Ystadegau Swyddogol

Cwmnïau corfforedig yn y Deyrnas Unedig Hydref i Ragfyr 2016

Cyhoeddwyd 26 January 2017

Pwyntiau allweddol ar gyfer Hydref i Ragfyr 2016

  • Yn y Deyrnas Unedig rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2016, cafwyd 146,987 o gorfforiadau cwmnïau a 111,133 o ddiddymiadau.
  • Ar ddiwedd y cyfnod, 3,833,469 oedd nifer y cwmnïau ar y gofrestr gyfan. 3,593,602 oedd nifer y cwmnïau ar y gofrestr effeithiol.
  • Mae’r gofrestr gyfan a’r gofrestr effeithiol wedi parhau i dyfu ers dechrau 2012.
  • Er gwaethaf tueddiadau tymhorol, mae nifer y corfforiadau a diddymiadau hefyd wedi cynyddu’n gyffredinol ers 2012. Bu cynnydd sydyn yn nifer y cwmnïau a ddiddymwyd yn ystod 2016, oherwydd newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd ym mis Hydref 2015.

Bu cynnydd sydyn yn nifer y cwmnïau a ddiddymwyd yn ystod chwarter cyntaf 2016, oherwydd newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd ym mis Hydref 2015

Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y darperir yr adroddiad ystadegol llawn. Os hoffech weld cyfieithiad Cymraeg o fersiynau o’r adroddiad hwn yn y dyfodol, anfonwch neges e-bost at: statistics@companieshouse.gov.uk. Ystadegau blaenorol

Gallwch ddarllen datganiadau ystadegau blaenorol ar gyfer cwmnïau corfforedig (yn Saesneg) neu gellir gweld datganiadau ystadegau o flynyddoedd blaenorol ar wefan yr Archifau Gwladol.