Adroddiad corfforaethol

Eich Siarter

Diweddarwyd 12 January 2016

This adroddiad corfforaethol was withdrawn on

A revised HMRC Charter was published on 5 November 2020.

Rydym eisiau rhoi gwasanaeth i chi sy’n deg, cywir ac yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Rydym hefyd eisiau ei gwneud cyn hawsed â phosibl i chi gael pethau’n iawn.

Mae ‘Eich Siarter’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a’r hyn y disgwyliwn gennych chi.

Eich hawliau - Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni: Eich rhwymedigaethau - yr hyn y disgwyliwn gennych chi:
Eich parchu a’ch trin fel bod yn onest Bod yn onest a pharchu ein staff
Rhoi gwasanaeth defnyddiol, effeithlon ac effeithiol Gweithio gyda ni i gael pethau’n iawn
Bod yn broffesiynol ac ymddwyn gyda chywirdeb Canfod yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud a rhoi gwybod i ni
Gwarchod eich manylion a pharchu eich preifatrwydd Cadw cofnodion cywir a gwarchod eich manylion
Derbyn y gall rhywun arall eich cynrychioli Gwybod beth mae eich cynrychiolydd yn ei wneud ar eich rhan
Delio gyda chwynion yn gyflym a theg Ateb mewn da bryd
Mynd i’r afael â’r rhai hynny sy’n plygu neu’n torri’r rheolau Cymryd gofal rhesymol i osgoi camgymeriadau

1. Eich hawliau - Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni

1.1 Eich parchu a’ch trin fel bod yn onest

Byddwn yn eich trin mewn modd diduedd, gyda chwrteisi a pharch. Byddwn yn gwrando ar eich pryderon ac yn ateb eich cwestiynau mewn modd eglur. Byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod yn dweud y gwir wrthym, oni bai bod gennym reswm i gredu fel arall.

1.2 Rhoi gwasanaeth defnyddiol, effeithlon ac effeithiol

Byddwn yn eich cynorthwyo i ddeall yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud a phryd y mae’n rhaid i chi ei wneud. Byddwn yn trin yr wybodaeth a rowch i ni yn gyflym ac yn effeithlon, ac yn cadw unrhyw gostau i chi cyn ised â phosibl. Byddwn yn cywiro camgymeriadau cyn gynted ag y gallwn.

1.3 Bod yn broffesiynol ac ymddwyn gyda chywirdeb

Byddwn yn gweithredu o fewn y gyfraith ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin gan bobl sydd â’r lefel gywir o arbenigedd. Byddwn yn eich helpu i ddeall eich hawliau a byddwn yn sensitif i anawsterau ariannol y mae’n bosib sydd gennych.

1.4 Gwarchod eich manylion a pharchu eich preifatrwydd

Byddwn yn gwarchod gwybodaeth a gawn, a dderbyniwn neu a fyddwn yn ei chadw amdanoch. Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth ynglŷn â chi pan mae’r gyfraith yn ein caniatáu. Byddwn yn egluro pam fod angen gwybodaeth ychwanegol arnom.

1.5 Derbyn y gall rhywun arall eich cynrychioli

Byddwn yn parchu eich dymuniad i gael rhywun arall yn delio â ni ar eich rhan, megis cyfrifydd neu berthynas. I amddiffyn eich preifatrwydd, byddwn ond yn delio â nhw os ydynt wedi eu hawdurdodi i’ch cynrychioli, a byddwn yn delio â nhw mewn modd cwrtais a phroffesiynol.

1.6 Delio gyda chwynion yn gyflym a theg

Byddwn yn delio gyda’ch cwynion neu apeliadau cyn gynted ag y gallwn. Gallwch hefyd ofyn i rywun arall edrych i mewn i fater ar eich rhan. Os na allwn ddatrys materion rhyngom, gallwch ofyn i ni weithio â rhywun nad yw wedi ymwneud â’ch anghydfod yn flaenorol.

1.7 Mynd i’r afael â’r rhai hynny sy’n plygu neu’n torri’r rheolau

Byddwn yn dod o hyd i’r rheiny nad ydynt yn talu’r hyn sydd arnynt, neu sy’n hawlio mwy na ddylent, ac yn adennill yr arian. Byddwn yn codi llog a chosbau pan fo hynny’n briodol a byddwn yn defnyddio’n pwerau mewn modd rhesymol.

2. Eich rhwymedigaethau - yr hyn y disgwyliwn gennych chi

2.1 Bod yn onest a pharchu ein staff

Dylech fod yn eirwir a gweithredu o fewn y gyfraith. Rhowch yr holl ffeithiau a’r wybodaeth berthnasol i ni am eich trethi, hawliau a gwybodaeth ychwanegol y gofynnwn i chi amdani. Dylech drin ein staff â’r parch y byddech yn ei ddisgwyl gennym.

2.2 Gweithio gyda ni i gael pethau’n iawn

Gweithiwch gyda ni er mwyn gwneud yn siŵr bod eich materion treth a’ch taliadau yn gywir, a’ch bod yn talu ac yn hawlio’r swm cywir o arian. Siaradwch â ni os oes unrhyw beth nad ydych yn glir yn ei gylch.

2.3 Canfod yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud a rhoi gwybod i ni

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i dalu eich treth a hawlio taliadau, a chysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os bydd angen cymorth arnoch. Rhowch wybod i ni ar unwaith os ydych yn cael anawsterau wrth fodloni’ch rhwymedigaethau.

2.4 Cadw cofnodion cywir a gwarchod eich manylion

Gwnewch yn siŵr eich bod chi, neu’ch cynrychiolydd, yn cadw cofnodion ariannol cywir sy’n cefnogi’r hyn rydych yn ei ddweud wrthym. Peidiwch â rhannu gwybodaeth gyfrinachol gydag eraill a rhowch wybod i ni ar unwaith os ydych yn credu bod rhywun arall yn gwybod beth yw eich manylion, fel cyfrinair.

2.5 Gwybod beth mae eich cynrychiolydd yn ei wneud ar eich rhan

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thaliadau mae eich cynrychiolydd yn eu hanfon atom. Gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth a’r taliadau’n gywir ac mewn da bryd.

2.6 Ateb mewn da bryd

Anfonwch ffurflenni treth atom a thalwch symiau sydd arnoch mewn da bryd. Dylech hefyd dalu llog ar daliadau hwyr neu gosbau ar unwaith.

2.7 Cymryd gofal rhesymol i osgoi camgymeriadau

Sicrhewch eich bod yn osgoi camgymeriadau pan fyddwch yn anfon gwybodaeth atom, yn talu eich trethi neu’n gwneud cais am daliadau neu ryddhad.

3. Mwy o wybodaeth ynglŷn â CThEM

Rydym yn awdurdod trethi, taliadau a thollau effeithiol, effeithlon a diduedd.

Mae gennym ddiben hanfodol: casglu’r arian sy’n talu am wasanaethau cyhoeddus y DU a helpu teuluoedd ac unigolion gyda chymorth ariannol sydd wedi’i dargedu.

Rydym yn helpu’r mwyafrif gonest i gael eu treth yn iawn, a’i gwneud yn anodd i’r lleiafrif anonest dwyllo’r system.

Dysgwch fwy ynghylch ein:

Canfyddwch sut i:

Darllenwch ein: