eich budd-daliadau wedi newid yn ystod y cyfnod pontio (1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2022), bydd swm eich cynilion pensiwn (swm talu i mewn i bensiwn) wedi newid. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn un o’r canlynol:

Gallai’r newidiadau hyn fod wedi effeithio ar eich tâl treth o ran lwfans blynyddol os yw’r ddau beth canlynol yn wir:

  • rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 roeddech yn agored i’r tâl treth o ran lwfans blynyddol, neu’n agos at ddod yn agored i’r tâl treth o ran lwfans blynyddol

  • o ganlyniad i’r cynllun unioni, mae’ch swm talu i mewn i bensiwn wedi newid

Gallwch wneud y canlynol:

Sut mae lwfansau blynyddol yn cael eu cyfrifo yn dilyn y cynllun unioni

Aelodau o gynllun pensiwn Pennod 1 — os oeddech chi’n aelod o’r cynllun newydd cyn Ebrill 2022

Ar 1 Hydref 2023, os nad ydych wedi dechrau cymryd eich budd-daliadau, bydd unrhyw fudd-daliadau a gronnwyd gennych yn ystod y cyfnod pontio yn cael eu dosbarthu fel budd-daliadau cynllun hanesyddol. Bydd eich swm talu i mewn i bensiwn ar gyfer y cyfnod pontio yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar y ffaith eich bod wedi bod yn aelod o’r cynllun hanesyddol yn ystod y cyfnod pontio. Mae hyn yn golygu y bydd eich swm talu i mewn i bensiwn yn newid ar gyfer unrhyw flwyddyn yr oeddech chi’n aelod o’r cynllun newydd. Gall hyn olygu y gall eich tâl treth o ran lwfans blynyddol newid.

Pan fyddwch yn ymddeol, neu’n cael mynediad at eich budd-daliadau, bydd yn rhaid i chi ddewis a ydych chi eisiau’r cynllun newydd neu’r cynllun hanesyddol yn ystod y cyfnod pontio. Ni fydd eich dewis yn newid eich symiau talu i mewn i bensiwn ar gyfer y cyfnod pontio. Bydd eich swm talu i mewn i bensiwn, ar gyfer y flwyddyn dreth y byddwch yn dechrau cymryd eich budd-daliadau, dim ond yn newid os byddwch yn dewis budd-daliadau’r cynllun newydd a bod y swm talu i mewn i bensiwn yn is na’r swm talu i mewn i bensiwn ar gyfer budd-daliadau’r cynllun hanesyddol.

Ar 1 Hydref 2023, os ydych chi wedi dechrau cymryd rhai o’ch budd-daliadau, neu os ydych chi’n gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw ar neu cyn y dyddiad hwnnw, byddwch yn cael dewis ar unwaith ynghylch p’un a ydych yn cael budd-daliadau hanesyddol neu fudd-daliadau’r cynllun newydd ar gyfer y cyfnod pontio.

Bydd eich swm talu i mewn i bensiwn, ar gyfer y blynyddoedd treth yr oeddech yn aelod o’r cynllun newydd, yn newid os byddwch yn dewis budd-daliadau hanesyddol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd unrhyw gyfraniadau gwirfoddol a wneir i’r cynllun newydd yn ystod y cyfnod pontio yn cael eu hychwanegu at y cynllun hanesyddol yn awtomatig. Mae hyn yn golygu na fydd swm talu i mewn i bensiwn y cyfraniadau hyn yn newid, a byddant yn aros o fewn y cynllun newydd.

Bydd gweinyddwr eich cynllun yn cyfrifo unrhyw newidiadau. Os gwnaethoch gael datganiad cynilion pensiwn o’r blaen, bydd gweinyddwr eich cynllun yn anfon datganiad cynilion pensiwn diwygiedig atoch.

Aelodau o gynllun pensiwn Pennod 1 — os na wnaethoch ymuno â’r cynllun newydd cyn Ebrill 2022

Ar 1 Hydref 2023, os nad ydych wedi dechrau cymryd eich budd-daliadau, ni fydd eich symiau talu i mewn i bensiwn ar gyfer y cyfnod pontio yn newid. Pan fyddwch yn ymddeol, neu’n cael mynediad at eich budd-daliadau, bydd yn rhaid i chi ddewis a ydych chi eisiau’r cynllun newydd neu’r cynllun hanesyddol yn ystod y cyfnod pontio. Fel arfer, ni fydd y dewis hwn yn newid eich swm talu i mewn i bensiwn.

Ar 1 Hydref 2023, os ydych chi wedi dechrau cymryd rhai o’ch budd-daliadau, neu os ydych chi’n gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw, byddwch yn cael dewis ar unwaith p’un a ydych yn cael budd-daliadau hanesyddol neu fudd-daliadau’r cynllun newydd ar gyfer y cyfnod pontio. Bydd eich swm talu i mewn i bensiwn dim ond yn newid os byddwch yn dewis budd-daliadau’r cynllun newydd a bod y swm talu i mewn i bensiwn yn is na’r swm talu i mewn i bensiwn ar gyfer budd-daliadau’r cynllun hanesyddol.

Bydd gweinyddwr eich cynllun yn cyfrifo unrhyw newidiadau. Os gwnaethoch gael datganiad cynilion pensiwn o’r blaen, bydd gweinyddwr eich cynllun yn anfon datganiad cynilion pensiwn diwygiedig atoch.

Aelodau o gynllun pensiwn Pennod 2

Bydd y budd-dal a ddewiswyd gennych yn newid eich swm talu i mewn i bensiwn os oeddech yn rhan o un o’r canlynol:

  • cynllun hanesyddol a’r cynllun 2015

  • cynllun 2015 ac yn dewis budd-daliadau’r cynllun hanesyddol

Os ydych chi’n dewis cynllun hanesyddol

Gan nad yw’r cynllun hanesyddol wedi’i gofrestru, nid oes unrhyw swm talu i mewn i bensiwn ar gyfer budd-daliadau eich cynllun sylfaenol. Fodd bynnag, os gwnaethoch dalu cyfraniadau gwirfoddol i’r cynllun 2015, mae’r budd-daliadau ar gyfer y cyfraniadau hynny yn parhau i aros o fewn cynllun 2015. Bydd swm talu i mewn i bensiwn gan y budd-daliadau o gyfraniadau gwirfoddol, a bydd angen profi’r swm hwn yn erbyn eich lwfans blynyddol. Os gwnaethoch gael datganiad cynilion pensiwn o’r blaen, bydd gweinyddwr eich cynllun yn anfon datganiad cynilion pensiwn diwygiedig atoch.

Os gwnaethoch dalu tâl treth o ran lwfans blynyddol, efallai y bydd iawndal neu ad-daliad treth yn ddyledus i chi. Gallwch gyflwyno cais am hyn drwy’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

Os ydych chi’n dewis cynllun 2015

Os ydych chi’n dewis budd-daliadau cynllun 2015, ac roeddech mewn cynllun hanesyddol hefyd, bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn cyfrifo eich symiau talu i mewn i bensiwn ar gyfer y blynyddoedd yr effeithir arnynt, ac efallai y bydd yn anfon datganiad cynilion pensiwn atoch.

Aelodau o gynllun pensiwn Pennod 3

Fel arfer, ni fydd eich symiau talu i mewn i bensiwn ar gyfer y cyfnod pontio yn newid yn ôl-weithredol. Os ydych chi’n aelod sy’n bensiynwr, a bod eich budd-daliadau wedi cynyddu oherwydd tanategu’r cyflog terfynol, bydd eich swm talu i mewn i bensiwn dim ond yn gostwng yn ystod y flwyddyn y digwyddodd y tanategu. Os yw’r newid yn effeithio arnoch chi, bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn cysylltu â chi.

Os oedd gennych, neu os oeddech yn agos at gael, y lwfans blynyddol wedi’i feinhau

Os cawsoch, neu os oeddech yn agos at gael, lwfans blynyddol wedi’i feinhau yn ystod y cyfnod pontio, efallai y bydd eich trothwy a’ch incwm wedi’i addasu wedi newid o ganlyniad i ddwyn yn ôl. Os nad ydych yn gwybod eich trothwy a’ch incwm wedi’i addasu, gallwch eu cyfrifo gan ddefnyddio’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

Os ydych chi’n aelod o gynllun pensiwn Pennod 1, bydd yn rhaid i chi ail-gyfrifo eich trothwy a’ch incwm wedi’i addasu (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y blynyddoedd yr oeddech chi mewn cynllun newydd. Bydd angen i chi gyfrifo’r symiau hyn yn seiliedig ar y cyfraniadau y dylech fod wedi’u talu i’r cynllun hanesyddol yn hytrach na’r cyfraniadau a dalwyd gennych, mewn gwirionedd, i’r cynllun newydd.

Os ydych chi’n aelod o gynllun pensiwn Pennod 2 sy’n dewis cynllun 2015, bydd yn rhaid i chi ail-gyfrifo eich trothwy a’ch incwm wedi’i addasu (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y blynyddoedd yr oeddech chi mewn cynllun hanesyddol.

Bydd angen i chi gyfrifo’r symiau hyn yn seiliedig ar y cyfraniadau y dylech fod wedi’u talu i’r cynllun 2015 yn hytrach na’r cyfraniadau a dalwyd gennych, mewn gwirionedd, i’r cynllun hanesyddol.

Bydd gweinyddwr eich cynllun yn rhoi’r wybodaeth hon i chi os yw swm y cyfraniadau sy’n daladwy yn wahanol i’r swm a dalwyd gennych.

