Cwmnïau Corfforedig yn y Deyrnas Unedig (yn fisol ac yn wythnosol hyd fis Mehefin 2016)
Gwybodaeth am gwmnïau a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a gorfforwyd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Mehefin 2016.
Dogfennau
Manylion
Ystadegau o fis i fis ac wythnos i wythnos ar gwmnïau, gan gynnwys nifer y corfforiadau, diddymiadau, dogfennau a gofrestrwyd a maint cyfan y gofrestr yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Ystadegau blaenorol
Gallwch ddarllen datganiadau ystadegau blaenorol ar gyfer cwmnïau corfforedig neu gellir gweld sganiad o ddatganiadau ystadegau blynyddoedd blaenorol ar Yr Archifau Gwladol.
Diwygio ystadegau mis Mehefin:
Canfuwyd gwall cynhyrchu yn y ddogfen hon a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 28 Gorffennaf 2016. Roedd y gwall yn Siart 1 ar dudalen 6 o’r cyhoeddiad.
Dangoswyd y ffigur diddymiadau ar gyfer yr wythnos 4-10 Mehefin 2016 yn anghywir fel 9,695. Fe ddylai’r ffigur hwn ddarllen 6,695. Mae’r gwall hwn wedi cael ei gywiro erbyn hyn. Mae’r taenlenni Gweithgarwch Misol y Gofrestr ac O Wythnos i Wythnos hefyd wedi cael eu cywiro.