Canllawiau

Gofyn DWP i adolygu cais blaenorol i stopio (hepgor) ad-daliadau Taliad Caledi Adferadwy a wnaed rhwng 1 Ionawr 2014 a 11 Ionawr 2021.

Sut i ofyn DWP i adolygu’r penderfyniad fod rhaid i chi ad-dalu taliad caledi.

This guidance was withdrawn on

You can no longer apply for this scheme.

Applies to England, Scotland and Wales

Mae’r cynllun hwn am bobl sydd wedi cael taliad caledi o Gredyd Cynhwysol ac wedi ei ad-dalu.

Os gwnaethoch ofyn DWP i stopio (‘hepgor’) ad-daliadau, a bod DWP wedi gwrthod eich cais, efallai y gallwch ofyn am ad-daliad.

Byddwch dim ond wedi cael taliad caledi os cafodd eich Credyd Cynhwysol ei leihau oherwydd sancsiwn neu gosb twyll.

Cymhwysedd

Gallwch ofyn DWP i adolygu ei benderfyniad i beidio â stopio ad-daliad eich taliad caledi os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • gwnaethoch ofyn DWP (un ai Credyd Cynhwysol neu Reoli Dyled DWP) i hepgor yr ad-daliad o daliad caledi rhwng 1 Ionawr 2014 a 11 Ionawr 2021
  • gwrthododd DWP eich cais i hepgor yr ad-daliad
  • rydych wedi ad-dalu’r taliad caledi

Bydd angen i chi hefyd ddangos naill ai: - nad oeddech yn gallu fforddio ad-dalu’r taliad caledi ar y pryd - cafodd ad-dalu effaith sylweddol ar eich iechyd neu les chi neu eich teulu - mae hyn yn golygu ei fod wedi achosi cyflwr iechyd neu wedi gwaethygu cyflwr iechyd

Bydd yr ymarfer hon yr un mor berthnasol i Gymru, Lloegr, a’r Alban.

Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen gais.

Rhaid i chi wneud cais erbyn 19 Mehefin 2023.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r amser yr oeddech yn ad-dalu eich taliad caledi.

Bydd angen i ni weld tystiolaeth:

  • nad oeddech yn gallu fforddio ad-dalu’r taliad caledi, neu
  • roedd ad-dalu eich taliad caledi yn effeithio ar eich iechyd neu’ch lles chi neu eich teulu

Gall hyn gynnwys:

  • gwybodaeth ariannol o’r adeg, fel datganiadau banc, gwybodaeth am fenthyciadau, neu lythyrau o gredydwyr
  • gwybodaeth o feddyg neu weithiwr iechyd arall yn dweud bod ad-dalu’r arian yn achosi cyflwr iechyd neu ei waethygu

Bydd hefyd angen i chi ddarparu gwybodaeth am eich incwm a chostau byw ar y pryd. Os nad oes gennych y wybodaeth hon i gyd, gallwch wneud cais o hyd. Fodd bynnag, mi fydd yn helpu eich cais os gallwch roi gymaint o wybodaeth â phosibl.

Gallwch hefyd ysgrifennu llythyr sy’n ateb y cwestiynau sydd ar y ffurflen.

Anfonwch y ffurflen a’r dogfennau i:

Debt Management (C)
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2DF

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd DWP yn penderfynu a ddylech gael ad-daliad o’ch ad-daliad. Efallai y byddant yn cysylltu â chi am fwy o wybodaeth.

Os bydd DWP yn penderfynu y dylech gael ad-daliad, byddant yn talu’r arian y gwnaethoch ei ad-dalu.

Bydd DWP yn cysylltu â chi o fewn 6 wythnos o dderbyn eich cais i roi gwybod ei fod wedi cael ei dderbyn.

Pam fod hwn yn digwydd?

Mae DWP wedi adolygu ei bolisi ynghylch pryd mae’n gofyn am daliad caledi Credyd Cynhwysol gael ei ad-dalu.

Efallai y byddwch yn cael taliad caledi os yw’ch Credyd Cynhwysol wedi cael ei leihau oherwydd cosb twyll neu sancsiwn. Pan fydd y gostyngiad wedi dod i ben, fel arfer bydd angen i chi ad-dalu’r taliad caledi trwy ddidyniadau o’ch budd-dal.

Gallwch ofyn i’r ad-daliad cael ei hepgor os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nad oeddech yn gallu fforddio ei ad-dalu
  • bydd ad-dalu’r arian yn cael effaith sylweddol ar eich iechyd neu’ch lles

Os yw’r ad-daliad yn cael ei hepgor, mae hyn yn golygu nad oes angen i chi ei ad-dalu.

Cyhoeddwyd ar 18 November 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 December 2022 + show all updates
  1. Adding Welsh translation

  2. Added application form.

  3. First published.