Gwirio a oes gennych daliadau treth newydd neu daliadau treth ychwanegol rhwng blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2021 i 2022

Gallwch wirio a oes gennych daliadau treth newydd o ran lwfans blynyddol neu daliadau ychwanegol o ran lwfans blynyddol rhwng blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2021 i 2022 drwy ddefnyddio’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

Mae’n rhaid cyflwyno pob newid i daliadau treth o ganlyniad i’r cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus drwy’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus, ac nid drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os oes gennych daliadau ychwanegol, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • talu’r tâl eich hun

  • dewis bod eich cynllun yn talu

Os byddwch yn dewis talu’r tâl eich hun, byddwn yn anfon asesiad a fydd yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch dalu.

Os ydych am i’ch cynllun dalu, bydd gennych yr opsiwn i ddewis eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus i dalu’r tâl gan ddefnyddio’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

Ni ddylech ddewis eich cynllun yn hwyrach na’r dyddiadau canlynol:

  • 6 Gorffennaf 2025 os oeddech chi’n aelod gweithredol neu’n aelod gohiriedig ar 1 Hydref 2023

  • 6 Gorffennaf 2027 os oeddech chi’n bensiynwr ar 1 Hydref 2023

Os na fyddwch yn dewis eich cynllun erbyn y dyddiad cau, gallwch ofyn i’ch cynllun dalu o hyd, ond chi yn unig fydd yn gyfrifol am y taliad hwn. Mae hyn yn golygu y gallech fod yn agored i unrhyw daliadau neu gosbau ychwanegol.

Os hoffech fod unrhyw gynllun pensiwn arall yn talu’r tâl, bydd angen i chi wneud dewis ar gyfer y cynllun o’ch dewis.

Os ydych chi’n gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw, bydd y canlynol yn wir:

  • ni fyddwch yn gallu dewis y cynllun i dalu taliadau ychwanegol

  • byddwch yn agored i unrhyw daliadau ychwanegol

Rhoi gwybod am daliadau o ran lwfans blynyddol ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023

O ganlyniad i’r cynllun unioni, mae gan gynlluniau pensiwn ragor o amser i anfon datganiadau cynilion pensiwn. Mae hyn yn golygu y byddwch yn colli’r dyddiad cau Hunanasesiad ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023.

Dylech roi gwybod am unrhyw daliadau o ran lwfans blynyddol yr oeddech yn agored iddynt ym mlwyddyn dreth 2022 i 2023 drwy’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus, ac nid drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Wrth nodi eich ffigurau ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, gallwch roi ‘sero’ mewn unrhyw flwch sy’n gofyn pa swm a dalwyd yn wreiddiol.

Os byddwch yn dewis talu’r tâl eich hun, byddwn yn anfon asesiad a fydd yn nodi sut y gallwch dalu.

Os ydych am i’ch cynllun dalu, bydd gennych yr opsiwn i ddewis eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus i dalu’r tâl gan ddefnyddio’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

Ni ddylech ddewis eich cynllun yn hwyrach na’r dyddiadau canlynol:

  • 6 Gorffennaf 2025 os oeddech chi’n aelod gweithredol neu’n aelod gohiriedig ar 1 Hydref 2023

  • 6 Gorffennaf 2027 os oeddech chi’n bensiynwr ar 1 Hydref 2023

Os na fyddwch yn dewis eich cynllun erbyn y dyddiad cau, gallwch ofyn i’ch cynllun dalu o hyd, ond chi yn unig fydd yn gyfrifol am y taliad hwn. Mae hyn yn golygu y gallech fod yn agored i unrhyw daliadau neu gosbau ychwanegol.

Os hoffech fod unrhyw gynllun pensiwn arall yn talu’r tâl, bydd angen i chi wneud dewis ar gyfer y cynllun o’ch dewis.

Os ydych chi’n gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw, bydd y canlynol yn wir:

  • ni fyddwch yn gallu dewis y cynllun i dalu taliadau ychwanegol

  • byddwch yn agored i unrhyw daliadau ychwanegol

Cael ad-daliad

Bydd ad-daliad yn ddyledus i chi neu weinyddwr eich cynllun os yw swm tâl treth a dalwyd o ran lwfans blynyddol blaenorol wedi gostwng o ganlyniad i’r cynllun unioni. Gallwch gyflwyno cais i gael ad-daliad drwy’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus. Bydd sut mae’r ad-daliad yn cael ei wneud yn dibynnu ar bwy wnaeth dalu’r tâl gwreiddiol.

Os gwnaeth swm y tâl ostwng rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2023

Os gwnaethoch dalu’r tâl gwreiddiol, bydd CThEF yn eich ad-dalu’n uniongyrchol.

