Cymorth Hygyrchedd
Gwybodaeth am hygyrchedd gwasanaethau a dogfennau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
-
Sylwch fod y dudalen hon yn ymwneud yn benodol â gwybodaeth am hygyrchedd gwasanaethau a dogfennau’r DBS er budd ein cwsmeriaid
-
Am hygyrchedd sy’n ymwneud yn benodol â GOV.UK, ewch i Datganiad hygyrchedd ar gyfer www.gov.uk
-
Am y Polisi Dogfennau Hygyrch, ewch i: Polisi dogfennau hygyrch – Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Cyflwyniad
Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau a’n dogfennau yn hygyrch ac yn ddefnyddiadwy gan bawb, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i gydraddoldeb a phrofiad cwsmeriaid.
Fel sefydliad sector cyhoeddus, mae DBS yn cydnabod ei rwymedigaethau statudol a chyfreithiol i hyrwyddo cyfle cyfartal ac ystyried anghenion amrywiol ein cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth, yn ogystal â’n cyflogeion.
Mae strategaeth DBS 2028 yn amlinellu gweledigaeth DBS ar gyfer hygyrchedd, gan bwysleisio pwysigrwydd cael gwared ar rwystrau a darparu addasiadau fel y gall pawb, waeth beth fo’u galluoedd neu eu hanableddau, gymryd rhan lawn a chyfartal yn ei wasanaethau.
Dros gyfnod y strategaeth tair blynedd, mae DBS yn anelu at ymateb i anghenion a disgwyliadau esblygol staff a chwsmeriaid, gan feithrin diwylliant cynhwysol trwy ymgysylltu a chyfleoedd i gasglu data. Trwy ddatblygu polisïau a newidiadau gwasanaeth yn weithredol, mae DBS yn ceisio gwella dealltwriaeth ac olrhain yr effaith ar gefndiroedd amrywiol.
Mae’r sefydliad wedi ymrwymo i fod yn weithle cynhwysol yn reddfol, gan gydnabod a dathlu gwahaniaethau unigol wrth wella gwasanaeth cwsmeriaid.
Mae cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gan sicrhau amgylchedd cwbl gynhwysol yn fewnol a chyda rhanddeiliaid.
Gwneud y DBS yn Hygyrch i Bawb
Ymrwymiad i Hygyrchedd
Mae DBS wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hadeiladau, gwasanaethau, cynhyrchion ac offer yn hygyrch i bawb, waeth beth fo’u galluoedd neu eu hanableddau.
Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i wreiddio yn ein rhwymedigaethau statudol a chyfreithiol i hyrwyddo cyfle cyfartal ac ystyried anghenion amrywiol ein cyflogeion, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth.
Mae ein strategaeth 2025-28 yn amlinellu amcanion cydraddoldeb penodol sydd â’r nod o feithrin diwylliant cynhwysol, gwella dealltwriaeth trwy ymgysylltu a chasglu data, a sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag EDI.
Trwy gael gwared ar rwystrau a darparu’r addasiadau angenrheidiol, mae DBS yn ymdrechu i greu amgylchedd lle gall pob unigolyn gymryd rhan lawn a chyfartal.
Sut rydym yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth
Mae DBS wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau hygyrch i bob cwsmer, gan gynnwys y rhai o gymunedau dan anfantais. Rydym yn ceisio adborth yn weithredol trwy arolygon cwsmeriaid a chyflogwyr a’n grŵp Ymchwil Defnyddwyr i nodi cyfleoedd i wella.
Gall ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ddarparu fformatau dogfennau amgen ar gais, tra bod y tîm Cymorth, Hygyrchedd ac Addasiadau Rhesymol (SARA) yn gweithio’n agos gyda chwsmeriaid i gynnig gwasanaethau sy’n diwallu anghenion unigol, yn unol â gofynion deddfwriaethol.
Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi’i chynllunio i gyfeirio cwsmeriaid at y cymorth hygyrchedd priodol fel y gallant gael y cymorth neu’r addasiadau sydd eu hangen arnynt.
Gwybodaeth gyswllt ar gyfer Cymorth Hygyrchedd
I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch, gofyn am gymorth hygyrchedd neu roi gwybod am broblemau hygyrchedd, gallwch gysylltu â gwasanaethau DBS drwy’r sianeli isod.
Ym mhob achos lle mae angen i chi neu lle rydych chi eisiau ffonio DBS, defnyddiwch y rhifau cyswllt canlynol, lle gall ein staff gwasanaeth cwsmeriaid eich cysylltu â’r cymorth priodol.
- Ffôn: 03000 200 190
- Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 03000 200 192
- Cymraeg: 03000 200 191
- E-bost: customerservices@dbs.gov.uk
- Cyfeiriad Post:
Gwasanaethau Cwsmeriaid
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Blwch Post 165
Lerpwl
L69 3JD
Dewisiadau cyswllt hygyrch
Relay UK
Gall cwsmeriaid na allant glywed na siarad ar y ffôn gysylltu â DBS drwy Relay UK, drwy ffonio 18001 yna 03000 200 192, neu drwy lawrlwytho ap Relay UK. Pan fyddwch chi’n gwneud galwad ffôn gyda’ch ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd Cynorthwyydd Relay yn gweithredu fel cyfryngwr ar gyfer eich sgwrs.
Rydych chi’n teipio’r hyn rydych chi am ei ddweud, a bydd y Cynorthwyydd Relay yn trosglwyddo’ch geiriau i DBS. Gall y Cynorthwyydd Relay hefyd deipio’r geiriau y mae DBS yn eu dweud wrthych chi, fel y gallwch chi eu darllen.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i lawrlwytho ap Relay UK ar wefan Relay UK.
