Ychwanegu eich Cerdyn Cyn-filwr i'r ap GOV.UK One Login
Sut i ychwanegu eich Cerdyn Cyn-filwr Lluoedd Arfog EF i'r ap GOV.UK One Login, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap a dod o hyd i'r cod QR neu'r botwm i ychwanegu eich cerdyn.
You cannot get a digital Veteran Card yet. Digital cards are currently being tested with a small number of veterans, and will be rolled out to all veterans soon.
Mae angen i chi lawrlwytho’r ap GOV.UK One Login cyn y gallwch ychwanegu’r fersiwn ddigidol o’ch Cerdyn Cyn-filwyr Lluoedd Arfog EF.
Cam 1: Gwnewch yn siŵr bod gennych yr ap GOV.UK One Login
Gwiriwch fod gennych yr ap GOV.UK One Login ar eich ffôn. Os nad oes gennych yr ap, bydd angen i chi ei lawrlwytho.
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu dabled, agorwch y siop apiau ar eich ffôn a chwiliwch am GOV.UK One Login.
Os ydych yn defnyddio’ch ffôn, gallwch ei lawrlwytho o:
Gwnewch yn siŵr bod gennych yr ap cywir. Ni allwch ychwanegu eich Cerdyn Cyn-filwr at unrhyw apiau eraill y llywodraeth, fel yr ap GOV.UK neu GOV.UK ID Check.
Cam 2: Ychwanegu eich Cerdyn Cyn-filwr
Os ydych eisoes wedi dechrau ychwanegu eich Cerdyn Cyn-filwr, dylai fod gennych dudalen ar agor yn eich porwr gwe gyda chod QR neu fotwm i ychwanegu eich Cerdyn Cyn-filwr.
Sganiwch y cod QR neu tapiwch y botwm i ychwanegu eich Cerdyn Cyn-filwr.
Os nad oes gennych y cod QR na’r botwm i ychwanegu eich Cerdyn Cyn-filwr
Mae angen i chi ddechrau’r broses o ychwanegu eich Cerdyn Cyn-filwr eto.
Ewch i Gwneud cais am Gerdyn Cyn-filwr Lluoedd Arfog EF a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen i chi fewngofnodi ac ateb rhai cwestiynau eto.
Os nad oedd modd ychwanegu’ch dogfen
Ceisiwch ddechrau’r broses o ychwanegu eich Cerdyn Cyn-filwr eto.
Ewch i Gwneud cais am Gerdyn Cyn-filwr Lluoedd Arfog EF a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen i chi fewngofnodi ac ateb rhai cwestiynau eto.