Canllawiau

Newid eich manylion neu gadael y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol

Dysgwch sut i newid eich manylion, sut i adael y cynllun neu sut i drosglwyddo cyfleusterau cynhyrchu i gynhyrchydd arall.

Newid eich manylion

Cysylltwch â’r Uned Dilysu Diodydd Gwirodol drwy e-bostio enquiries.sdvs@hmrc.gov.uk i newid eich manylion.

Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF ynghylch unrhyw fanylion anghywir neu os oes newidiadau i’ch:

  • cyfeiriad
  • enw masnachu
  • manylion cyswllt
  • endid cyfreithiol
  • manylion y safle

Tynnu’n ôl o’r cynllun dilysu

Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os ydych am dynnu’n ôl o’r cynllun, oherwydd nad ydych bellach yn gwneud y canlynol:

  • gweithredu fel mewnforiwr swmp wedi’i ddilysu gyfer Wisgi Albanaidd
  • gweithredu prosesau cynhyrchu wedi’u dilysu ar gyfer Wisgi Albanaidd, Wisgi Gwyddelig, Hufen Gwyddelig, Wisgi Tatws Gwyddelig, Brandi Seidr Gwlad yr Haf neu Wisgi Cymreig Brag Sengl

I dynnu’n ôl o’r cynllun, e-bostiwch enquiries.sdvs@hmrc.gov.uk gan gadarnhau’r canlynol:

  • y dyddiad rydych am adael
  • y rhesymau pam nad oes bellach angen i chi gael dilysiad ar ôl y dyddiad hwnnw

Ni fyddwch yn cael ad-daliad os byddwch yn tynnu’n ôl o’r Cynllun Dilysu yn ystod y flwyddyn. Codir ffioedd i adfer y costau o gynnal ymweliadau dilysu, felly ni fyddwch yn cael ad-daliad am ffioedd sydd eisoes wedi’u talu.

Ar ôl i chi adael y cynllun

Bydd CThEF yn dileu unrhyw gyfleusterau cynhyrchu neu fewnforwyr swmp sy’n gysylltiedig â’r cais sydd wedi’i dynnu o’r gwasanaeth chwilio (yn Saesneg) ar ddiwedd y cylch dilysu.

Ar ôl i chi adael:

  • yn gyfreithiol, ni fyddwch bellach yn gallu cynhyrchu’r diodydd gwirodol perthnasol sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ― bydd hyn hefyd yn effeithio ar unrhyw gynhyrchion y byddwch yn eu prosesu ar ran eich cwsmeriaid ar ôl y dyddiad hwn
  • os byddwch yn cynhyrchu diodydd gwirodol sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ar ôl i’ch dilysiad ddod i ben, efallai y byddwch chi neu’ch cwsmer yn agored i gamau gorfodi ― gall CThEF drosglwyddo gwybodaeth i’r awdurdodau dynodedig, lle bo’n briodol
  • gallwch osod ar y farchnad unrhyw gynhyrchion a gynhyrchwyd o dan y cynllun cyn i chi dynnu’n ôl
  • bydd unrhyw frandiau sydd wedi’u dilysu y gwnaethoch eu cynhyrchu cyn tynnu’n ôl o’r cynllun yn parhau i fod yn ddilys. Ar ddiwedd y cylch gwirio, bydd y brand yn parhau ar restr CThEF o frandiau sydd wedi’u dilysu, ond bydd yn dangos y dyddiad pan nad yw bellach yn frand sydd wedi’i ddilysu
  • bydd unrhyw gyflenwadau o’r brand a ddilysir cyn tynnu’n ôl o’r cynllun yn parhau yn wirodydd dilys â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig
  • bydd unrhyw gyfleusterau cynhyrchu sy’n gysylltiedig â’r cais sydd wedi’i dynnu’n ôl yn cael eu dileu o’r gwasanaeth chwilio ar ddiwedd y cylch dilysu
  • bydd unrhyw fewnforwyr swmp sy’n gysylltiedig â’r un sydd wedi tynnu’n ôl o’r cynllun yn cael eu dileu o’r rhestr o fewnforwyr swmp dilys yn y gwasanaeth chwilio ar ddiwedd y cylch dilysu. O ganlyniad, ni fydd y mewnforwyr swmp yn gallu mewnforio cyflenwadau pellach o Wisgi Albanaidd

Dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i’ch cwsmeriaid am unrhyw newidiadau gallai effeithio arnynt. Mae hyn oherwydd y gall statws eich cyfleusterau effeithio ar statws y cynhyrchion yr ydych yn eu prosesu i’ch cwsmeriaid.

Trosglwyddo cyfleusterau cynhyrchu i gynhyrchydd arall

Os yw’r perchennog newydd eisoes wedi’i ddilysu

Bydd CThEF yn cysylltu â’r perchennog newydd i gadarnhau manylion y caffaeliad ac i ddiweddaru cofnodion y person neu’r busnes i ddangos caffaeliad y cyfleusterau cynhyrchu.

Bydd y cyfleusterau cynhyrchu sydd newydd eu caffael yn cadw eu statws o fod wedi’u dilysu am weddill y cylch dilysu cyfredol ar yr amod:

  • bod y gweithredwr blaenorol wedi rhoi gwybod i CThEF am y trosglwyddiad
  • bod o leiaf 6 mis yn weddill o’r cylch dilysu cyfredol

Os nad yw’r perchennog newydd wedi’i ddilysu

Mae’n rhaid iddo wneud cais i gael ei ddilysu cyn pen 6 mis o gaffael y cyfleusterau cynhyrchu. Os na fydd yn gwneud hyn, bydd y prosesau’n colli eu statws sicr.

Cyhoeddwyd ar 27 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 August 2023 + show all updates
  1. Page updated to include references to Single Malt Welsh Whisky.

  2. First published.