Convo
Os ydych chi’n ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gallwch hefyd ddefnyddio Convo (SignLive gynt) i gysylltu â DBS drwy Ddehonglydd.
Mewngofnodwch i ap Convo ar iOS, Android, neu borwr gwe a dewch o hyd i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn y Cyfeiriadur Cymunedol.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i lawrlwytho ap Convo ar wefan Convo.
Am ragor o wybodaeth ynghylch defnyddio Convo i gysylltu â DBS, gallwch wylio’r fideo byr hwn:
How to contact DBS using Convo (for BSL users)
Ceisiadau Sensitif
Os oes angen ein proses Ceisiadau Sensitif arnoch, gallwch ddefnyddio’r sianeli canlynol:
- Ffôn: 0300 131 2784
- E-bost: sensitive@dbs.gov.uk
- Cyfeiriad Post:
Ceisiadau SensitifY Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Blwch Post 165
Lerpwl
L69 3JD
Cynnwys Hygyrch
Mae DBS yn dilyn arfer gorau mewn dogfennaeth hygyrch, yn unol â’n Polisi Dogfennau Hygyrch.
Mae DBS hefyd wedi creu Canllaw Iaith Gynhwysol a Chanllaw i Greu Cynnwys Hygyrch, y ddau ohonynt yn cael eu cynnal a’u hadolygu’n rheolaidd drwy’r broses EqIA.
Mae DBS wedi ymrwymo i fodloni rheoliadau hygyrchedd a gwella ein gwasanaethau’n barhaus. Am ragor o fanylion ynghylch ein dull, gweler y Polisi Dogfennau Hygyrch a Datganiad Hygyrchedd y Llywodraeth.
Mynediad at Wybodaeth DBS mewn Iaith Amgen
Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi ymrwymo i wneud ei wybodaeth yn hygyrch i bawb. Os oes angen unrhyw ddogfennau neu ganllawiau DBS arnoch mewn iaith arall, gallwch ofyn am y cymorth hwn.
Sut i Wneud Cais:
Cysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid DBS drwy:
- E-bost: customerservices@dbs.gov.uk
- Ffôn: 03000 200 190 (Saesneg) neu 03000 200 191 (Cymraeg)
Darparwch:
- Yr enw neu’r ddolen i’r ddogfen sydd ei hangen arnoch.
- Yr iaith sydd ei hangen arnoch.
Mae’n bwysig sylwi:
- Bydd ceisiadau am ieithoedd eraill yn cael eu hystyried fesul achos.
- Bydd DBS yn cynghori ar yr opsiynau sydd ar gael, a all gynnwys cyfieithu neu fformatau eraill.
- Mae gwasanaethau iaith Gymraeg ar gael o dan Gynllun Iaith Gymraeg y Swyddfa Gartref, er na ellir cyhoeddi tystysgrifau DBS yn y Gymraeg oherwydd gofynion cyfreithiol.
Ynglŷn â Thystysgrifau DBS
Cyhoeddir tystysgrifau DBS yn Saesneg yn unig.
Profi a Gwelliannau
Mae DBS wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ei wasanaethau a’i ddogfennau’n barhaus. Yn unol â Safon Gwasanaeth GOV.UK, rydym yn dilyn Gofynion Hygyrchedd y Llywodraeth i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gynhwysol ac yn ddefnyddiadwy gan bawb.
Er mwyn bodloni’r safonau hyn, mae DBS yn sicrhau bod pob gwasanaeth yn:
- Cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2
- Cyhoeddi datganiad hygyrchedd cydymffurfiol
- Cynnwys defnyddwyr ag anableddau mewn ymchwil defnyddwyr
- Cael eu profi gyda thechnolegau cynorthwyol cyffredin
Mae’n ofynnol i bob Golygydd Rheoli sy’n gyfrifol am gyhoeddi cynnwys DBS ar GOV.UK gwblhau hyfforddiant cynhwysfawr a ddarperir gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS).
Mae’r hyfforddiant hwn yn atgyfnerthu pwysigrwydd hygyrchedd ac yn sicrhau bod staff yn deall sut i weithredu a chynnal cynnwys hygyrch.
Mae DBS hefyd yn defnyddio Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb (EqIAs) i werthuso goblygiadau cynhwysiant a hygyrchedd newidiadau i wasanaethau. Cefnogir staff gan y tîm EDI ac mae ganddynt fynediad at storfa gynhwysfawr o ganllawiau a deunyddiau hyfforddi i sicrhau bod cynhwysiant a hygyrchedd yn cael eu hystyried ym mhob cam o ddatblygu gwasanaethau.
Er bod DBS ar hyn o bryd yn bodloni holl Ofynion Hygyrchedd y Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus. Rydym yn nodi ac yn mynd i’r afael â rhwystrau i hygyrchedd yn weithredol, gan chwilio am atebion arloesol i wella cynhwysiant a sicrhau y gall pob defnyddiwr gael mynediad at ein gwasanaethau yn hyderus.
Os oes gennych unrhyw broblemau wrth ddefnyddio unrhyw un o’n gwasanaethau digidol, defnyddiwch y wybodaeth gyswllt uchod i ofyn am gymorth neu roi adborth.
Adnoddau cysylltiedig
Gallwch ddod o hyd i’n cyfres lawn o fideos BSL yma:
Fideos BSL – rhestr chwarae YouTube
Fideos Cwestiynau Cyffredin BSL - rhestr chwarae YouTube
Updates to this page
-
Information on accessing DBS Information in an Alternative Language has been added
-
Added translation
-
Accessible contact information has been updated
-
Welsh contact number has been added to contact section.
-
Telephone number for the SARA team for Sensitive Applications has been added.
-
First published.