Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Neges Dydd Gŵyl Dewi
Heddiw, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rhannu ei neges Dydd Gŵyl Ddewi cyntaf.

Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae’n bleser gen i heddiw gyhoeddi fy nghyfarchion Dydd Gŵyl Dewi am y tro cyntaf, a hoffwn ddymuno’r gorau i bawb sy’n dathlu ein diwrnod cenedlaethol ledled y byd. Mae Cymru a buddiannau Cymru wrth galon y Llywodraeth.
Yn 2016, roedd cyflogaeth yng Nghymru yn uwch nag erioed, fe wnaethon ni sicrhau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a chafwyd pennod newydd yn hanes datganoli Cymru wrth i Fil Cymru dderbyn Cydsyniad Brenhinol.
Rydyn ni hefyd wedi gweld prawf mawr o ymddiriedaeth yn economi Cymru gyda chontractau mawr y Weinyddiaeth Amddiffyn yng ngogledd Cymru – maen nhw wedi gwella sefyllfa economi Cymru, sicrhau a chynyddu nifer y swyddi a thanlinellu enw da Cymru fel gwlad sy’n un o arweinwyr y byd yn y sector technoleg amddiffyn.
Uchafbwyntiau amlwg ar y llwyfan chwaraeon, yw llwyddiannau rhagorol ein tîm pêl-droed cenedlaethol ym Mhencampwriaeth Ewrop 2016 a champau buddugol carfan Cymru yn y gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Rio.
Bydd 2017 hefyd yn flwyddyn wych i’n prifddinas wrth i Gaerdydd edrych ymlaen at gynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Mae cynnal y digwyddiad anrhydeddus hwn yn gyfle arall i un o brifddinasoedd mwyaf cyffrous Ewrop ddisgleirio o flaen cynulleidfa o filiynau, gan sicrhau hwb economaidd a fydd yn cyrraedd Cymru gyfan.
Mae Cymru’n gartref i fusnesau gwych, allforwyr byd-eang, diwydiannau technoleg uchel eu perfformiad a sefydliadau academaidd eithriadol. Edrychaf ymlaen at nodi eu llwyddiannau heddiw mewn Derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain o flaen nifer o westeion arbennig o fyd busnes, treftadaeth a diwylliant Cymru.
Rwy’n grediniol bod manteisio ar gyfleoedd a ddaw yn sgil marchnad fyd-eang sy’n tyfu yn allweddol er mwyn sicrhau ffyniant hirdymor i Gymru. Yr wythnos nesaf, bydd Llywodraeth y DU yn cynnal Uwchgynhadledd gyntaf Allforio Busnes Cymru, lle bydd rhai o brif allforwyr y wlad ar gael i roi cymorth a chyngor i allforwyr tro cyntaf Cymru er mwyn iddynt allu elwa ar gyfleoedd twf byd-eang.
Mae cerrig milltir pwysig i’w cyrraedd o hyd yn ystod y flwyddyn nesaf. Gallwn ddisgwyl rhai heriau wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond disgwyliwn y bydd nifer o gyfleoedd hefyd. Rydyn ni’n gweithio’n galed i gyd-dynnu er mwyn gwneud yn siŵr bod Cymru yn y sefyllfa gryfaf posibl i elwa o Brexit, gan adeiladu economi sy’n gweithio i bawb a chreu setliad datganoli sy’n para i greu Teyrnas Unedig gadarn.
Heddiw, dathlwn Gymru, ei hanes a’i dyfodol. Hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi Hapus iawn i bawb.