Os gwnaeth eich cynllun dalu’r tâl gwreiddiol, bydd CThEF yn anfon y manylion at eich cynllun pensiwn er mwyn i’r cynllun gynyddu budd-daliadau eich pensiwn i gwmpasu swm yr ad-daliad sy’n ddyledus o ganlyniad i daliadau treth a ordalwyd ar eich rhan.

Os gwnaeth swm y tâl ostwng rhwng 6 Ebrill 2015 a 5 Ebrill 2019

Bydd CThEF yn anfon y manylion i’ch cynllun pensiwn.

Ar ôl i’ch cynllun pensiwn adolygu’r manylion a chytuno ar y symiau hyn, efallai y bydd y cynllun pensiwn yn gwneud y canlynol:

  • talu iawndal i chi am y taliadau treth a ordalwyd gennych

  • cynyddu budd-daliadau eich pensiwn i gwmpasu swm y taliadau treth a ordalwyd ar eich rhan

Os gwnaethoch ofyn i gynllun pensiwn sector preifat dalu’r tâl gwreiddiol, bydd angen i chi gysylltu â’r cynllun i drafod hyn.

Terfynau amser estynedig a dyddiadau cau

Mae’r terfynau amser wedi’u hymestyn lle mae taliadau treth wedi codi o ganlyniad i’r cynllun unioni, rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2023.

Lle mae newidiadau i bwy sy’n agored i’r taliadau treth hyn, bydd y cynllun unioni yn gwneud newidiadau ôl-weithredol. Byddwch yn gallu defnyddio’r canllaw Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus i wneud y canlynol:

  • cyfrifo newidiadau i’ch taliadau o ran lwfans blynyddol

  • rhoi gwybod am newidiadau i’ch taliadau o ran lwfans blynyddol

Os yw’r cynllun unioni yn effeithio arnoch chi, mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol, erbyn 31 Ionawr 2025 os ydych chi’n aelod o un o’r cynlluniau canlynol:

  • Cynllun pensiwn Pennod 1 nad oedd, cyn 1 Hydref 2023, wedi dechrau cymryd pensiwn, neu os ydych chi’n gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw nad oedd wedi marw cyn y dyddiad hwn

  • Cynllun pensiwn Pennod 2

  • Cynllun pensiwn Pennod 3

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol, erbyn 31 Ionawr 2027 os ydych chi’n cael eich effeithio gan y cynllun unioni a’ch bod yn bensiynwr neu’n gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer person a fu farw cyn 1 Hydref 2023.

Os ydych chi’n fwy nag un math o aelod, megis rydych yn aelod mewn un cynllun ac yn bensiynwr mewn cynllun arall, mae gennych tan y diweddaraf o’r dyddiadau i roi gwybod i CThEF am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol.

Treth a ordalwyd yn wreiddiol gan aelod y cynllun

Os yw’r cynllun unioni yn effeithio arnoch chi, mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol, erbyn 31 Ionawr 2029 os ydych chi’n aelod o un o’r cynlluniau canlynol:

  • Cynllun pensiwn Pennod 1 nad oedd, cyn 1 Hydref 2023, wedi dechrau cymryd pensiwn, neu os ydych chi’n gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw nad oedd wedi marw cyn y dyddiad hwn

  • Cynllun pensiwn Pennod 2

  • Cynllun pensiwn Pennod 3

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol, erbyn 31 Ionawr 2031 os ydych chi’n cael eich effeithio gan y cynllun unioni a’ch bod yn bensiynwr neu’n gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer person a fu farw cyn 1 Hydref 2023.

Llog ar ad-daliad

Os oes gennych ostyngiad mewn lwfans blynyddol rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2023, a hynny o ganlyniad i’r cynllun unioni, bydd CThEF yn cyfrifo llog ar ad-daliadau yn seiliedig ar y flwyddyn dreth y mae’r taliadau’n berthnasol iddi.

Os oes gennych ostyngiad am dâl rydych chi wedi’i dalu o’r blaen mewn un neu fwy o flynyddoedd treth, ond cynnydd mewn un neu fwy o flynyddoedd treth eraill, lle rydych wedi rhoi gwybod i ni y byddwch yn talu’r un math o dâl, byddwn yn cyfrifo swm y llog ar ad-daliad cyn gwrthbwyso’r gwahaniaethau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mai 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. Information about checking if the remedy affects you has been removed. This is now integrated into "Calculate your public service pension adjustment".

  3. Information has been updated about how to elect your scheme to pay additional tax charges, what to do if you want a different scheme to pay the additional tax charges and what happens after your submission for a refund has been received.

  4. The section headed ‘Getting a refund’ has been updated to tell members of action taken where a scheme has paid the original charge. Guidance has been updated with information about legal personal representatives of deceased members.

  5. The section 'Check if you have new or additional tax charges between the 2019 to 2020 and 2021 to 2022 tax years' has been updated to show the correct dates.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon